麻豆官网首页入口

Cymorth i fusnesau Cymru 'erbyn canol wythnos nesaf'

  • Cyhoeddwyd
gweithiwr tecstiliauFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd busnesau yng Nghymru yn dechrau derbyn grantiau brys erbyn canol wythnos nesaf er mwyn eu helpu drwy'r argyfwng coronafeirws.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates y byddai'n rhan o'r pecyn cymorth o 拢1.4bn gafodd ei gyhoeddi'r wythnos diwethaf.

Yn y cyfamser mae Canghellor y DU, Rishi Sunak wedi cyhoeddi cynlluniau i roi grant o hyd at 拢2,500 y mis i weithwyr hunangyflogedig.

Bydd y swm sy'n cael ei dalu yn seiliedig ar 80% o'u helw cyfartalog dros y tair blynedd diwethaf - ond bydd rhaid aros nes mis Mehefin am y taliad cyntaf.

Arian yn 'sydyn'

Fe fydd y gefnogaeth ariannol i fusnesau gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddosbarthu gan awdurdodau lleol.

Mae'n cynnwys grant o 拢25,000 i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd mewn eiddo 芒 gwerth ardrethol rhwng 拢12,001 a 拢51,000.

Y gred yw y gallai tua 8,500 o siopau, bwytai, tafarndai, sinem芒u, gwestai a llety eraill elwa o'r grantiau.

Bydd grant o 拢10,000 hefyd ar gael i tua 63,500 o fusnesau eraill yng Nghymru sy'n gymwys am gymorth cyfraddau busnesa bach ac sydd 芒 gwerth ardrethol o 拢12,000 neu lai.

Dywedodd Mr Skates fod y cyhoeddiad yn rhoi sicrwydd i fusnesau y byddai'r arian yn eu cyrraedd yn "sydyn".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ken Skates fod Llywodraeth Cymru'n parhau geisio cynnig rhagor o gefnogaeth i fusnesau

"Fe fyddwn ni'n gwneud popeth allwn ni i sicrhau bod busnes llewyrchus heddiw yn fusnes llewyrchus y flwyddyn nesaf hefyd," meddai.

Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio unwaith eto y dylai busnesau a chwmn茂au gau ac anfon eu gweithwyr adref oni bai eu bod yn gwbl hanfodol.

Daw hynny'n dilyn pryderon fod rhai ffatr茂oedd, safleoedd adeiladu a chanolfannau galw yn parhau i weithio fel yr arfer.

Dywedodd y llywodraeth fod y gorchymyn newydd yr wythnos hon yn golygu y dylai pobl aros adref oni bai eu bod yn "weithwyr allweddol" neu'n cyflenwi'r gwasanaeth iechyd.

"Mae'r rheolau newydd yn glir iawn - er mwyn achub bywydau a gwarchod y GIG, mae angen i bobl aros adref," meddai llefarydd.

"Dylai pobl weithio o adref pryd bynnag allen nhw, a theithio dim ond os yw'n hollol angenrheidiol, er mwyn lleihau ymlediad coronafeirws."

Gall unrhyw un yng Nghymru sy'n torri'r canllawiau coronafeirws newydd wynebu dirwy o 拢60, gyda hynny'n codi i 拢120 am unrhyw droseddau pellach.

Aros am gymorth

Mewn ymateb i gyhoeddiad Canghellor y DU am gymorth i'r hunangyflogedig dywedodd Lauren Cook, sy'n athro gyrru yn Rhaglan, fod y cynnig yn "un da iawn" yn ariannol.

"Gorfod aros am ddeufis amdano yw'r broblem," meddai Ms Cook, 29.

"Dim jyst oherwydd biliau, ond gyda'r busnes, talu am y car, yswiriant, pethau felly."

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl am geisio cael swydd gyflogedig er mwyn cadw pethau i fynd."