麻豆官网首页入口

Garmon Ceiro: Addo ysbryd gwrth sefydliadol i Golwg

  • Cyhoeddwyd
Garmon CeiroFfynhonnell y llun, ffotoNant

Mae prif olygydd newydd cylchgrawn a gwefan newyddion Golwg360 wedi cydnabod nad yw hi'n gyfnod delfrydol i ddechrau jobyn newydd.

Ond dywedodd Garmon Ceiro ei fod yn falch bod Golwg wedi llwyddo cyhoeddi ei rifyn cyntaf wrth y llyw yn ystod argyfwng cenedlaethol.

Ar raglen Post Cyntaf ddydd Iau, fe ddywedodd ei fod wedi arwain y t卯m newyddiadurol "i gyfeiliant babi" wrth weithio o adref, a hynny heb gyfarfod rhan fwyaf ei gyd-weithwyr.

Dywedodd taw diwrnod yn unig gafodd yn y swyddfa cyn i'r cyfyngiadau cymdeithasol ddod i rym yn sg卯l ymlediad coronafeirws.

Ffynhonnell y llun, Golwg360
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Garmon Ceiro hefyd yn gyfrifol am wefan Golwg360

Bu Mr Ceiro yn chwerthin wrth glywed disgrifiad ohono fel cymeriad adnabyddus i bobl sy'n trydar yn Gymraeg ar wefan Twitter.

Pan dorrodd y newyddion ei fod wedi cael ei benodi i'r swydd newydd, bu'n tynnu coes ar y wefan drwy ddweud bod rhywun wedi mynd drwy ei hanes yn dileu negeseuon anaddas.

Dywedodd ar Post Cyntaf ei fod eisiau dod 芒 pheth o'i ysbryd gwrth sefydliadol a hiwmor i Golwg.

"Odw glei," dywedodd, "Rwy'n mynd i drio ymgysylltu'n well 芒 phobl ar gyfryngau cymdeithasol."

Gwefan newydd 'cyn bo hir'

O safbwynt ei swydd, dywedodd mai ei flaenoriaeth fydd pontio rhwng y wefan a'r cylchgrawn a chreu system danysgrifiadau digidol fydd yn caniat谩u darllen mwy o gynnwys y cylchgrawn print ar y wefan.

"Ni yn gweithio ar wella'r wefan, ac mi fydd 'na wefan ar ei newydd wedd cyn bo hir iawn. Gobeithio bydd hi'n fwy llyfn.

"Bydd hi'n dibynnu'n llai ar gategor茂au bydd hi'n haws i ddarllen a bydd adrannau newydd cyffrous fel safbwynt a fideo a sain a phethau felly."

Dywedodd bod y t卯m wedi cael rhywfaint o banig wrth ystyried sut i ddosbarthu'r cylchgrawn dan y cyfyngiadau presennol, ond eu bod yn llwyddo.

"Mae 'na rifyn mas 'na i bawb heddi'. Mi gethon ni rhyw banics pan o'n i'n meddwl beth i neud. Ond o ran tanysgrifwyr, mae'n edrych fel bydd pethe yn parhau yn weddol fach.

"Yr unig beth sy' wedi newid yw bod pobl ddim bellach yn gallu prynu copi o'r siop Gymraeg. Mae lot o bobl yn hoffi cefnogi'r siopau Cymraeg.

"Beth 'sen i'n dweud wrthyn nhw yw, tanysgrifiwch am gyfnod byr i gael copi trwy'r post ac wedyn ewch n么l i gefnogi'r siopau Cymraeg ar 么l i'r cyfnod yma ddod i ben."