Pryder y gall canolfan gelfyddydau yng Nghaerdydd gau

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae Canolfan Chapter yng Nghaerdydd ar gau ar hyn o bryd
  • Awdur, Ellis Roberts
  • Swydd, Newyddion 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae pryder y gallai canolfan Chapter yng Nghaerdydd gau yn barhaol yn sgil yr argyfwng coronafeirws.

Mae llywodraeth Cymru a Chyngor y Celfyddydau wedi cyhoeddi cronfa argyfwng gwerth 拢7m i faes y celfyddydau, ond mae un o ymddiriedolwyr canolfan gelfyddydol Chapter wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru y gallai gau yn gyfan gwbl.

Yn 么l cwmni drama arall, mae'r sefyllfa bresennol fel "hunllef".

Incwm wedi diflannu

Yn 么l cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Chapter, Elin Wyn, does dim sicrwydd y bydd y ganolfan yn ailagor o gwbl.

"Mewn ffordd, 'dan ni'n rhy llwyddiannus - 'dan ni ddim yn dibynnu'n llwyr ar arian cyhoeddus.

"Mae 82% o'n hincwm ni'n dod o bethau fel gwerthu tocynnau, y caffi a'r bar a rhentu stafelloedd a gofod i gwmn茂au creadigol... ond mae'r incwm hwnnw i gyd wedi diflannu erbyn hyn."

Er y gall Chapter hawlio cymorth i dalu 80% o gyflogau'r staff sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd, mae 'na weithwyr craidd hefyd ac mae angen talu cyflogau'r rheiny o hyd.

Ansicrwydd a goblygiadau

Cwmni arall sy'n pryderu am y dyfodol yw theatr cymunedol Bara Caws. Ers 40 mlynedd mae wedi bod yn llwyfannu dram芒u ar draws Cymru, er mai yng Nghaernarfon mae'r pencadlys.

"Y peth sy'n lladd fwya' ydy'r ansicrwydd," meddai'r rheolwr gweinyddol Linda Brown.

"Mi oedd gynnon ni daith i fod ym mis Mai - Draenen Ddu. Mi oeddan ni'n mynd i deithio i'r neuaddau pentre' ond bu rhaid codi'r ff么n a chanslo pob perfformiad.

"Mi oeddan ni wedi cyflogi actorion a rhoi cytundebau, felly mi oedd 'na oblygiadau i dalu i'r rheini, daith neu beidio."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Linda Brown mai'r "peth sy'n lladd fwya' ydy'r ansicrwydd"

Ychwanegodd: "Mae'r cyfnod yma'n hunlle i bawb ym myd y theatr. Mi oedd gynnon ni daith arall ym mis Medi - y ddrama Fienna gan Si么n Eirian - ond a fyddwn ni'n gwneud honno?

"A fydd pobl yn fodlon dod yn 么l mewn crowd i weld cynhyrchiad ac a fyddan nhw'n gallu fforddio dod i weld sioe? Ond 'dwi yn gredwr mawr fod y theatr yn chwarae rhan fawr mewn iechyd a lles."

Ers pythefnos mae un o atyniadau mwyaf Cymru ym maes y celfyddydau, Canolfan y Mileniwm, wedi bod ar gau.

Mae'r rheolwr gyfarwyddwr, Mathew Milsom, yn rhagweld y gallan nhw golli hyd at 拢20m o beidio 芒 medru cynnal perfformiadau dros y flwyddyn nesaf.

"Oherwydd ein bod ni ar gau allwn ni ddim codi arian," meddai.

"'Dan ni'n codi 85% o'n hincwm drwy ddulliau masnachol - gwerthu tocynnau, gwario yn y bar.

"Dros y flwyddyn nesa', mi oeddan ni'n disgwyl codi 拢15-20m drwy werthiant tocynnau, ond does dim sicrwydd o gwbl o hynny bellach. Mae cynyrchiadau'n cael eu canslo ar gyfer yr haf a hyd yn oed yr hydref.

"'Dan ni'n cyflogi 400 o staff -100 ar y safle ac yn cyfrannu 拢70m i'r economi leol, felly mae cau'n amharu ar economi'r Bae."

Ffynhonnell y llun, Robin Drayton/Geograph

Disgrifiad o'r llun, Fe allai Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd golli hyd at 拢20m

Wrth gyhoeddi'r gronfa 拢7m brynhawn Mercher, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru mai Cyngor y Celfyddydau fyddai'n ei gweinyddu.

Y nod fydd "cynorthwyo artistiaid unigol a sefydliadau celfyddydol sydd 芒'r angen mwyaf ac sy'n lleiaf tebygol o elwa o raglenni cymorth eraill".

'Problemau enbyd'

Ar raglen y Post Cyntaf ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru fore Iau fe ddywedodd Si芒n Tomos, cyfarwyddwr menter ac adfywio Cyngor Celfyddydau Cymru, bod yr argyfwng coronafeirws wedi taro'r celfyddydau yn ofnadwy.

"'Dan ni wedi gwneud job mor dda yng Nghymru yn lleihau yn ddibyniaeth ar y pwrs cyhoeddus ond mewn sefyllfa fel hyn lle mae ffynonellau incwm yn cael eu torri dros nos mae'n creu problemau enbyd i'n sefydliadau celfyddydol ni," meddai.

"'Da ni yn dibynnu ar bobl yn prynu tocynnau, paned yn y caffis, felly ry'n ni yn falch o allu cyhoeddi rhyw fath o gyfraniad, maen gyfraniad sylweddol o 拢7 miliwn, cyfraniad o filiwn gan y llywodraeth a'n adnoddau ni am y chwe mis nesa' i gyd mewn i gronfa i weld a allwn ni oroesi'r cyfnod anodd hyn."