麻豆官网首页入口

Syniadau crefft i'w gwneud yn y t欧

  • Cyhoeddwyd
CelfFfynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley

Ydych chi'n gweithio o adre' ac yn trio addysgu'r plant yr un pryd? Wedi rhedeg allan o syniadau creadigol yn barod? Neu am lenwi'ch penwythnosau neu wyliau Pasg gyda gweithgareddau difyr a diddorol o gwmpas y t欧?

Dyma ychydig o ysbrydoliaeth gan yr artist Elin Vaughan Crowley am weithgareddau i'r plant (ac oedolion) eu gwneud yn y t欧. Mae modd eu haddasu yn 么l oedran y plant ac yn ddibynnol ar ba adnoddau sydd gennych o amgylch y lle.

Llyfr braslunio

Disgrifiad,

Rhowch gynnig ar greu llyfr braslunio gyda'r cyfarwyddiadau yma

Mae'r fideo yma yn dangos sut mae mynd ati i greu braslyfr i'w lenwi. Dyma rai syniadau ar gyfer y clawr:

Beth am fynd i'r ardd i gasglu dail, plu, blodau neu unrhyw beth naturiol sydd 芒 si芒p diddorol.

Gydag inc, brwsh a d诺r, astudiwch a brasluniwch nhw. Yna llenwch un darn papur A4 gydag un eitem.

Mi fydd hyn yn rhoi delwedd trawiadol i glawr eich llyfr, ac ar yr un pryd yn gyfle i astudio dail a dod i adnabod coed trwy si芒p y ddeilen.

Os ydych wedi creu cyfres o luniau ac eisiau syniadau ychwanegol, torrwch pob braslun yn ddarnau sgw芒r, a chreu effaith teils gyda manylion y dail.

Barddoniaeth abstract

Llenwch un dudalen A4 yn y llyfr braslunio gyda meddyliau, teimladau neu stori am y cyfnod yr ydym ynddo.

Ffynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley

Gallwch ddigrifio un diwrnod yn yr ysgol yn ystod yr wythnosau diwethaf, disgrifio eich pryderon neu deimladau, neu rannu syniadau am beth hoffech chi wneud yn ystod y cyfnod o fod adref.

Neu os ydych yn awyddus i drafod rhywbeth hollol wahanol, beth am ddisgrifio eich hoff wyliau, eich hoff Nadolig, neu ddigwyddiad teuluol. Gallwch sgwennu hyn 芒 llaw neu ar y cyfrifiadur, a dewis hoff font.

Yna, dewiswch eiriau sy'n sefyll allan, yn eiriau da yn eich barn chi. Neu dewiswch ddau neu dri gair sy'n llifo'n dda gyda'i gilydd.

Peidiwch gorfeddwl ar y pwynt hwn a thrio cyfuno geiriau sy'n gwneud synnwyr gyda'i gilydd. Rhowch gylch o amgylch y geiriau hyn (dim mwy na 10 cylch yn ddelfrydol).

Nesa', gorchuddiwch weddill y dudalen (yn defnyddio beiro, inc neu permanent marker) gyda phatrymau, lliwiau a lluniau. Gwelwch eich darn o farddoniaeth yn amlygu ei hun yn araf deg!

Poster newid hinsawdd

Y cam cyntaf yw i greu slogan gan gasglu geiriau sy'n berthnasol i'r thema, er enghraifft planed, achub, dyfodol, egni, hinsawdd, coedwigoedd, ailgylchu, natur ac yn y blaen.

Edrychwch am eiriau sy'n odli gyda rhain (gallwch ddefnyddio'r i helpu). Treuliwch ychydig o amser yn chwarae gyda'r geiriau i ysgrifennu slogan i'ch baner. Mae'n ddefnyddiol i ysgrifennu'r geiriau ar ddarnau gwahanol o bapur sgrap i symud o amgylch y bwrdd a gweld y slogan yn ffurfio felly.

Ffynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley

Dyma ychydig o enghreifftiau sloganau i roi syniadau i chi:

  • Peidiwch byth bythoedd 芒 thorri coedwigoedd

  • Pawb o bob oed, gofalwch am ein coed

  • Rhaid bod yn gyfeillgar i achub ein daear

  • Byddwch yn llafar, codwch eich llais dros y ddaear

  • Rhaid i ni weithredu, mae'r byd yn cynhesu

I greu delwedd i'ch poster, dechreuwch trwy fraslunio llun o blaned neu gylchoedd canol coeden ar bapur A4 gydag inc, pinau ffelt, pensiliau, paent, neu pa bynnag ddefnyddiau sydd gennych wrth law. Gall hwn fynd yng nghanol y poster.

Yna, twriwch trwy hen gylchgronau a thorri unrhyw lun perthnasol. Gallwch ychwanegu rhain o amgylch eich planed neu gylch coeden, yn gweithio o'r tu fewn allan, gan awgrymu eu bod nhw'n tyfu allan o ganol y llun. I ychwanegu'r slogan, torrwch lythrennau allan o bapur newydd neu gylchgrawn, neu defnyddiwch stamps os oes gennych rai, ac ychwanegu'r geiriau i'ch poster.

Cerrig Stori

Ffynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley

Os oes gennych gerrig llyfn crwn wrth law, gyda phinau ffelt 'POSCA' (sydd ar gael ar y we), cerwch ati i ddylunio cymeriadau yn defnyddio dwy garreg i bob cymeriad - un i'r pen ac un i'r corff. Gall y cymeriadau fod yn ffug neu wedi eu seilio ar aelodau o'r teulu!

Gallwch ysgrifennu proffil ffug i bob cymeriad, er enghraifft rhowch enw, oedran, p诺er arbennig, man gwan, hoff bethau, cas bethau. Dewiswch chi beth hoffech chi wneud.

Beth am wneud y weithgaredd yma eto, ond y tro yma gyda gwrthrychau amrywiol fel car, buwch, modrwy neu goeden, a chreu stori yn eich llyfr braslunio, sy'n cynnwys yr holl bethau sydd ar eich cerrig.

Gallwch gynnwys gwrthrychau sy'n ymwneud 芒'r sefyllfa yn y wlad ar hyn o bryd oherwydd y coronafeirws - ysgol, awyren, germau, llyfrau, ffrindiau. Byddai modd dechrau sgwrs am unrhywbeth sy' ar eich meddwl.

Ffynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley

Helfa drysor

Syniad arall ar sut i ddefnyddio'r cerrig gyda phlant llai: cuddiwch y cerrig o amgylch y t欧 a'r ardd, a gofynnwch i'r plant eu casglu fel helfa drysor.

Pan fydd pawb wedi casglu eu cerrig, cyfrwch faint sydd gennych. Bydd y plentyn gyda'r nifer mwyaf o gerrig yn cael y tro cyntaf i ddyfalu pa ben sy'n mynd gyda pha gorff. Bydd pawb yn cael tro i wneud hyn.

Creu brwshys paent naturiol

Os yw'n bosib i chi wneud hyn yn yr ardd neu o gwmpas eich t欧, casglwch unrhyw ddail, brigau neu bethau naturiol diddorol. Yna, gyda darn o gortyn, clymwch gasgliad o'r dail gyda'i gilydd a'u clymu i ben y brigyn. Dyma'ch brwsh paent newydd!

Bydd y plant yn mwynhau defnyddio eu brwshys gyda phaent lliwiau gwahanol.

Gadewch y llun i sychu (mae'n debygol y bydd y llun yn edrych fel llanast), a defnyddiwch y papur fel cefndir i fraslun neu lun arall.

Inc bagiau te ar gyfer braslunio

Rhowch chwech bag te cyffredin mewn mwg a llenwi hanner y mwg gyda d诺r berwedig.

Gadewch iddo oeri. Gwasgwch y bagiau te yn ofalus i mewn i'r d诺r, gan gasglu'r te i gyd a chael gwared o'r bagiau. Tywalltwch y te i mewn i jar gl芒n.

Ychwanegwch binsied o halen, llwy de o finegr a llwy de o gum arabic (mae modd prynu hwn ar-lein). Ysgwydwch y gymysgedd a'i adael dros nos. Brasluniwch gyda'r inc yn y bore!

Mae modd gwneud y broses hyn yn defnyddio petalau blodau yn lle bagiau te hefyd. Cyfle i arbrofi gyda lliwiau anhygoel natur.

Ffynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley

Hefyd o ddiddordeb: