麻豆官网首页入口

Ffred a Meinir Ffransis adref o Beriw

  • Cyhoeddwyd
Ffred a Meinir Ffransis ym MheriwFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Ffred a Meinir Ffransis ymhlith cannoedd o bobl o'r DU oedd yn disgwyl i gael eu cludo adref o Beriw

Mae Ffred a Meinir Ffransis 'n么l adref yn Llanfihangel-ar-arth ar 么l bod yn gaeth ym Mheriw am bythefnos yn sgil yr argyfwng coronafeirws.

Fe laniodd y cwpwl o Sir Gaerfyrddin ym maes awyr Heathrow fore Llun.

Tra'n aros i gael gadael y wlad wedi i'r awdurdodau gyfyngu ar symudiadau pobl, roedd y ddau wedi cael gorchymyn i aros yn eu hystafell gwesty yn nhref Cusco, oni bai am i fynd i n么l bwyd.

Dywedodd Mr Ffransis wrth Cymru Fyw: "'Dan ni'n falch ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ein cefnogi ni a gwedd茂o drostan ni.

"Ond 'dan ni'n teimlo'n lletchwith hefyd fod pobl wedi cael eu gadael ar 么l ym Mheriw."

Mewn neges ar Facebook dywedodd Hedd Gwynfor: " Mae'r 2 nawr yn gweithio ar sicrhau fod pawb arall o wledydd y DG yn gallu dychwelyd yn 么l yn saff hefyd."Diolch i bawb am helpu lobio llywodraeth y DG."

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Ffred Ffransis

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Ffred Ffransis

Mewn neges ar ei gyfrif Twitter ar 么l lanio yn Heathrow, dywedodd Mr Ffransis, sy'n ymgyrchydd iaith blaenllaw, ei fod yn teimlo "euogrwydd" ynghylch 10 Prydeiniwr sydd yn dal mewn cwarant卯n ym Mheriw, gan gynnwys Alex Foulkes, 31 oed o Sir Wrecsam.

Dywedodd wrth Cymru Fyw ei fod "wedi dadlau eu hachos nhw" gyda'r llysgennad yn Lima a chael sicrwydd fod eu sefyllfa'n flaenoriaeth uchel.

"Mae yna dri o Gymru, ac un Cymro [Alex Foulkes, 31 oed ac o Sir Wrecsam] mewn ardal ble mae achosion o'r feirws wedi bod," meddai.

"Maen nhw'n wynebu fod yno am dri mis eto, wedi eu cloi yn eu stafell am 23 awr y dydd ac yn cael bwyd gan y llywodraeth ddwywaith yr wythnos.

"'Dan ni'n teimlo dros y bobl sydd ar 么l a hefyd yn cofio bod pobl yn sownd mewn gwledydd ar draws y byd.

"Y bobl sy'n gweiddi uchaf sydd fwyaf tebyg o gael gweithredu ar eu rhan - dyna un o broblemau cudd y feirws."

'Teimladau cymysg'

Roedd Mr a Mrs Ffransis ar eu gwyliau ym Mheriw i ddathlu eu penblwyddi yn 70 pan benderfynodd y llywodraeth i gau ei ffiniau a rhwystro hediadau o'r wlad, gyda rhybudd o oriau'n unig ar 15 Mawrth.

Roedd yr unig hediadau yn gadael y brifddinas Lima, sy'n daith o dros 20 awr ar fws o Cusco.

Wrth siarad o'i westy'r wythnos diwethaf, dywedodd Mr Ffransis, sydd 芒 phroblem gyda'i galon, fod Cusco "11,000 o droedfeddi i fyny yn yr awyr" ac o'r herwydd roedd "anadlu ychydig yn anos fan hyn".

Ac ar ei thudalen Facebook dros y penwythnos dywedodd Meinir Ffransis: "Teimlade cymysg am fod her fawr yn wynebu pawb yng Nghymru fel bob man arall, ond diolchgar a hynod hapus ein bod yn cael dychwelyd..."

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Ffred a Meinir Ffransis ar daith drwy dde America i dathlu eu penblwyddi yn 70

Mae'r teulu wedi bod yn feirniadol o ymdrechion Llywodraeth y DU.

Dywedodd un o'u plant wythnos ddiwethaf bod y cyfan yn "llanast diplomatig" ar ran y Swyddfa Dramor.

"Mae'r llywodraeth yn shambles," meddai Gwenno Teifi. "Mae'n amlwg nad ydyn nhw'n gwybod shwt i 'neud foreign relations."

Ar Twitter fore Sul, dywedodd Ffred Ffransis, ar 么l cael gwybod y byddai'r ddau'n cael eu cludo ar awyren o Cusco i Lima ac ymlaen i Lundain fod hi'n anodd "coelio hyn nes i ni lanio acw".

Dywedodd wrth Cymru Fyw ddydd Llun fod yr argyfwng Covid-19 yn amlygu trafferthion "diffyg cydweithrediad rhyngwladol".

Mae Cymru Fyw wedi gweld llythyr dderbyniodd y ddau gan y Swyddfa Dramor sy'n dweud: "Ry'n ni'n cydnabod y byddwch yn teimlo yn rhwystredig a phryderus am eich sefyllfa ac rydym eisiau eich sicrhau ein bod yn parhau i wneud popeth posib i gludo dinasyddion Prydain sy'n dymuno gadael Periw n么l i Brydain."