Cwmn茂au angen grantiau i addasu i'r rheol dau fetr

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) yn galw am grant i gael eu sefydlu i helpu cwmn茂au i fynd i'r afael 芒'r rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Y syniad fyddai defnyddio arian Llywodraeth Cymru i addasu eiddo er mwyn caniat谩u gweithredu'r rheol dau fetr.

Yn 么l yr FSB bydd angen i Lywodraeth Cymru hefyd gynnig cyngor a chefnogaeth i fusnesau bach yngl欧n 芒 dod 芒 staff yn 么l i weithio'n ddiogel a sut i weithredu'r rheol dau fetr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi cyflogwyr a gweithwyr, a'u bod wedi llunio canllawiau i helpu busnesau sicrhau dau fetr rhwng pobl ar eu safle.

Mae adroddiad yr FSB, Ailagor Cymru hefyd yn galw am 'Gynllun Twristiaeth' a fydd yn caniat谩u i fusnesau yn y sector gael benthyciadau llog isel gan y Banc Datblygu nad oes angen iddyn nhw eu had-dalu nes 2021.

Mae'r FSB yn dadlau y bydd hyn yn caniat谩u i gwmn茂au twristiaeth oroesi ar 么l colli allan ar dymhorau'r gwanwyn a'r haf eleni.

Dywedodd Cyfarwyddwr FSB Cymru, Ben Francis: "Rydyn ni yn bwriadu cyflwyno syniadau cadarnhaol i Lywodraeth Cymru er mwyn cyfrannu tuag at gynllun ar gyfer sut i gefnogi busnesau i ddygymod 芒'r cyfyngiadau."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

"Mae'r pandemig wedi achosi straen digynsail ar gwmn茂au bach Cymru, ond mae cyfle nawr i edrych ar sut mae modd i ni sicrhau bod y cyfnod a ddaw wedi'r i'r cyfyngiadau gael eu codi mor llwyddiannus 芒 phosib.

"Bydd yn rhaid i'n cwmn茂au twristiaeth, er enghraifft, gymryd agwedd wahanol iawn at sut maen nhw'n gweithio ar gyfer y tymor hwn ac i'r nesaf.

"Mae yna ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi'r cwmn茂au hyn a sicrhau y gallant ddod yn 么l y tymor nesaf er gwaethaf colli swm sylweddol o incwm eleni, ac mae Cynllun Twristiaeth yn un ffordd o wneud hyn.

"Mae'r rhain yn gwestiynau anodd y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu hateb er mwyn sicrhau y gallwn i gyd elwa o gyfraniad cwmn茂au llai Cymru, ac yn FSB rydym am gyfrannu tuag at sut rydym yn ateb y cwestiynau hynny. "

Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfarwyddyd i'r sector cyhoeddus a chwmn茂au mawr i dalu cyflenwyr bach yn brydlon.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n deall pa mor anodd yw'r amser hwn i bob busnes, beth bynnag fo'u maint."

"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi cyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd.

"Bydd y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ynghylch ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi tan fis Hydref yn helpu busnesau ond mae angen i Lywodraeth y DU fynd ymhellach a darparu'r cyllid a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar gwmn茂au i oroesi ac adfer i lefelau twf a ffyniant cyn-bandemig.

"Rydyn ni wedi bod yn glir y bydd ein Cronfa Gwydnwch Economaidd yn blaenoriaethu busnesau sydd angen cefnogaeth i amddiffyn swyddi a'r economi ehangach - rydyn ni wedi gweld ymateb enfawr i'r gronfa ac rydyn ni'n parhau i brosesu ceisiadau.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

"Mae'r gronfa wedi cael seibiant i ganiat谩u inni ystyried pa gymorth pellach y gallwn ei ddarparu.

"Mae Cymru wedi ymgorffori'r ddyletswydd pellhau corfforol yn ein rheoliadau ac rydym wedi cynhyrchu canllawiau i helpu busnesau i gynnal dau fetr rhwng pobl ar eu safle.

"Bydd y Prif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn mynychu'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ddydd Iau fel rhan o'n gwaith parhaus gyda diwydiant ac undebau llafur i ddatblygu ein hagwedd tuag at ddiogelwch yn y gweithle."