麻豆官网首页入口

Clywch y clychau'n canu eto yn Rhuthun

  • Cyhoeddwyd
Clychau Eglwys Sant Pedr, RhuthunFfynhonnell y llun, Loteri Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yna waith atgyweirio i wyth cloch, a bu'n rhaid i un gael ei thrwsio gan gwmni weldio arbenigol

Mae clychau eglwys yn canu yng nghanol Rhuthun unwaith eto ar 么l sicrhau grant o bron i 拢100,000 i dalu am waith atgyweirio.

Mae'r wyth cloch yn Eglwys Sant Pedr yn dyddio o ganol y 1800au ond heb eu clywed yn rheolaidd ers y 1970au.

Nawr bydd cyfle i blant ac oedolion yr ardal ddysgu sut i ganu'r clychau yn y dull traddodiadol a dysgu mwy am eu hanes.

Daeth yr arian i dalu am y gwaith atgyweirio yn rhannol gan y Loteri Genedlaethol, ac i nodi hynny mae un o'r clychau wedi cael ei henwi'n 'Lottie'.

拢96,300 oedd cost y prosiect, oedd hefyd yn cynnwys adnewyddu clochdy ac ystafell raffau'r eglwys restredig Gradd I.

Adnewyddu clochdy a'r ystafell raffau

Roedd un o'r clychau wedi cracio mor ddifrifol nes bu'n rhaid i gwmni weldio arbenigol ei thrwsio er mwyn iddi ganu eto - yr unig gwmni o'i fath ar 么l yn y DU.

"Mae'n debyg bod cloch neu glychau wedi bod yn Eglwys San Pedr ers 1286 ond does dim cofnod ysgrifenedig tan 1654 pan gafodd y gloch fawr ei hanfon i Amwythig i gael ei thrwsio," meddai Mr Furniss, aelod o'r pwyllgor atgyweirio ac aelod o Gymdeithas Canwyr Clychau Gogledd Cymru

Roedd gan yr eglwys hwyrgloch hefyd, meddai, oedd yn cael ei chanu 芒 llaw i rybuddio trigolion fod angen bod adref cyn 20:00.

"Os bydden nhw'n cael eu darganfod 'dramor' - neu'r tu allan - ar 么l yr amser hwn, bydden nhw'n cael eu harestio a'u cludo i garchar Rhuthun," meddai.

Ffynhonnell y llun, Loteri Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eglwys Sant Pedr yng nghanol Rhuthun, oddi ar y sgw芒r yn nhop y dref

Oherwydd dirywiad y gloch arbennig honno, dim ond unwaith yr wythnos roedd yn cael ei chanu o ganol y 1970au.

Mae nawdd y Loteri Genedlaethol wedi caniat谩u adfer y gloch ac ychwanegu mecanwaith trydanol fel ei bod yn canu'n awtomatig am 20:00 bob dydd.

Ond trwy adfer hen draddodiad mae Mr Furniss yn pwysleisio nad oes bwriad "taflu unrhyw un i'r carchar am aros y tu allan mwyach!"

Haws eu trin erbyn hyn

Fel rhan o'r project mae plant ysgolion lleol wedi bod yn ymweld 芒'r eglwys i ddysgu am y clychau a sut i'w canu.

Mae "offer cyfoes a'r technegau dylunio diweddaraf" yn golygu eu bod yn haws i'w trin erbyn hyn. Mae'r clychau wedi cael eu tiwnio hefyd, gyda'r gobaith y bydd eu sain yn fwy swynol i'r glust.

Mae'n fwriad i gynnig hyfforddiant am ddim "i ddechreuwyr, a phobl na fyddai wedi gallu canu'r clychau trwm, fel plant, pobl h欧n a phobl ysgafn neu fychan.

"Mae llawer o frwdfrydedd wedi bod ynghylch y cynnig hwn, gyda 19 o bobl rhwng 18 a 70 oed yn cymryd rhan yn y sesiynau hyfforddi wythnosol," meddai Mr Furniss.

Dywedodd Stephen Barlow o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru fod "traddodiadau ac arferion fel y rhain yn rhan o hunaniaeth pobl leol".

Ychwanegodd y bydd y gwelliannau hefyd "yn golygu y gellir cynnig canu clychau i griw ehangach o bobl, na fyddai'n ymweld a'u heglwys leol fel arall".