麻豆官网首页入口

Heddlu'n 'anobeithio' wrth weld ymwelwyr yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Llanberis, GwyneddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn "anobeithio" ar 么l i fwy o ymwelwyr gael eu hanfon adref o'r gogledd dros y penwythnos.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod gr诺p o 10 wedi gyrru dros 200 milltir o Lundain i gerdded yn Eryri ddydd Sul.

Cafodd y gr诺p, mewn dau gar, eu stopio gan yr heddlu ar yr A5 ger Bethesda a'u hanfon yn 么l i Loegr ar 么l torri rheolau cyfyngiadau coronafeirws.

Dringo'r Wyddfa

Cafodd dyn arall ei erlyn wedi iddo gerdded i fyny'r Wyddfa, sydd ar gau ar hyn o bryd.

Roedd aelod o staff yng ngwesty Pen-y-Pass wedi ei herio ar 么l ei weld yn dychwelyd i'w gar ym maes parcio'r gwesty.

Roedd wedi cyrraedd y safle am 06:00 ar 么l teithio o Cumbria.

Ffynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Maes parcio Pen-y-Pass fis Mawrth, ychydig cyn cau'r llwybrau yno i gerddwyr

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd: "Roedd y dyn yn filain tuag at yr achwynwr a phan gafodd ei herio roedd yn amlwg yn credu nad oedd y cyfyngiadau'n berthnasol iddo.

"Cafodd yr heddlu eu galw ac fe gafodd ei stopio ar ffordd ddwyreiniol yr A55 gan un o'n timau arfog. Cafodd ei erlyn am dorri'r ddeddfwriaeth.

"Rydym yn anobeithio," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Twitter/Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Neges ar Twitter gan Heddlu'r Gogledd yn dilyn y digwyddiad

Yn y cyfamser mae Heddlu'r De hefyd wedi gorfod gweithredu yn erbyn ymwelwyr oedd wedi dod i'w hardal blismona yn groes i'r ddeddfwriaeth Covid-19.

Dywedodd uned blismona'r ffyrdd yn ardal Aberhonddu fod swyddogion wedi dal dau o ardal Bryste ar yr A47O. Bwriad y ddau oedd cerdded i fyny Pen y Fan.

Cafodd eu ddau eu dirwyo a'u gorchymyn i ddychwelyd i'w cartrefi.

Wrth siarad ar Radio Wales fore dydd Llun, disgrifiodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yr hyn oedd wedi digwydd yn Eryri dros y penwythnos.

Dywedodd: "Fe gewch chi rhai sy'n trio'u lwc bob tro. Fe gafon nhw'u stopio a chael eu cosbi.

"A yw 拢60 yn ddigon o gosb i atal pobl sy'n teithio o Lundain... dwn i ddim."

Roedd yn bryderus hefyd y gallai cyfyngiadau gael eu codi cyn G诺yl y Banc ar 8 Mai, ac fe ychwanegodd:

"Rwy'n bryderus na ddylen ni godi cyfyngiadau cyn hynny oherwydd bydd hynny'n rhoi pwysau anferthol ar blismona."