Chwalu'r chwedlau am coronafeirws

  • Awdur, Dr Glyn Morris, Darlithydd Gwyddoniaeth Biolegol
  • Swydd, Queen Margaret University, Caeredin

Mae cynnydd y cyfryngau cymdeithasol wedi golygu y gallwn gadw mewn cysylltiad 芒 ffrindiau a theulu yn haws, sy'n bwysicach nag erioed yn ystod y cyfnod yma o ymbellhau cymdeithasol.

Fodd bynnag, mae'n wirioneddol drist y bydd yr argyfwng iechyd hwn yn dod 芒'i bandemig ei hun o wybodaeth anghywir a chamddealltwriaeth.

Mae hi'n bwysicach nag erioed i gymryd amser a meddwl am yr hyn rydyn ni'n ei ddarllen, cyn gwasgu'r botwm 'rhannu'. Gall fake news ledaenu hyd yn oed yn gyflymach na'r feirws, ac achosi dinistr tebyg.

Disgrifiad o'r llun, ... ond peidiwch 芒 rhannu newyddion ffug

Anodd gwahaniaethu

Rhaid i ni ofyn i'n hunain beth mae'r newyddion yn ceisio ei ddangos. Er enghraifft, pe bawn i'n dweud fod yr awyr yn goch, byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud fy mod i'n anghywir, a byddai rhai yn dweud ei fod weithiau yn goch yn y boreau a'r nosweithiau. Ond os ofynnwch i ffisegydd, bydden nhw'n dweud bod tonfedd y lliw coch bob amser yn bresennol, ac felly mae'r datganiad yn wir.

Mae yna elfen o wirionedd bob amser mewn stori 'ffug', a dyna sy'n ei gwneud hi mor anodd i wahaniaethu rhwng yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthym y dylem ei gredu, a'r hyn sydd yn gywir.

Wrth gwestiynu'r gwyddoniaeth mae'n bwysig dangos ychydig o amheuaeth gwyddonol iach a sylweddoli bod y canlyniadau'n aml yn dibynnu ar y cyd-destun.

Gadewch i ni fynd trwy rai o'r straeon sy'n ymwneud 芒 gwyddoniaeth COVID-19:

Gall haul ladd coronafeirws

Mae pelydrau'r haul wedi bod yn arbennig o gryf dros yr wythnosau diwethaf, gan roi cyfle i ni fynd allan i'n gerddi a mwynhau. Mae'n wir bod pelydrau uwch-fioled (UV) a gwres pwerus yn cael eu defnyddio fel diheintydd, ond er fod yr haul yn teimlo'n hyfryd 芒 chynnes ar ein croen, nid yw'r gwres UV ac is-goch sy'n cael ei roi gan yr haul yn ddigon pwerus i'w defnyddio fel diheintydd effeithiol yn erbyn coronafeirws na unrhyw feicro-organeb arall.

Ond, wrth gwrs, mae'n dal i fod yn ddigon pwerus i achosi niwed i'r croen ei hun! Gallai'r rhai sy'n dymuno defnyddio'r haul fel arf yn erbyn coronafeirws ystyried canlyniadau'r effaith y gallai ei gael ar eu hiechyd eu hunain, fel llosg haul neu ganserau posib.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae COVID-19 yn dymhorol

Mae'n wir bod y rhan fwyaf o achosion o feirysau yn dymhorol. Er enghraifft, mae'r ffliw fwyaf heintus yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae hyn wedi achosi straeon y bydd SARS-CoV-2, sef y feirws sy'n gyfrifol am COVID-19, yn dilyn yr un patrwm. Ond anaml y mae pandemigau yn ymddwyn yn yr un modd ag achosion tymhorol.

Mae SARS-CoV-2 yn straen newydd o coronafeirws, ac nid yw gwyddonwyr yn gwybod eto sut bydd yn ymateb i dywydd sydd yn fwy cynnes. Mae gwyddonwyr yn casglu mwy o ddata am SARS-CoV-2 a'i ymddygiad, ac nid yw hi'n syniad da i ddod i gasgliadau cyn bod gennych chi'r holl ffeithiau.

Mae COVID-19 yn cael ei ledaenu trwy giatiau a pharseli

Nid yw 'ydy arwynebau yn heintus neu beidio' yn gwestiwn syml ydy neu nac ydy. Mae'n fwy o gwestiwn o debygolrwydd, ac mae gan y mwyafrif o arwynebau tebygolrwydd neu risg isel o fod yn heintus.

Yn gyntaf mae angen i feirws setlo, goroesi, ac yna bod yn bresennol mewn niferoedd digon uchel i allu heintio rhywun. Cofiwch, yn wahanol i facteria, ni all feirws atgynhyrchu ar arwynebau er mwyn cynyddu eu niferoedd; dim ond yng nghelloedd corff rhywun mae feirysau yn gallu atgynhyrchu.

Mae SARS-CoV-2 yn cael ei wasgaru trwy ddiferion sy'n cael eu rhyddhau pan fydd person heintus yn pesychu neu'n tisian. Mae ymchwil yn dangos y gallai'r feirws oroesi yn y diferion yma am hyd at dair awr ar 么l iddyn nhw adael y corff.

Gall SARS-CoV-2 oroesi hyd at 72 awr ar arwynebau caled fel plastig a dur gwrthstaen ar dymheredd o 21-23C, ond nid yw'n goroesi'n dda ar gardfwrdd. Y gred ydy y gall y ffibrau naturiol amsugnol mewn cardfwrdd achosi'r feirws i sychu'n gyflymach nag ar fetel neu blastig, gan wneud y risg o ledaenu SARS-CoV-2 drwy barseli yn isel iawn.

Yn aml mae'n achos o beidio 芒 gofyn beth sy'n bosib, ond yn hytrach beth sy'n debygol.

Yn wir, gall y feirws oroesi ar fetel fel gi芒t am hyd at 72 awr. Ond cafodd y prawf yma ei gynnal mewn amgylchedd o dan reolaeth labordy, heb aer i effeithio ar sut mae'r gronynnau firaol yn setlo. Dangosodd yr arbrawf y gall gronynnau firaol mewn aer sy'n symud gymryd hyd at 41 awr i setlo ar yr wyneb, sy'n golygu bod y tebygolrwydd o'r feirws yn setlo ar gi芒t cyn cael ei ladd yn fach iawn.

Mae'n bwysig cofio bod y rhan fwyaf o achosion byd-eang yn cael eu hachosi gan ddrosglwyddiad person i berson, a dyna pam fod mesurau pellhau cymdeithasol y llywodraeth mewn lle.

Gall mwgwd wyneb amddiffyn rhag coronafeirws

Mae gweithwyr gofal iechyd yn defnyddio mwgwd wyneb proffesiynol, sy'n ffitio'n dynn o amgylch y wyneb i'w hamddiffyn rhag haint.

Ar y llaw arall, mae'r rhan fwyaf o fygydau brethyn tafladwy yn annhebygol o rwystro'r gronynnau firaol bach, ond yr hyn y gallan nhw ei wneud yw helpu i atal diferion rhag lledaenu, sef sut mae'r feirws yn teithio.

Felly gall gwisgo mwgwd pan ydych chi allan o'r t欧 weithio law-yn-llaw 芒 mesurau pellhau cymdeithasol i helpu i leihau'r lledaeniad.

[Nid yw Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai pawb wisgo masgiau wyneb, ond maen nhw'n credu y dylai "fod yn fater o ddewis personol".]

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Casgliadau ar sail tystiolaeth

Rydyn ni'n cael ein llethu 芒 gwybodaeth trwy'r dydd ac rydyn ni'n dibynnu ar ein greddf i benderfynu a yw rhywbeth yn wir neu'n anwir.

Yr anhawster yw y gall rhai pethau swnio mor wir, ac mae hynny'n ein hannog i beidio 芒 chymhwyso ein sgiliau meddwl beirniadol.

Ein cyfrifoldeb ni felly yw dadansoddi'r straeon hyn a chwestiynu pa mor ddefnyddiol ydyn nhw i'n sefyllfa ein hunain, cyn dod at gasgliadau.