麻豆官网首页入口

Arbenigwyr 'props' teledu yn creu offer gwarchod iechyd

  • Cyhoeddwyd
Y cwmpawd aur, golygfa o His Dark Materials
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r technegwyr a greodd y cwmpawd euraidd bellach yn gwneud masgiau wyneb i feddygon

Mae'r adran bropiau y tu 么l i'r gyfres deledu His Dark Materials wedi dechrau gwneud offer gwarchod personol ar gyfer gweithwyr iechyd.

Mae'r argraffwyr 3D a greodd yr alethiometer - neu'r cwmpawd euraidd - bellach yn cael eu defnyddio i wneud masgiau wyneb plastig ar gyfer meddygon sy'n delio 芒 phandemig Covid-19.

Cwmni cynhyrchu Bad Wolf yng Nghaerdydd sy'n cynhyrchu'r rhaglen sy'n seiliedig ar lyfrau Syr Philip Pullman.

Daw hyn yn dilyn y newyddion bod adran wisgoedd y gyfres wedi bod yn cynhyrchu dillad meddygol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rheolwr gwisgoedd y sioe His Dark materials, Dulcie Scott

Dywed rheolwr gwisgoedd His Dark Materials, Dulcie Scott, fod yr ymgyrch wedi "tyfu a thyfu" ar 么l iddi sefydlu tudalen i godi arian sydd bellach wedi derbyn gwerth degau o filoedd o bunnoedd o roddion.

"Ar hyn o bryd, mae gennym ni tua 150 o bobl yn gwneud scrubs. Mae gennym ni tua 6,500 set o scrubs naill ai wedi'u cwblhau a'u danfon neu'n cael eu gwneud, ac mae gennym ni fwy o ffabrig ar y ffordd."

Mae criwiau o gynyrchiadau ledled y DU wedi bod yn cysylltu 芒 Dulcie yn cynnig eu gwasanaeth.

"Mae criw Batman yn ein helpu, mae t卯m Sex Education wedi cysylltu 芒 ni, y t卯m yn Lerpwl a weithiodd ar Poldark ac mae gennym ni dair merch o Opera Cenedlaethol Cymru hefyd."

Mae'r gwirfoddolwyr wedi'u gwasgaru ledled y DU ac yn helpu eu hysbytai lleol.

'Ffabrig o'r ansawdd uchaf'

Mae Isabelle Conaghan, oedd yn gynorthwy-ydd dylunio ar His Dark Materials, yn cydlynu'r ymgyrch yn ne Cymru.

Mae hi wedi danfon dillad i Ysbyty Brenhinol Gwent a Hosbis Marie Curie ym Mhenarth ac mae wrthi'n danfon i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Treforys.

"Ry'n ni i gyd yn gweithio o adref, sy'n amlwg yn hollol wahanol i fod mewn stiwdio lle mae gennym ni adran gwisgoedd enfawr. Mae ein ffabrig wedi'i gymeradwyo gan y GIG. Dyma'r ffabrig o'r ansawdd uchaf ac mae gennym wneuthurwyr gwisgoedd o'r ansawdd uchaf yn y DU yn eu gwneud."

Yn dilyn llwyddiant yr ymgyrch, mae aelodau eraill y criw o His Dark Materials wedi bod yn cynhyrchu masgiau wyneb plastig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Argraffydd 3D yn creu un o'r masgiau

Defnyddiodd Michael van Kesteren beiriant argraffu 3D ym mhroses ddylunio'r alethiometer, un o brif bropiau'r ddrama.

"Aeth y 50 masg cyntaf i mi greu i Ysbyty'r Brifysgol. Mae bron fel dyletswydd.

"Mae'n rhaid i mi wneud hyn neu fel arall bydd y bobl hyn sy'n ceisio achub bywydau pobl eraill yn dioddef eu hunain."

Mae ail gyfres His Dark Materials bellach yn y broses 么l-gynhyrchu ar 么l i'r ffilmio gael ei gwblhau yn gynharach eleni.