Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Beth sydd yn eich cwpwrdd?
Ydi penderfynu beth i'w goginio yn achosi ychydig o gur pen ar hyn o bryd?
Peidiwch 芒 phoeni, mae gennym ni ysbrydoliaeth i chi gan bobl sydd wedi bod yn chwilota yng nghefn y cwpwrdd am gynhwysion, ac wedi llwyddo i wneud prydau bwyd blasus iawn.
Dyma bump fideo sy'n egluro sut maen nhw wedi creu pryd allan o'r hyn oedd ganddyn nhw:
Paella Llyr Serw
Mae Llyr yn gogydd sy'n byw yn Llanrwst. Penderfynodd ddod 芒 'chydig o flas Sbaenaidd i'r bwrdd bwyd, a defnyddio pethau sydd wedi bod yng nghefn y rhewgell ers cryn amser...
Cynhwysion:
- Olew
- Cyw i芒r
- Nionyn
- Garlleg
- Pupur
- Paprika
- Chorizo
- Reis paella
- Gwin gwyn
- Stoc (esgyrn y cyw i芒r gyda 2 nionyn, moron, cennin, deilen bae, clof, 2 ewin garlleg, litr o dd诺r)
- Saffrwm sych
- Tomatos (hanner tun)
- Ffa gwyrdd
- Pys
- Anchovies
- Lemwn a menyn i'w weini
Wyau Twrcaidd Llio Angharad
Dyma un o hoff ryseitiau Llio, sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae hi'n ceisio defnyddio popeth sydd ganddi yn yr oergell a'r cypyrddau i osgoi gorfod mynd allan o'r t欧 mor aml i siopa am fwy o fwyd.
Cynhwysion:
- Olew
- Halen
- Tsili
- Iogwrt
- Garlleg
- Finegr
- Wyau
- Menyn
- Bara
- Persli i'w weini
Bisgedi Blodau Gwyllt y Gwanwyn Marian Haf
Yng Ngheredigion mae'r brintwraig Marian Haf yn byw. Mae hi wedi defnyddio cynhwysion o'r ardal o'i chwmpas, ynghyd 芒 chynnwys ei chwpwrdd, ar gyfer ei bisgedi arbennig hi... ac wedi cael help ei phlant i'w coginio
Cynhwysion:
- Menyn
- Blawd
- Wyau
- Lemwn
- Siwgr
- Blodau gwyllt
Stiw ffacbys (lentils) Seiriol Dawes-Hughes
Mae gan Seiriol o Gaernarfon storfa o fwydydd tun, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn ystod y cyfnod yma.
Cynhwysion:
- Garlleg
- Tomatos
- Olew olewydd
- Ffacbys/corbys (lentils)
- Sbigoglys (spinach)
- Sudd hanner lemwn
- Mwstard
- Cr猫me fra卯che
- Caws (fel caws gafr neu feta)
- Halen a phupur
B卯ns ar dost cartref Sioned Pearson
Sicrhau bwyd maethlon ar gyfer ei theulu ydi her Sioned o Bwllheli yn ystod y pandemig. Mae hi wedi dod o hyd i rys谩it i wneud fersiwn cartref o hen ffefryn.
Cynhwysion:
- 笔耻谤茅别 tomato
- Sial贸ts (shallots)
- Garlleg
- Perlysiau cymysg
- Smoked paprika
- Tun o ffa cannellini
- Halen a phupur
- Olew
- Saws Worcester
- Passata
- 惭锚濒
- Tost gyda digon o fenyn a llond llaw o gaws i'w weini
Cadwch lygad am fwy o fideos Beth Sydd Yn Eich Cwpwrdd ar dudalen Facebook 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw i'ch ysbrydoli!
Hefyd o ddiddordeb: