麻豆官网首页入口

Pryder am swyddi yn y diwydiant awyrennau ger Caerffili

  • Cyhoeddwyd
GE Aviation factory floor
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae GE Aviation yn cyflogi tua 1,400 ar ei safle yn Nantgarw

Mae cwmni General Electric, sy'n cyflogi 1,400 o weithwyr yn Nantgarw, ger Caerffili, wedi dechrau trafodaethau yngl欧n 芒'r posibilrwydd o ddiswyddiadau oherwydd colledion yn sg卯l argyfwng coronafeirws.

Mae'r cwmni, sy'n cynhyrchu peiriannau i'r diwydiant awyrennau, yn dweud y gallai'r wasgfa economaidd effeithio ar 13,000 o'r 52,000 o weithwyr maen nhw'n eu cyflogi ledled y byd.

Hwn yw'r arwydd diweddaraf bod y diwydiant hedfan awyrennau yn paratoi ar gyfer effaith hirdymor y cyfyngiadau ar deithio.

Mae GE Aviation yn cynhyrchu injans ar gyfer cwmn茂au Boeing ac Airbus ar y safle ger Caerffili.

Mae'r cwmni eisoes wedi cyhoeddi y bydd y toriadau o 10% yn nifer eu gweithlu yn yr Unol Daleithiau, ond bod angen "rhagor o doriadau."

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth y safle yn Nantgarw sichrau cytundeb gwerth 拢20m yn 2017

"Mae'r cwmni yn ymgynghori gyda'u holl weithwyr ar y safle yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sydd eisoes ar seibiant cyflog, er mwyn trafod diswyddo gwirfoddol," meddai llefarydd.

"Ond fe fydd nifer y bobl allai gael eu heffeithio ond yn cael ei ddatgelu ar ddiwedd y broses ymgynghori."

Daw'r newyddion am yr ymgynghoriad dair blynedd ar 么l i safle Nantgarw ennill cytundeb gwerth 拢20m er mwyn gwaith cynnal a chadw ar yr injan jet, GE9X.