麻豆官网首页入口

'Clymu dwylo' heddlu drwy beidio cynyddu dirwyon

  • Cyhoeddwyd
Heddlu ar y Bannau

Mae comisiynydd heddlu wedi beirniadu penderfyniad Prif Weinidog Cymru i beidio 芒 chynyddu dirwyon i'r rhai sy'n torri rheolau ynysu yn ystod pandemig coronafeirws.

Dywedodd Arfon Jones, comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, bod cadw'r dirwyon ar 拢60 yn "clymu dwylo" yr heddlu.

Mae dirwyon bellach yn 拢100 yn Lloegr, ond dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford na fyddai ei lywodraeth yn dilyn yr un cam, ond yn cadw'r mater "dan ystyriaeth".

Daw hynny ar 么l i gomisiynwyr pedwar llu Cymru ysgrifennu ar y cyd yn gofyn am ddirwyon uwch.

Yng Nghymru, mae'r dirwyon yn cael eu haneru i 拢30 os ydyn nhw yn cael eu talu o fewn 14 diwrnod.

Ond yn Lloegr mae'r dirwyon yn dechrau ar 拢100, 拢50 os ydyn nhw yn cael eu talu'n brydlon, hyd at uchafswm o 拢3,200.

Ffynhonnell y llun, EyeImagery
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Arfon Jones wedi beirniadu'r penderfyniad i beidio cynyddu dirwyon

Ar Twitter, dywedodd Mr Jones ei fod "fel rhoi'r offer i chi a chlymu eich dwylo."

Cafodd ei rwystredigaeth ei adlewyrchu gan gomisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llewellyn, a ddywedodd ei fod fel "rhoi llwy i chi dorri coeden".

Ychwanegodd y byddai'n galw ar Mr Drakeford i esbonio ei benderfyniad i'r cyhoedd.

Dirwyon 'dan ystyriaeth'

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: "Nid ydym yn bwriadu newid y system ddirwyon yng Nghymru ar hyn o bryd ond rydyn ni'n cadw'r mater dan ystyriaeth."

Mae heddluoedd yn dweud bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cadw at y rheolau, er i Heddlu Gwent ddweud mai G诺yl y Banc yr wythnos diwethaf oedd y prysuraf iddyn nhw ers i'r cyfyngiadau ddod i rym.

Mae'r heddluoedd hefyd yn rhagweld y gallai mwy o bobl deithio i mewn i Gymru ar 么l i Brif Weinidog Prydain, Boris Johnson, annog pobl yn Lloegr ddychwelyd i'w gwaith a llacio'r rheolau ar ymarfer corff.