麻豆官网首页入口

Teulu'n dychwelyd i Lerpwl wedi pryderon diogelwch

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r cynghorydd Carwyn Jones yn pryderu bod tensiynau'n codi ar yr ynys

Mae aelodau teulu o Lerpwl oedd wedi teithio i'w hail gartref ar Ynys M么n wedi dychwelyd i Lannau Mersi ar 么l cael clywed fod pryderon am eu diogelwch.

Fe adawodd y teulu y t欧 ym mhentref Llandegfan yn gynharach yr wythnos hon wedi i'r heddlu ymweld 芒 nhw.

Dywedodd y cynghorydd lleol Carwyn Jones ei fod wedi cysylltu gyda'r heddlu am ei fod yn pryderu am yr awyrgylch yn lleol.

"Roedd tensiynau'n rhedeg yn eithaf uchel. Diolch byth fe ddaeth yr heddlu'n syth," meddai'r cynghorydd.

Ychwanegodd fod Cyngor M么n yn bryderus fod llacio rheolau'r cyfyngiadau cymdeithasol yn Lloegr yn golygu mewnlifiad o ymwelwyr i'r ynys yn ystod y penwythnos sydd i ddod.

"Rydym yn bryderus iawn. Fe allwn ni weld cynnydd mewn gweithgaredd yma ym M么n fydd yn cynyddu'r perygl i'n trigolion lleol."

Dywedodd ei fod yn gobeithio na fyddai pobl yn gweithredu'n groes i'r gyfraith, gan rybuddio fod tensiynau'n codi.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: "Fe aethon ni i gyfeiriad yn Llandegfan ac wedi siarad gyda'r teulu am bryderon oedd wedi codi, fe aethant yn 么l i Lerpwl."