麻豆官网首页入口

Prinder offer yn 'lladd' staff rheng flaen, medd undeb

  • Cyhoeddwyd
MenigFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Unsain eisiau gwybod ar frys beth yw lefelau stoc offer PPE a'r amserlen i'w hanfon i'r rheng flaen

Mae prinder offer diogelwch personol yn "lladd" staff rheng flaen, yn 么l undeb llafur.

Dywed undeb Unsain Cymru fod un o'i aelodau wedi marw ar 么l cael ei heintio 芒 Covid-19 - cymhorthydd gofal iechyd yn ne ddwyrain Cymru oedd yn fam i ddwy ferch ifanc. .

Mae'r undeb yn gofyn i Lywodraeth Cymru i gadarnhau lefelau stoc ac amserlen danfon offer "ar frys".

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio i sicrhau'r offer cywir fel bod pobl yn gallu cwblhau eu gwaith yn ddiogel.

Miliynau o eitemau wedi eu dosbarthu

"Rydym yn drist iawn i glywed am farwolaeth aelod arall o deulu'r GIG," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i'n GIG a staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio'n galed, dan amgylchiadau anodd, i ofalu am bobl gyda'r coronafeirws.

"Hyd yma rydym wedi dosbarthu dros 8m o ddarnau ychwanegol o offer PPE o'n stoc pandemig, ar ben y cyflenwadau arferol."

Yn 么l ysgrifennydd Unsain Cymru, Tanya Palmer roedd yr aelod a fu farw wedi bod yn gofalu am gleifion oedd wedi eu heintio.

Dydy hi ddim yn glir sut y cafodd yr aelod Covid-19.

Dywedodd Unsain eu bod wedi derbyn "adroddiadau niferus" gan weithwyr rheng flaen fod yna lefelau anaddas o offer diogelwch personol (PPE) mewn ysbytai a chartrefi gofal ar draws Cymru.

Mae'r undeb yn honni fod disgwyl i gyflenwadau PPE Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr redeg allan ddydd Llun, ond yn 么l y bwrdd does dim gwirionedd i hynny.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y bwrdd: "Mae diogelwch ein staff o'r pwys mwyaf i ni.

"Mae danfoniadau PPE yn parhau yn 么l yr arfer dros benwythnos y g诺yl banc.

"Rydym yn gweitho gyda nifer o fusnesau ac unigolion lleol sydd wedi cynnig helpu sicrhau fod ein stoc yn ddigonol ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae adroddiadau fod rhai staff iechyd a gofal yn gorfod dod o hyd i offer i'w hunain yng Nghymru

'Gweithwyr ofn a phryderus'

Mewn llythyr at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, mae Tanya Palmer yn dweud bod gweithredwyr yr undeb yn derbyn "ton" o negeseuon gan "weithwyr ofnus a phryderus."

Dywedodd: "Mae hyn yn dilyn marwolaeth gyntaf un o'n gweithredwyr cymunedol o Covid-19.

"Rwyf hyd yn oed wedi gweld negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol o staff meddygol yn gorfod gwisgo gogls adran wyddoniaeth ysgol leol.

"Mae angen i ni wybod ar frys, beth yw'r lefelau stoc, ble maen nhw'n cael eu storio a phryd fyddan nhw'n cael eu danfon.

"Mae hyn yn lladd ein pobl. Mae angen ateb gonest nawr."