Gweithwyr iechyd yn cael trafferth sicrhau gofal plant meithrin

Mae rhai o weithwyr y gwasanaeth iechyd yn cael trafferth sicrhau gofal i blant ifanc oherwydd bod meithrinfeydd yn cau o ganlyniad i coronafeirws.

Yn ôl perchennog un feithrinfa, nid oes cymhelliant i gadw drysau ar agor a thalu am gostau staff i ofalu am nifer fechan o blant.

Mae meithrinfeydd yn darparu gofal i blant gweithwyr rheng flaen a phlant bregus yn unig, fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau gofal plant digonol ar gyfer plant 0-4 oed mewn lleoliadau ledled y wlad.

Mae ysgolion yn darparu gofal i blant hÅ·n staff hanfodol - sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd a'r sector gofal ond mae meithrinfeydd a darparwyr gofal plant eraill fel arfer yn gofalu am blant iau a babanod.

Gorfod canslo shifftiau

Mae'r meddyg teulu Owain James a'i wraig sy'n feddyg ysbyty o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael trafferth dod o hyd i ddarpariaeth ar gyfer eu plentyn dwyflwydd oed.

Roedd dau ddarparwr gofal plant roedd y teulu'n eu defnyddio'n arferol wedi dweud eu bod nhw'n cau ar ôl i'r llywodraeth ddweud mai gofalu am blant gweithwyr hanfodol yn unig yr oedd modd iddyn nhw wneud.

Yn ogystal mae ganddyn nhw blentyn tair oed sydd â lle mewn ysgol.

Fe ddaethon nhw o hyd i drydedd feithrinfa ond roedd hon yn cau hefyd dros y penwythnos a bu'n rhaid i Mr James ganslo rhai o'i shifftiau.

Disgrifiad o'r llun, Y meddyg teulu Owain James

"Ni'n disgwyl i'r wythnosau nesaf fod yn eitha bishi, a mae'n deimlad o euogrwydd mwy na dim byd rwy'n credu… bod ni'n trio edrych ar ôl anghenion y plant," meddai.

"Mor belled ni'n ffeindio fe'n rhwystredig - gyda edrych ar ôl y plant mwy na dim byd - so mae'n anodd.

"Dim ni yw'r unig deulu lle mae mam a dad yn ddoctor neu'n nyrs. Fi'n credu beth sy'n rhwystredig yw ei fod yn rhyw fath o postcode lottery.

"Mae rhai meithrinfeydd yn aros ar agor, a ni 'di bod yn anlwcus mae'r tri 'ni wedi bod yn defnyddio, y tri sy'n gyfarwydd i'r plant- sy'n bwysig - i gyd wedi cau dros yr wythnos diwethaf," ychwanegodd.

"Mae llawer o ffrindiau 'da fi sy'n ddoctoriaid mewn llefydd eraill ac mae meithrinfeydd wedi aros ar agor. O'n i'n disgwyl fyddai bach mwy o opsiynau ar gael."

'Teimlo dyletswydd i agor'

Mae 118 o blant yn mynd i ganolfan gofal The Mill yn Sir Ddinbych ond yn ystod y cyfyngiadau presennol dim ond 11 sydd yno.

Dywedodd y perchennog Ffion Roberts fod y cyfnod ers y cyhoeddiad wedi bod yn "rollercoaster".

"Dwi'n lwcus iawn bod na bump o fy staff i'n dod i fewn achos does 'na ddim protection o gwbl," meddai.

"Mae pawb wedi anghofio am y plant bach i ddweud y gwir. Ers i'r rhieni glywed bod y nurseries yn cau maen nhw wedi dod ata i a dweud: 'You're not going to close are you?'. Wel, mae rhaid i ni aros ar agor ond y broblem ydy yn ariannol dydy o ddim yn gwneud sense."

Mae'n dweud ei bod hi'n teimlo "dyletswydd" i aros ar agor i helpu gweithwyr y gwasanaeth iechyd.

Disgrifiad o'r fideo, Ffion Roberts: "Mae pawb 'di anghofio am y plant bach"

"Does gen i ddim ond y fees o'r plant sy'n dod i mewn a mae gen i bump o bobl i dalu yn llawn a dio'm yn gwneud economic sense o gwbl, a dwi'm yn gwybod be i 'neud i ddweud y gwir. Dwi isio aros ar agor - dwi yn aros ar agor."

Mae hi wedi llwyddo i aros ar agor gyda phum aelod o staff ar hyn o bryd, ac mae 19 arall wedi cael eu rhoi ar gynllun Llywodraeth y DU sy'n talu 80% o'u cyflogau.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru sy'n talu grantiau o £10,000 i bob darparwr gofal plant sydd â gwerth ardrethol o hyd at £100,000, hefyd yn gymorth mawr, meddai.

Ond ar draws Sir Ddinbych, erbyn dydd Gwener diwethaf roedd 87 o'r 125 o leoliadau gofal plant wedi cau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi gofal plant digonol ar gyfer plant 0-4 oed mewn lleoliadau ledled Cymru ar gyfer plant bregus a phlant gweithwyr rheng flaen."