麻豆官网首页入口

Coronafeirws: Yr effaith ar yr hunan gyflogedig

  • Cyhoeddwyd
collage

Mae'r datblygiadau coronafeirws wedi effeithio ar fusnesau a masnach ar draws Cymru yr wythnos hon.

Mae pobl hunan gyflogedig a busnesau bach yn enwedig yn wynebu cyfnod o ansicrwydd mawr. Mae Cymru Fyw wedi clywed gan bum person sydd ar hyn o bryd yn wynebu un o heriau mwyaf eu gyrfaoedd.

Gail Jenkins: Caffi Alys, Machynlleth

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gail Jenkins

Fy newis i oedd cau dydd Llun diwetha. Ma 'na gaffis eraill yn dre sy'n dal ar agor, ond teimlaf taw dyma'r peth iawn i neud, er gwaetha'r golled. Mae iechyd a diogelwch ein cwsmeriaid a'r staff yn bwysicach na dim.

Dwi'n berson optimistig 'gwydr hanner llawn'. Wrth gwrs, fe ddewn ni drwy hyn!

Dwi'n cyflogi tri aelod o staff rhan amser, a dwy neu dair ychwanegol (merched ysgol) i weithio adeg gwyliau a Sadyrnau.

Dwi'n poeni mwy amdanyn nhw nag am fy sefyllfa i ddeud y gwir. Yn ffodus, ma na d芒l gwyliau ar 么l gan y tair i'w gymryd. Ac os fedra i gynnig unrhyw waith ychwanegol yn ystod yr wythnosau nesfaf, yn glanhau'r caffi neu waith papur, fe wn芒i.

Dyma fy unig swydd, ma rhedeg busnes a magu dau o fechgyn dan 14 yn ddigon o waith ar y funud. Dwi hefyd yn gwirfoddoli ar gyfer digwyddiadau a gweithdai Mach Maethlon (Edible Mach - elusen leol sy'n plannu gerddi o amgylch y dre, ac yn hybu bwyta'n iach yn lleol) ac yn cynorthwyo efo cadw trefn ar y digwyddiadau yng Nghanolfan Owain Glynd诺r.

Gyda'r ysgolion ar gau bydd gen i ddigon o waith yn edrych ar 么l ac addysgu'r plant, a thrio chael persw芒d arnyn nhw taw nid amser i ffwrdd i chware ar yr Xbox ydi hyn! Dwi'n ffodus iawn bod fy ng诺r yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn parhau i weithio o adre drwy'r cyfnod yma, ac yn cael ei dalu.

Wrth gwrs, fe ddawn ni dros hyn. Anaml iawn dwi'n cymryd amser i ffwrdd, felly 'neith e les yn y pen draw. Mae angen i bawb arafu a gwerthfawrogi'r pethe sy'n bwysig weithiau, yn does? Ac fe gawn ni ddiawl o barti i ddathlu ailagor!

Kelly Owen-Parry: Cacennau Kelly, Caernarfon

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Kelly Owen-Parry

Busnes bach ydy 'Cacennau Kelly' a dwi'n ei redeg o fy nghartref. Rydw i'n gwneud cacennau a chacennau cwpan ar gyfer achlysuron arbennig. Dim ond fi sydd yn gweithio a does gen i ddim staff.

Gan nad ydych yn gallu dal y feirws gan fwyd dwi yn low risk, ond mae'r feirws wedi codi cymaint o ofn ar bawb. Dwi wedi trio bod yn deg a rhoi'r cynnig i fy nghwsmeriaid ohirio archebion. Mae gen i gwsmeriaid arbennig a mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn hapus i barhau.

O fynd yn 么l fy orders flwyddyn diwetha, rhwng y rhai sydd wedi gohirio a'r rhai sydd gen i rhwng r诺an a mis Medi fe fydda i yn fy ngholled o dros 拢1300. Fe fydd yn fwy os caiff y ddwy gacen priodas eu gohirio.

Dwi'n fam i dri o blant. Tomos yn naw oed, Elin yn chwech oed a Morgan yn dair oed.

Mae gan Morgan lawer o broblemau iechyd ers iddo gael ei eni. Mae ganddo broblemau anadlol; mae o wedi cael pedair llawdriniaeth oherwydd collapsed airway, Laryngomalacia, problemau bwydo ac hefyd sleep apnoea. Mae o ar lot o feddyginiaeth ac asthma cronig.

Mae Elin yn reit siomedig am ei phen-blwydd ond mae hi yn hogan fach beniog ac yn deall.

Dwi wedi tynnu'r plant o'r ysgol ers dydd Llun. Gan fod Morgan 芒 gymaint o broblemau dio ddim gwerth y risg iddyn nhw gario salwch o'r ysgol. Mae ei immune system mor isel 'da ni wedi penderfynu eu tynnu nhw i gyd. Mae o'n gorfod hunan-ynysu am 12 wythnos.

Mae rhan fwyaf o bobol gen i yn archebu tua tair neu bedair cacen yr un pob blwyddyn felly os golla i nhw, fe fydd yn anodd iawn i fi ailddechrau. Ond hyd yma maen nhw i gyd dal gen i felly croesi bysaidd bydd dim angen poeni am hynny!

Angharad Gwyn: Siop Adra, Parc Glynllifon

Ffynhonnell y llun, Mike Dean (Eye Imagery)
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Angharad Gwyn

Mae'n amser dyrys ac ansicr iawn i bob busnes ar hyn o bryd. Rydym wedi penderfynu cymryd pob cam posib i warchod ein staff a'n cwsmeriaid trwy wneud newidiadau i'r ffordd rydym yn gweithredu.

Rydym wedi penderfynu cau'r siop yng Nglynllifon i'r cyhoedd am o leiaf pythefnos neu hyd nes bydd yr amgylchiadau yn newid, er mwyn hwyluso ac annog ymbellhau cymdeithasol a diogelwch y staff.

Rydym yn lwcus fod ochr ar-lein y busnes wedi hen sefydlu a gyda nifer helaeth o gwsmeriaid ffyddlon, felly mae modd i ni barhau i weithredu heb unrhyw gyswllt wyneb yn wyneb 芒'n cwsmeriaid.

Mae'n amhosib gwybod be fydd yr effaith ariannol ar y busnes, ond mae hwn yn rhywbeth y bydd rhaid i bawb ddygymod ag o dros y misoedd nesaf.

Er bydd trosiant y busnes yn sicr dros 拢17,000 yn llai eleni yn dilyn canslo ein stondin yn Eisteddfod yr Urdd, ni fydd angen i mi brynu stoc ychwanegol na thalu chyflogau staff ar gyfer y digwyddiad, felly mae'r effaith ar yr elw'n llai dychrynllyd nag y mae'n ymddangos.

Fy ansicrwydd mwyaf fel cyfarwyddwr y cwmni yw'r drefn os/ pan fydd y staff (neu aelod o'u teulu) yn datblygu symptomau ac yn gorfod hunan-ynysu. Mae'r wybodaeth am y taliadau salwch yn eithaf dryslyd i ni.

Iona Lloyd-Roberts: Hyfforddwraig ffitrwydd

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Iona Lloyd-Roberts

Mae'n amser pryderus ond dwi mor passionate am gadw'r galon a'r ysgyfaint yn iach ac mae pawb yn gwybod pa mor bwysig ydi bod yn ffit yn enwedig r诺an. Mae gen i gleientiaid beichiog, cleientiaid efo M.S, rhai sydd hefo plant 芒 chanser, asthma ac anabledd. Er eu bod nhw jest a thorri bol isho d诺ad i'r gym maent yn bryderus. Nhw sydd wedi ysgogi ffordd arall o hyfforddi.

Dwi dal yn cynnal dosbarthiadau efo pawb sy'n medru d诺ad ond mae protocol y gym yn llym iawn. Hibiscrub, sanitizers, antibac wipes wrth gyrraedd, yn ystod ac wrth adael y gym.

Mae fy ngwaith fel remedial rehabilitator, clinical therapist a hyfforddwr personol yn faes eang iawn ond rwyf wedi gweithio yn galed ers blynyddoedd maeth i ddeall fy musnes a gweithio hefo clientel eang.

Wrth gwrs rwyf angen gwneud yn si诺r bod fy musnes yn llwyddo yn ystod y cyfnod ansicr iawn. Ond i fod yn gwbl onest mae'r drive gennyf i gadw pawb yn ffit ac yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol. Ymarfer corff yw fy mywyd, fy maes a fy ngreddf. Rwyf wedi pasio hwn i'r cleientiaid sydd gen i.

Mae'r feirws wedi gwneud i fi feddwl tu allan i'r bocs a hyfforddi ar fideo. Fe fydd hynny'n parhau ar 么l i'r feirws cael cic yn din! Dwi mor ddiolchgar i'r cleientiaid sydd gen i a chymorth fy nheulu yn ystod y cyfnod yma, a dwi'n edrych 'mlaen at hyfforddi ar fideo.

Dafydd Owen: Ffoto Nant, Mynytho, Pen Ll欧n

Ffynhonnell y llun, dafnant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dafydd Owen

Mae'r feirws yn golygu fod cleientiaid sgena i yn gorfod gohirio neu ganslo'r gwaith, megis cynhadleddau, priodasau, Eisteddfod yr Urdd, gwaith tuag at Euro 2020 a gwaith tuag at Eisteddfod 2020 a 2021.

Does gen i bellach ddim gwaith tan fis Mai ar y cynhara', sy'n bryderus achos mae'n golygu o leiaf 6 wythnos heb incwm. Ond dwi'n teimlo'n bechod mawr dros rheiny sy'n gorfod gohirio priodasau - sefyllfa drist iawn iddyn nhw.

FfotoNant yw fy unig ffynhonnell incwm, a bydd rhaid meddwl am ffyrdd arall o wneud incwm am y misoedd nesa. Ond mai'n anodd ar bawb, ac yn lot gwaeth ar lot fwy o bobl na fi, felly swni hefyd yn licio cymryd yr amser i drio helpu'r gymuned a thrigolion yr ardal mewn unrhyw ffordd posib.

Mae'r diffyg arweiniad yn gwneud popeth yn waeth. Yn enwedig i'r rheini sy'n rhedeg tafarndai, bwytai, gwestai, theatrau ayyb.

Mae'n anodd meddwl pa fath o help posib sydd yno heblaw am fynd n么l mewn amser a chau popeth i lawr yn lot cynt, a chymryd mesuriadau lot fwy llym er mwyn nadu'r lledaeniad o'r feirws.

Hefyd o ddiddordeb: