Ymbellhau yn y gweithle 'ddim yn waith i'r heddlu'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae gan yr heddlu ddigon o waith arall i wneud yn ystod yr argyfwng coronafeirws, medd Arfon Jones

Ni ddylai swyddogion heddlu gael eu defnyddio fel "arolygwyr ffatri" i orfodi rheolau ymbellhau cymdeithasol medd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones.

Daeth rheoliadau i'w lle ddydd Mawrth oedd yn golygu bod gan yr heddlu a chynghorau hawl i roi dirwy i gwmn茂au os nad oedden nhw yn gwneud popeth posib i gadw gweithwyr ddau fetr i ffwrdd o'i gilydd.

Ond yn 么l y gwleidydd Plaid Cymru mae'r pedwar prif gwnstabl yng Nghymru wedi gwrthwynebu hyn.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai "opsiwn olaf" fyddai defnyddio'r heddlu i blismona'r rheolau newydd.

Mae Mr Jones yn cefnogi nod y ddeddfwriaeth ond nid yw'n cytuno gyda'r disgwyliad i'r heddlu ei phlismona.

"Mae'r prif gwnstabliaid wedi annog Llywodraeth Cymru i newid eu canllawiau fel mater o frys ac rwy'n sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda nhw ar hyn," meddai.

Ffynhonnell y llun, CT Heddlu Gogledd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Arfon Jones ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn 2016

Yn sgil y gyfraith newydd mae gan heddluoedd ac awdurdodau lleol y pwerau i roi dirwy sy'n amrywio rhwng 拢60 am droseddu y tro cyntaf i 拢120 am ail droseddu neu wneud sawl gwaith.

Mae rhai wedi dweud nad yw'r ddirwy yn swm digon uchel, a bod y ffordd mae'r gyfraith wedi dod i rym yn gosod cwmn茂au mewn sefyllfa anodd.

Dim 'gwaharddiad llwyr'

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi dweud nad yw'r rheolau yn "waharddiad llwyr" ar bobl yn gweithio yn agosach na dau fetr.

Ond mae disgwyl i gwmn茂au ystyried iechyd eu gweithwyr a gweithredu yn unol 芒 hynny.

Mewn sesiwn holi ac ateb ar y cyfryngau cymdeithas nos Fercher dywedodd y byddai disgwyl i weithfeydd blismona eu hunain.

Dylai unrhyw weithwyr oedd yn poeni godi eu pryderon gyda'u hundebau llafur, meddai.

"Rwy'n cefnogi'r ddeddfwriaeth ond rwy'n hollol yn erbyn y syniad iddi gael ei gorfodi gan yr heddlu. meddai Mr Jones.

"Mae fel defnyddio swyddogion heddlu fel arolygwyr ffatri pan fo gan Heddlu Gogledd Cymru a heddluoedd eraill Cymru waith pwysig eu hunain i'w wneud yn ystod yr argyfwng coronafeirws."

Yn ei farn ef dylai cynghorau ac Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch "gamu i'r adwy a gwneud eu gwaith".

"Nhw ddylai gymryd cyfrifoldeb am weithredu'r ddeddf yn hytrach na disgwyl i'r heddlu wneud eu gwaith drostyn nhw," meddai.

"Rwy'n si诺r y byddai'n well gan y cyhoedd yn y gogledd weld ein heddlu'n gorfodi cydymffurfiad gyda deddfwriaeth deithio hanfodol yn hytrach na gorfod ymweld 芒 ffatr茂oedd i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu cadw dau fetr ar wah芒n."

Dywedodd Mr Jones ei fod wedi codi'r mater gydag Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart.

'Opsiwn olaf'

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher mai "opsiwn olaf" fyddai defnyddio'r heddlu.

Ychwanegodd y dylai gweithwyr godi eu pryderon gyda'u cyflogwyr i ddechrau, ac yna eu hundeb os oes ganddyn nhw un.

"Os dydy hynny ddim yn gweithio, ac mi fydd yn gweithio yn y mwyafrif o achosion, fe all cysylltu gyda'ch awdurdod lleol neu eich aelod Cynulliad hefyd weithio," meddai.

"Yn amlwg, opsiwn olaf yn unig yw'r heddlu, a hynny i gyflogwyr 'styfnig sy'n benderfynol o dorri'r rheolau. Dydyn ni ddim yn disgwyl cael unrhyw un o'r rheiny yng Nghymru."