Angen 'cynllun brys' i helpu porthladd Caergybi

Disgrifiad o'r llun, Mae Porthladd Caergybi yn un o'r rhai prysuraf yn y DU
  • Awdur, Cemlyn Davies
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig "sylweddoli gwerth" porthladd Caergybi, yn 么l Arweinydd Cyngor M么n.

Daeth sylwadau Llinos Medi ar 么l iddi ysgrifennu at Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan ac Ysgrifennydd Cymru yn galw am gynllun "ar frys" i helpu'r busnes.

Yn eu llythyr mae Llinos Medi'n dweud nad ydy'r cynlluniau presennol ar gyfer helpu cwmn茂au drwy'r pandemig "yn bodloni" anghenion y porthladd.

Mewn cyfweliad ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru fore Sadwrn eglurodd Ms Medi bod incwm y safle wedi dirywio oherwydd gostyngiad yn nifer y teithwyr, ond bod yn rhaid i'r busnes barhau er mwyn galluogi cludiant nwyddau angenrheidiol.

"Mae'n rhaid pwysleisio pwysigrwydd porthladd Caergybi, nid yn unig i F么n ac i Gymru ond i Brydain Fawr," meddai Ms Medi, sy'n aelod o Blaid Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Mae angen i lywodraeth y DU "sylweddoli gwerth" porthladd Caergybi medd Llinos Medi, arweinydd Cyngor M么n

Caergybi ydy ail borthladd brysuraf Prydain ar gyfer cerbydau.

Dywedodd Ms Medi ei bod hi wedi dod i'r amlwg na fyddai'r porthladd yn gymwys i gael cymorth ariannol, a galwodd ar i'r Llywodraeth weithredu "ar frys".

"Eu harweiniad nhw sydd eisiau r诺an.

"Mae'n bwysig iawn eu bod nhw yn sylweddoli gwerth lleoliad fel Caergybi, nid i F么n a Chymru ond i Brydain Fawr."

'Cynnig cefnogaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran adran trafnidiaeth Llywodraeth San Steffan eu bod yn cydnabod bod hyn yn "gyfnod heriol i'r sector drafnidiaeth".

Yn 么l y llefarydd mae newidiadau eraill wedi eu gwneud yn gynharach yn y mis sydd yn gwneud hi'n "haws i fwy o fusnesau gael mynediad at nawdd".

Dywedodd yr adran trafnidiaeth hefyd eu bod yn cydweithio gyda llywodraethau datganoledig a diwydiannau "i gynnig cefnogaeth a sicrwydd i weithwyr."