Perygl i gleifion canser farw oherwydd diffyg gofal dwys

Disgrifiad o'r fideo, Rhybuddiodd Dr Gethin Williams y gallai cleifion canser farw am na fydd gofal dwys ar gael

Mae llawfeddyg blaenllaw wedi rhybuddio y gallai rhai cleifion canser farw am na fydd yna ofal dwys ar gael iddyn nhw oherwydd coronafeirws.

Dywedodd Gethin Williams, sy'n llawfeddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Gwent, ei fod yn poeni'n arbennig am gleifion fydd angen llawdriniaethau brys.

Yn 么l Dr Williams, bydd meddygon yn gorfod gwneud dewisiadau anodd wrth drin cleifion sydd wedi eu heintio 芒 Covid 19.

Roedd y dewisiadau hynny'n cynnwys penderfynu peidio cynnal llawdriniaethau ar rai cleifion rhag ofn iddyn nhw ddal y feirws, meddai.

Ychwanegodd nad oedd gofal dwys yn opsiwn bellach, ar gyfer cleifion oedd wedi cael llawdriniaeth frys.

'Penderfyniadau anodd' i ddod

Mae llawdriniaethau ar ganser y coluddyn wedi cael eu gohirio am y tro yn Ysbyty Brenhinol Gwent, a dywedodd Mr Williams y gallai hyn gael effaith ddifrifol ar rai cleifion.

"Mae canser y coluddyn mewn rhai pobl yn gallu tyfu, gwaedu ac ymledu," meddai.

"Mae'r canser yn tyfu'n gyflym mewn rhai ac yn araf mewn eraill... ry'n ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd dros ben dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.

"Rwy'n credu y gallai rhai cleifion canser farw oherwydd oedi yn eu triniaeth. Y ffordd mae Covid-19 yn mynd drwy'r ysbyty, fydd dim llawdriniaeth canser colorectal yn y dyfodol rhagweladwy.

"Mewn rhai achosion o ganser, mae'r prognosis yn mynd i fod yn waeth."

Ffynhonnell y llun, Robin Drayton/Geograph

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dr Gethin Williams fod Ysbyty Brenhinol Gwent wedi dod yn lle problemus i Covid-19

Dywedodd fod Ysbyty Brenhinol Gwent wedi dod yn lle problemus i Covid-19, a bod theatrau llawdriniaeth wedi eu troi'n adrannau gofal dwys dros dro.

Ychwanegodd fod yr adrannau gofal dwys yn llawn.

"Mae popeth arall ar stop," meddai. "Rhaid i ni ond gobeithio bod y tswnami yma yn pasio yn gyflym.

Ychwanegodd fod cydweithwyr yn nerfus ar 么l gweld meddygon ifanc yn mynd yn s芒l yn Yr Eidal a Llundain oherwydd coronafeirws.

Roedd Dr Williams yn croesawu'r mesurau newydd yn gorfodi pobl i ymbellhau oddi wrth ei gilydd, a dywedodd y dylai pobl aros adre.