麻豆官网首页入口

'Peidiwch oedi cais maethu yn sgil coronafeirws'

  • Cyhoeddwyd
Elin Lewis Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Elin Lewis Jones yn rheoli t卯m maethu Cyngor Conwy

Mae teuluoedd sy'n ystyried maethu neu fabwysiadu plant yn cael eu hannog i fwrw 'mlaen 芒'u cynlluniau er gwaetha'r pandemig.

Yn 么l pennaeth adran faethu Sir Conwy, mae angen "parhau 芒'r broses recriwtio" er mwyn ymateb i'r galw ddaw yn y dyfodol.

Yn 么l un teulu sy'n maethu ar hyn o bryd mae defnyddio apiau fel Skype a Zoom "mor bwysig" er mwyn sicrhau cyswllt rhwng y plentyn a'u teulu biolegol.

Mae'r alwad wedi ei chefnogi gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol sy'n mynnu eu bod nhw hefyd "ar agor".

Newid byd i deuluoedd

Ers tua 10 mlynedd mae Gwen Sills o ardal Abergele, Sir Conwy wedi bod yn maethu plant, ac mae'n dweud fod y coronafeirws wedi newid ei bywyd teuluol.

"Mae bychan ni'n mynd i'r cylch tair gwaith yr wythnos felly 'di hi'm yn gwneud hynny dim mwy a dydy hi ddim yn cael gweld ei ffrindiau.

"Mae hi hefyd yn mynd i Fae Colwyn i gael cyswllt 'efo'i theulu pedair gwaith yr wythnos, ac wrth gwrs dydy hynna ddim yn digwydd dim mwy."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gwen Sills o Abergele wedi bod yn maethu ers tua degawd

Tra bod cysylltiad wyneb yn wyneb rhwng teulu'r ferch a hithau wedi dod i ben, mae Ms Sills yn defnyddio Skype, FaceTime a Zoom i gadw cysylltiad.

"Mae o mor bwysig iddi," meddai.

"Er 'di hi ddim yn siarad llawer, mae hi dal angen gweld ei mam a'i brawd a'i chwaer, hyd yn oed jyst i'w gweld nhw - mae o'n gymorth mawr dwi'n meddwl."

Ar draws Sir Conwy mae 73 o deuluoedd yn maethu, a gobaith y cyngor ydy sicrhau nad yw teuluoedd yn oedi ceisiadau oherwydd y feirws.

"Dwi'n poeni wrach neith rhai pobl beidio meddwl 'neud tra bod hyn yn mynd ymlaen," meddai Elin Lewis Jones, rheolwr t卯m maethu Cyngor Conwy.

"Ar hyn o bryd 'da ni heb weld yr effaith yna a 'da ni dal i weld pobl yn dod ymlaen.

"O'n hochr ni, recriwtio, mae angen cadw hyn i fynd ymlaen."

'Amser i feddwl am fabwysiadu'

Fe allai'r broses o asesu teulu barhau am rai misoedd, a gofid y cyngor yw y gall ceisiadau gymryd yn hirach i'w prosesu.

Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol hefyd yn cefnogi'r un neges.

Dywedodd datganiad eu bod yn "parhau yn agored ac yn annog unrhyw rai sydd yn ystyried gwneud cais i barhau a'u cynlluniau".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Chris Rees o Rydaman wedi mabwysiadu plentyn

Un sydd eisoes wedi mabwysiadu ydy Chris Rees o Rydaman.

Ers gwneud mae o wedi ymddangos mewn hysbyseb teledu yn annog teuluoedd i ystyried cymryd y cam o fabwysiadu.

"Fi'n credu ei fod o dipyn bach mwy anodd i blentyn sydd wedi ei fabwysiadu yn y cyfnod hwn", meddai.

"Oherwydd mae plentyn sydd wedi bod mewn gofal angen trefn ar bethau.

"Maen nhw'n licio gwybod bod nhw'n mynd i'r ysgol bob dydd ac yn gwneud eu gweithgareddau.

"Ond gyda hyn nawr mae pethe' wedi dod i stop.

"Un peth fi'n credu yw y bydd gan bobl nawr yr amser iddyn nhw gymryd yr amser 'na [i feddwl am] fabwysiadu."