麻豆官网首页入口

Coronafeirws: Busnes llaeth Tregaron yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Hugh MorganFfynhonnell y llun, Hugh Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hugh Morgan, sydd wedi gorfod rhoi gorau i'w fusnes laeth yn sgil coronafeirws

I bawb yn ardal Tregaron mae'r enw Hugh Lla'th yn hynod gyfarwydd - mae e a'i deulu wedi bod yn cario llaeth i bobl Tregaron a'r ardal ers dros 50 mlynedd ond yn sgil haint coronafeirws mae e wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi'r gorau iddi a 'dyw e ddim yn si诺r os y bydd e'n mynd n么l at y gwaith.

Wrth siarad 芒 Cymru Fyw dywedodd ei fod e'n benderfyniad hynod anodd a'i fod wedi "bod yn llefen drwy'r dydd".

Fe ddechreuodd Hugh gario llaeth pan yn fachgen saith oed gyda'i rieni Will a Dorothy Morgan.

"Rownd ardal Llangeitho, ga'th dad a mam i ddechrau ac yna ehangodd y rownd i Bontrhydfendigaid a wedyn fe ddechreuon ni gario lla'th yn ardal Tregaron - dyna yw ein bywyd ni wedi bod ac am gyfnod ro'dd fy mrawd Gerwyn hefyd yn cario lla'th," meddai.

Dywedodd ei fod yn teimlo bod yn rhaid iddo roi'r gorau iddi wedi i haint coronafeirws ledu ac wedi i fesurau newydd ddod i rym.

"Fi'n hunan yn dioddef o diabetes ac felly yn y categori pobl fregus a mae mam newydd gael llawdriniaeth yn tynnu ysgyfaint - wi'n poeni fwyaf amdani hi, be se'n i'n cario germs iddi hi?

Ffynhonnell y llun, Hugh Morgan

"Mae'n mynd i fod yn rhyfedd - wi wedi arfer codi am 4.30 dri diwrnod yr wythnos, beni rownd Tregaron a Llangeitho cyn dreifo bws ysgol - yna dod n么l i neud rownd Bont.

"Ro'dd y cyfan yn fwy na mynd 芒 lla'th i bobl - i nifer, fi o'dd yr unig un o nhw'n gweld ac o'n nhw'n dibynnu arna i am chat."

Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i Hugh a'i deulu gan iddo golli ei dad yn gynharach eleni ac mae'n dweud ei fod yn falch nad oedd ei dad wedi "gweld y fusnes yn gorfod rhoi'r gorau iddi".

O ran y dyfodol 'dyw e ddim yn gwybod os fydd e'n ailgydio yn y busnes, ac am y tro mae wedi dweud wrth y cwmni sy'n ei gyflenwi am fynd 芒'r llaeth i siopau cyfagos.

'Y dagre yn llifo'

Fe rannodd Hugh ei benderfyniad am roi'r gorau iddi ar y cyfryngau cymdeithasol fore Mawrth ac ers ei gyhoeddiad mae degau wedi bod yn diolch iddo am ei wasanaeth ac yn dweud cymaint y byddant yn ei golli.

Dywedodd un o'i gwsmeriaid wrth ymateb: "Ta beth oedd y tywydd - o'n ni yn gallu dibynnu arno ti fod wastad lla'th yn y drws."

Geiriau un arall oedd "Ddrwg iawn 'da fi glywed. Yr ydych fel teulu wedi rhoi blynyddoedd maith o wasanaeth amhrisiadwy i'r ardaloedd yma, fe fydd bwlch mawr ar dy 么l".

Ffynhonnell y llun, Hugh Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o'r poteli cynnar

"Ro'n i newydd brynu fan newydd llynedd," ychwanegodd Hugh, "ac yn ddiweddar 'rwy wedi cael mwy o gwsmeriaid.

"Yn y dyddiau cynnar, ro'dd bwti bod pawb yn cael lla'th ond fe newidiodd hynny yn raddol wrth i'r siopau mawr werthu lla'th yn rhatach.

"Mae da fi gasgliad dirifedi o wahanol boteli 'ma - o'r adeg pan oedd y ffermydd eu hunain yn rhoi'r lla'th mewn poteli.

"Mae wedi bod yn gyfnod hapus dros ben ond heddi wi'n torri fy nghalon ac mae'r dagre yn llifo."