麻豆官网首页入口

Technoleg fideo yn lleihau pwysau ar feddygon

  • Cyhoeddwyd
meddyg dros y weFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd pob meddyg teulu yn gallu cynnig ymgynghoriadau fideo o fis Ebrill er mwyn trin cleifion yn ystod y pandemig coronafeirws.

Mae cynllun peilot yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn cael ei ehangu yn gynt na'r disgwyl.

Meddygon fydd yn penderfynu os ydynt am gynnig y gwasanaeth, wrth i lawer o feddygfeydd gyfyngu ar nifer y cleifion sy'n gallu gweld doctor wyneb yn wyneb.

Mae'r feirws wedi gorfodi newidiadau eraill, ac mae rhai meddygfeydd yn cynnig profion gwaed mewn meysydd parcio, tra bod fferyllfeydd hefyd wedi mabwysiadu technoleg fideo i roi cyngor i gleifion.

Ers mis Tachwedd mae rhai meddygfeydd yng Nghasnewydd a'r cylch wedi bod yn defnyddio teclyn ymgynghori fideo ar-lein i siarad 芒 chleifion, ac i roi cyngor ar driniaeth.

Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r cynllun oedd fod i gael ei gyflwyno i weddill Cymru yn ddiweddarach eleni.

Ond dywedodd Dr Rebecca Payne, sydd wedi ymgynghori ar y gwaith cychwynnol, fod pethau wedi cyflymu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd fideo yn cael ei ddefnyddio ochr-yn-ochr ag offer diagnostig eraill

"Gyda Covid-19 mae gwir angen ffordd ddiogel i asesu cymaint o bobl o'u cartrefi ag y gallwn," meddai.

"Mae llawer o feddygon teulu yn hunan-ynysu hefyd, felly er mwyn sicrhau bod modd gweld cleifion, ac i gadw'r cleifion hynny'n ddiogel tra bod hyn yn digwydd, mae'r dechnoleg yma yn cael ei gyflwyno ar draws yr holl fyrddau iechyd o ddechrau mis Ebrill."

'Asesu defnyddiol'

Dywedodd Dr Payne y byddai meddygon yn defnyddio fideo ochr-yn-ochr ag offer diagnostig eraill, a dywedodd ei fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth drin plant a chleifion gyda phroblemau iechyd meddwl.

"Gall fod yn anodd, weithiau, pan fyddwch yn siarad 芒 rhiant pryderus i gael argraff dda am ba mor wael ydy cyflwr y plentyn.

"Trwy droi'r camera ymlaen i allu gwneud asesiad corfforol o'r plentyn, mae'n ddefnyddiol iawn.

"Mae hefyd yn dda iawn ar gyfer materion iechyd meddwl.

"Mae gennym y cysyniad o'r meddyg fel cyffur, ac mae cael sgwrs therapiwtig 芒 rhywun yn gallu helpu iechyd meddwl rhywun.

"Trwy ei ddefnyddio yn y ffordd yma, gan weld wyneb y claf a'r wybodaeth weledol ychwanegol, mae'n gwneud gwahaniaeth o ran sut rydych chi'n asesu rhywun."

Mae rhai meddygfeydd eraill eisoes yn defnyddio offer ymgynghori fideo, ond bydd y drefn sydd ar waith ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar gael i unrhyw feddygfa sydd am gynnig y gwasanaeth.

Profion gwaed

Mae'r coronafeirws wedi gorfodi gweithwyr iechyd i addasu'n gyflym.

Tra bod rhai yn defnyddio technoleg fideo, mae un feddygfa ym Mhorthcawl wedi dechrau cynnig profion gwaed yn y maes parcio i gleifion sy'n cymryd y cyffur teneuo gwaed warfarin.

Dywedodd Dr Janine David o Ganolfan Feddygol Porthcawl fod profion rheolaidd yn hanfodol, er bod meddygfeydd wedi gorfod lleihau eu cyswllt gyda'r cleifion.

"Prawf gwaed i bobl ar warfarin yw INR, ac os yw'r lefel yn mynd yn rhy uchel mae'n achosi trafferth - ac os yw'n rhy isel dydy hi ddim yn gweithredu mewn ffordd therapiwtig.

"Felly mae'n rhywbeth y mae angen ei wneud, a does dim modd tynnu'r cleifion yma oddi ar y cyffur warfarin."

Mae'r cleifion yn gyrru i faes parcio'r feddygfa ac yn cael eu cyfarfod gan nyrsys mewn dillad arbenigol sy'n cynnal y prawf gwaed.

"Trwy brofi bys ar fraich estynedig mae modd mesur y lefelau INR cyn gall y claf yrru i ffwrdd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Janine David: "Mae profion rheolaidd yn hanfodol"

Dywedodd Dr David fod cleifion wedi croesawu'r system newydd.

"O'n nhw'n meddwl fod e'n wych, mae'n nhw am i ni barhau ag ef yn y dyfodol.

"Mae ambell un wedi mynd ar goll yn y maes parcio ond mae ein nyrsys yn 'nabod y cleifion yn dda, felly maen nhw wedi llwyddo i ddod o hyd iddyn nhw!

"Ac oherwydd bod y maes parcio wedi bod yn llai prysur, mae'n gweithio'n weddol dda erbyn hyn."

Mae fferyllwyr hefyd wedi cael eu gorfodi i arloesi i greu amgylchedd diogel i ddosbarthu meddyginiaeth a chynnig cyngor.

Lleihau risg

Mae gan Llyr Hughes fferyllfeydd yng Ngwynedd ac mae wedi bod yn hunan ynysu am 10 diwrnod ar 么l i aelodau'r teulu fynd yn s芒l.

Fodd bynnag, mae wedi gallu parhau i roi cyngor i'w cleifion trwy ddefnyddio ymgynghoriadau fideo.

"'Dan ni erioed wedi gweld ffasiwn brysurdeb yn ein fferyllfeydd.

"O adre dwi wedi bod yn defnyddio ein systemau cyfrifiaduron i wneud consultations drwy fideo neu sain dros y ff么n.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llyr Hughes wedi bod yn hunan ynysu ond yn parhau i allu cynghori

"'Dwi wedi medru siarad 芒 cleifion, a dwi'n teimlo mod i wedi llwyddo tynnu peth o'r pwysau oddi ar y fferyllwyr eraill sydd allan yna ar y front line."

Mae'r dechnoleg wedi rhoi cyfle i Mr Hughes ddefnyddio ei sgiliau o adref.

"'Dan ni'n gwneud gwasanaeth cyflyrau aciwt. 'Dan ni'n gweld cleifion gydag infection d诺r, neu infection ar groen rhywun.

"'Dan ni wedi gwneud cyrsiau lle allwn ni rhoi presgripsiwns iddyn nhw, a 'dan ni nawr yn gallu gwneud hynny drwy'r dechnoleg fideo.

"Mae hynny'n medru arbed pwysau ar y fferyllydd sydd yn gweithio yn y fferyllfa, ac yn medru galluogi neu leihau'r risg o ledaenu'r Covid ymhellach.

"Mae wedi gweithio yn dda iawn. Mae pawb yn dweud bod hi wedi helpu nhw ar y front line i arbed peth o waith hefyd."