麻豆官网首页入口

Drakeford: 'Diolch am aros adref a helpu achub bywydau'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna arwyddion cynnar fod y cyfyngiadau theithio'r arafu lledaeniad yr haint, medd Mark Drakeford

Mae Prif Weinidog Cymru wedi diolch i bobl am aros yn eu cartrefi dros benwythnos y Pasg.

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gwybod bod aros gartref am amser hir yn "anodd" a bod pobl yn "gwneud aberth bob dydd".

Ond ychwanegodd bod arwyddion bod y cyfyngiadau'n gwneud gwahaniaeth.

Rhybuddiodd hefyd bod y llywodraeth yn cymryd camau i atal y lleiafrif sy'n torri'r rheolau.

Dros 5,000 o brofion positif

Daw wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi fod 18 arall oedd 芒 Covid-19 wedi marw yng Nghymru yn y 24 awr ddiwethaf, gan ddod 芒'r cyfanswm swyddogol i 369.

Cafodd 367 o achosion newydd eu cadarnhau hefyd, sy'n golygu bod 5,297 o bobl wedi cael prawf positif am y feirws yng Nghymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod fod mwy o bobl 芒'r feirws mewn gwirionedd, gan mai'r cyfarwyddyd i'r rhan fwyaf o bobl sydd 芒 symptomau yw aros gartref.

Pasg gwahanol eleni

"Fel arfer byddai teuluoedd a ffrindiau'n dod at ei gilydd dros benwythnos y Pasg," meddai Mr Drakeford.

"Ond bydd eleni yn wahanol iawn i'r rhan fwyaf ohonom wrth i ni aros gartref i ddiogelu ein hunain a phawb o'n cwmpas.

"Rwyf am ddiolch i bawb am gadw at y rheolau. Diolch i chi am aros gartref."

Dywedodd Mr Drakeford bod "arwyddion cychwynnol" bod y cyfyngiadau yn cael "effaith bositif ac yn arafu'r feirws".

Ond rhybuddiodd hefyd bod "ffordd bell i fynd o hyd".

"Rwy'n gwybod bod aros gartref am amser hir yn anodd ac mae teuluoedd ym mhob cwr o Gymru'n gwneud aberth bob dydd. Mae'r rheolau yno i'ch diogelu chi a phawb chi'n ei garu.

"Wrth beidio ymgynnull i addoli neu i gymdeithasu byddwn yn cadw ein teulu a'n cymuned yn ddiogel."

'Rhoi bywydau eraill mewn perygl'

Dywedodd Mr Drakeford bod y "rhan fwyaf o bobl" yn dilyn y cyfarwyddiadau ond bod "nifer fach yn rhoi bywydau eraill mewn perygl" drwy anwybyddu'r rheolau.

"Rydyn ni'n cymryd camau i roi stop ar hyn," meddai.

Gofynnodd y Prif Weinidog i gymunedau "feddwl am ei gilydd a dal ati i gefnogi ei gilydd".

Wrth gloi'r neges dymunodd Basg "hapus a diogel" i bawb cyn galw arnynt i barhau i aros gartref.