Covid-19: Ymddiheuro dros yrru at gyfeiriadau anghywir

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymddiheuro ar 么l i 13,000 o lythyrau ar gyfer y bobl fwyaf bregus gael eu gyrru i'r cyfeiriadau anghywir.

Roedd dros 80,000 o bobl i fod i dderbyn "llythyrau gwarchod" gan y Prif Swyddog Meddygol.

Yn 么l Plaid Cymru gallai'r camgymeriad fod yn "drychinebus".

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod pob llythyr bellach wedi cyrraedd y cyfeiriadau cywir.

Aros adref am 12 wythnos

Mae'r llythyr, sydd i fod wedi ei yrru at rai sydd eisoes 芒 chyflyrau iechyd difrifol, yn dweud wrth bobl am aros adref am 12 wythnos.

Roedd y llythyrau i fod i gyrraedd erbyn 3 Ebrill, ac yn rhoi'r hawl i'r unigolion hynny gael mynediad cynt i wasanaeth cludiant bwyd gan archfarchnadoedd - er bod oedi wedi bod wrth gyflwyno'r system yna yng Nghymru.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod awdurdodau lleol ac archfarchnadoedd wedi derbyn y cyfeiriadau cywir o'r dechrau.

Dywedodd llefarydd llywodraeth leol Plaid Cymru, Delyth Jewell, fod hwn yn "gamgymeriad allai fod yn drychinebus, allai beryglu bywydau yn ddiangen".

"Mae angen cywiro'r camgymeriad ar unwaith ac mae angen darganfod beth aeth o'i le a galluogi hyn i ddigwydd yn y lle cyntaf," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn sgil camgymeriad wrth brosesu o fewn Gwasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru (NWIS), cafodd rhai llythyrau eu postio i gyfeiriad blaenorol, lle'r oedd y person oedd i fod i'w derbyn wedi symud yn ddiweddar.

"Mae pob llythyr bellach wedi cael ei ail anfon i'r cyfeiriadau cywir.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Delyth Jewell fod hwn yn "gamgymeriad allai fod yn drychinebus"

"Fe dderbyniodd pob awdurdod lleol y manylion cywir ar ddechrau'r broses, ac maen nhw wedi bod yn cysylltu'n uniongyrchol gyda phob unigolyn dros y pythefnos diwetha'.

"Mae archfarchnadoedd hefyd wedi derbyn y cyfeiriadau cywir ac wedi bod yn defnyddio'r rhain er mwyn blaenoriaethu cludo bwyd at y rhai sy'n cael eu gwarchod.

"Rydyn ni'n llawn werthfawrogi'r pryder y byddai hyn wedi ei achosi i bobol ac yn ymddiheuro'n ddidwyll am y camgymeriad."