麻豆官网首页入口

Comisiwn yn cyfeirio achosion is-bostfeistri at ap锚l

  • Cyhoeddwyd
Is-bostfeistri

Mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol wedi penderfynu cyfeirio 39 o ddedfrydau is-bostfeistri at ap锚l, gan gynnwys euogfarn is-bostfeistr o Ynys M么n.

Cafodd Noel Thomas, oedd yn cadw Swyddfa'r Post ym mhentre' Gaerwen, ei garcharu am naw mis yn 2006 ar 么l cyfadde' bwlch o 拢48,000 yn y cyfrifon.

Yn dilyn y newyddion fod ei achos am gael ei gyfeirio at ap锚l, dywedodd Mr Thomas ei fod yn "croesawu'r penderfyniad".

"Mae wedi bod yn frwydr hir, ac yn anffodus mi fydd yr holl beth yn llusgo 'mlaen am rai misoedd eto," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Noel Thomas wedi croesawu penderfyniad y comisiwn

Ymysg y 39 achos fydd yn cael eu cyfeirio at ap锚l mae achos Damian Owen hefyd, oedd yn arfer rhedeg swyddfa bost yn ardal Glanadda ym Mangor.

Cafodd ei ddedfrydu i wyth mis o garchar ar 么l ei gael yn euog o ddwyn yn 2011, gyda Swyddfa'r Post yn dweud ar y pryd fod 拢25,000 ar goll o'i gyfrifon.

Roedd yr is-bostfeistri a chyn is-bostfeistri wedi eu herlyn yn y llysoedd gan Swyddfa'r Post, oedd wedi eu cyhuddo o dwyll a dwyn arian.

Dadl yr is-bostfeistri oedd bod nam ar system Gwybodaeth Technoleg Horizon Swyddfa'r Post rhwng 1999 a 2000, ac mai hyn oedd yn gyfrifol am y diffyg yn eu cyfrifon.

Fe gafodd rhai eu carcharu, eu diswyddo a'u gwneud yn fethdalwyr; dioddefodd eraill iselder dwys a thor-priodas.

O'r cychwyn cyntaf roedden nhw'n mynnu mai'r system gyfrifiadurol oedd ar fai.

Daw penderfyniad y comisiwn yn dilyn brwydr gyfreithiol hir rhwng 550 o is-bostfeistri neu gyn is-bostfeistri, a Swyddfa'r Post yngl欧n 芒 system Horizon a'r erlyniadau troseddol.

Ym mis Rhagfyr y llynedd fe ddaeth y ddwy ochr i gytundeb, gyda Swyddfa'r Post yn cytuno i dalu bron i 拢58m fel rhan o'r setliad ariannol i'r is-bostfeistri.

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol fod y 39 achos fydd yn cael eu cyfeirio at ap锚l yn cael gwneud hynny ar y sail fod yr erlyniadau yn gamdriniaeth proses.

'Camdriniaeth proses'

Y gamdriniaeth proses ymhob un o'r 39 achos oedd system gyfrifiadurol Horizon, fyddai o bosib wedi cael effaith ar yr erlyniadau, medd y comisiwn.

Dim ond mewn achosion lle mae'r comisiwn yn ystyried fod tystiolaeth newydd yn bodoli, sy'n cynnig posibilrwydd gwirioneddol y byddai'r Llys Ap锚l yn dileu'r euogfarnau, y maen nhw'n cyfeirio achos at ap锚l.

Dywedodd y comisiwn fod 22 achos is-bostfeistr neu gyn is-bostfeistr arall yn cael eu hystyried i weld os oes sail i'w cyfeirio at ap锚l hefyd.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y comisiwn y gallai'r sefyllfa gyda coronafeirws olygu oedi yn y broses yn achos y 39 dan sylw.