麻豆官网首页入口

Parciau bywyd gwyllt yn wynebu 'argyfwng economaidd'

  • Cyhoeddwyd
S诺 M么r M么n
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae S诺 M么r M么n ar eu colled o tua 拢20,000 y mis oherwydd y pandemig

Mae parciau bywyd gwyllt a s诺au Cymru wedi rhybuddio eu bod yn wynebu argyfwng economaidd oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.

Mae atyniadau o'r fath yn denu miloedd o ymwelwyr dros y cyfnod yma o'r flwyddyn fel arfer, ond dyw hynny ddim yn bosib oherwydd y cyfyngiadau.

Mae Cymru Fyw eisoes wedi clywed gan berchennog S诺 M么r M么n, sydd wedi lansio cronfa ap锚l geisio codi arian er mwyn sicrhau y bydd modd i'r sefydliad barhau wedi'r argyfwng.

Dywedodd Frankie Hobro fod y sefydliad yn colli 拢20,000 y mis.

'Llawer mwy difrifol'

Sefydliad arall sy'n cael trafferthion ydy Folly Farm yn Sir Benfro, gyda'r cyfarwyddwr Tim Morphew yn dweud eu bod yn colli 拢60,000 y mis ac na fyddan nhw'n gallu parhau heb gymorth.

Ychwanegodd fod y pandemig wedi eu gorfoi i newid y ffordd maen nhw'n gofalu am rai anifeiliaid, yn enwedig y rhai sy'n perthyn yn agos i fodau dynol.

"Fel arfer os oes rhywun yn dod i'r gwaith gydag annwyd rydyn ni'n eu cadw i ffwrdd o'r mwnc茂od, ond nawr mae'n beryg bywyd felly'n llawer mwy difrifol," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Emma Hill wedi gorfod rhannu staff i ddau d卯m rhag ofn bod salwch

Dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain yn Sir G芒r, Emma Hill eu bod hwythau ar eu colled o tua 拢20,000 y mis oherwydd y pandemig.

"Er mwyn sicrhau bod yr adar yn ddiogel rydyn ni wedi'n gwahanu i ddau d卯m fel mai dim ond hanner y staff sydd mewn ar unrhyw adeg," meddai.

"Felly os oes unrhyw un ohonom yn mynd yn s芒l bydd hanner arall y staff yn gallu parhau i edrych ar 么l yr adar.

"Fel arfer mae'r adar yn aros gyda ni am 10 diwrnod ac yna'n symud i'w cartrefi newydd - mae'n well iddyn nhw gael eu magu gyda'r bobl sydd am edrych ar eu holau am weddill eu bywydau - ond gyda'r cyfyngiadau ar deithio dydy pobl ddim yn gallu teithio yma i'w h么l nhw."