Heddlu: 'Dim angen rhwystrau ffyrdd' ar hyn o bryd

Disgrifiad o'r llun, Swyddogion Heddlu'r De ar batr么l yng Nghaerdydd ddydd Gwener

Mae pennaeth Heddlu De Cymru wedi dweud nad yw'n gweld angen gosod rheolfeydd, neu 'checkpoints', na rhwystrau ffordd ar hyn o bryd, ond bydd y llu'n parhau i atal pobl rhag casglu mewn mannau poblogaidd.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Matt Jukes wrth 麻豆官网首页入口 Radio Wales ddydd Gwener ei fod yn hyderus fod pobl yn dilyn y canllawiau newydd ynghylch pryd maen nhw'n cael gadael eu cartrefi.

Ond mae Heddlu'r Gogledd yn dweud eu bod yn dal i batrolio mannau yn Eryri mewn ymateb i adroddiadau bod gyrwyr yn parhau i fynd yno.

Maen nhw hefyd yn stopio cerbydau ar hap ar hyd prif ffordd y rhanbarth, yr A55 a nifer o ffyrdd trefol eraill.

Holi am bwrpas y daith

"Byddan ni'n parhau i fod o gwmpas yn sicrhau fod pawb yn dilyn y rheolau," meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

"Mae'r pwerau gyda ni r诺an i'w gorfodi i wneud hynny.聽

"Yn ogystal 芒 chadw golwg am arwyddion amlwg - ceir yn tynnu carafanau neu'r cludo can诺au - rydyn ni hefyd yn stopio gyrwyr ar hap gan eu holi am bwrpas y daith."

Disgrifiad o'r llun, Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Matt Jukes: "Os rydych chi'n chwilio am ffordd i osgoi'r rheolau yma, rydych yn colli'r pwynt"

'Argyfwng cenedlaethol'

"Wrth siarad 芒 nifer o gydweithwyr ac edrych ar gamer芒u CCTV ar draws Caerdydd, mae'n amlwg fod pobl yn dilyn y rheolau," meddai Matt Jukes.

"Wrth gwrs, fe fyddwn ni ar y strydoedd ac yn gweithredu'r gyfraith, ond y man cychwyn ydy apelio ar bobl i aros adref er mwyn arbed y GIG ac achub bywydau."

"Dydyn ni ddim eisiau i bobl gasglu ar hyd ein traethau nag yn ein coedwigoedd.

"Rydym yn cael pob math o gwestiynau ynghylch pa mor bell gall rhywun yrru i ymarfer corff, ac os yw hynny'n cynnwys syrffio yn y m么r.

"Os rydych chi'n chwilio am ffordd i osgoi'r rheolau yma, rydych yn colli'r pwynt.

"Mae yna argyfwng cenedlaethol ac mae angen i bobl ymddwyn yn gyfrifol."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r maes parcio yma yn Y Mwnt ger Aberteifi bellach ar gau i ymwelwyr

"Rownd y bloc ac yn 么l'

Ar raglen y Post Cyntaf ddydd Gwener, dywedodd yr AC Dai Lloyd fod "angen bod yn llawer mwy llym" i atal pobl rhag teithio o'u milltir sgw芒r i ymarfer corff.

"Dwi'n gw'bod bod Llywodraeth Boris Johnson wedi caniat谩u i bobl fynd allan unwaith y dydd i ymarfer corff," dywedodd.

"Ond yn y b么n mae hynna wedi cael ei ailddiffinio gan rai pobol fel does fawr ddim yn newid, bod nhw'n gallu trafeilio milltiroedd yn y car cyn mynd i ryw draeth neu ryw lecyn bach hyfryd ac wedyn cael eich ymarfer corff.

"Y syniad yw, chi ddim ond yn camu allan trw'r drws ffrynt eich t欧 a mynd rownd y bloc ac yn 么l. Dyna beth sydd fod i ddigwydd wedyn mae angen bod yn llawer mwy llym efo'r cyfarwyddyd yna."

Cytunodd hefyd ag awgrym gwrand盲wr fod angen cau llwybrau cyhoeddus yn sgil pryder fod cerddwyr yn lledaenu coronafeirws wrth agor a chau giatiau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Sut mae ymarfer a chadw i'r canllawiau?

Dan y cyfarwyddiadau presennol, mae pobl yn cael ymarfer corff unwaith bob dydd, er enghraifft rhedeg, cerdded neu seiclo - ar ben eu hunain neu gyda'r bobl sy'n byw yn yr un cartref.

Does dim cyfeiriad at hyd yr ymarfer corff, ond awgrymodd y Gweinidog Cabinet, Michael Gove ddydd Mawrth y gall pobl "redeg neu gerdded yr un hyd ag y maen nhw'n arfer gwneud... y peth pwysig yw, unwaith y dydd".

Mae angen cadw bwlch o ddau fetr, neu chwe throedfedd, o leiaf oddi wrth bobl eraill ymhob achos.

Wedi i fannau poblogaidd, yn cynnwys mynyddoedd Eryri, ddenu torfeydd mwy na'r arfer yn dilyn gorchymyn i gau bwytai a thafarndai, mae'r heddlu hefyd wedi dweud wrth berchnogion cerbydau i beidio 芒 theithio tu hwnt i'w hardaloedd eu hunain er mwyn mynd am dro.

Mae Sefydliad Moduro'r RAC hefyd yn cynghori gyrwyr i osgoi teithiau oni bai eu bod yn gwbl angenrheidiol.