麻豆官网首页入口

Ateb y Galw: Y dylunydd a'r cerddor Steffan Dafydd

  • Cyhoeddwyd
Steffan DafyddFfynhonnell y llun, Steffan Dafydd

Y dylunydd a'r cerddor Steffan Dafydd sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar 么l iddo gael ei enwebu gan Dyfan Lewis yr wythnos diwethaf.

Mae Steff yn gwneud llawer o waith celf printio sgrin, gan gynnwys cloriau recordiau i fandiau fel Cadno a Chroma, ac mae hefyd yn aelod o'r band Breichiau Hir.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Bod mewn pram gyda cover glaw droso fi tra odd e'n bwrw'n drwm. Dwi'n cofio teimlo'n smug.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Kimberly - The Pink Ranger yn Power Rangers yn y 90au. (Newydd ffeindio mas mae Amy Jo Johnson yw enw'r actores.)

Ffynhonnell y llun, Ollie Millington
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Steffan yn ffans茂o'r un mewn pinc - yr actores Amy Jo Johnson oedd tu 么l i'r masg yn y 1990au

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

'Neud j么c twp am riant rhywun a cofio hanner ffordd trwy gweud y j么c bod y rhiant yna wedi marw. Dyna fi'n ga'l am 'neud j么cs mor wael am rieni pobl.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Dwi rili ddim yn cofio. Cofio mo'yn llefen tro dwetha' i fi weld The Lion King.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Rhoi pethe off a gorfeddwl am bethe dwi mo'yn neud yn lle jyst 'neud nhw.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caeau Llandaf sy'n mynd mewn i Barc Bute. Ffaith bach fi heb checo a sai moyn i neb gywiro - gan fod y parciau yna i gyd yn cysylltu fel un, dyna'r ail barc mwya' yng nghanol dinas ar 么l Central Park yn Efrog Newydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae hoff le Steffan, Caeau Llandaf a Pharc Bute wedi bod yn gartref i 诺yl Tafwyl yn y brifddinas

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson o haf pan o'n i'n 16 neu 17 'nath orffen gyda fi a thri ffrind yn cwympo drwy do sied mam un o'n ffrindie am 4 y bore yn edrych ar yr haul yn codi.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Ff诺l bach diog.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

'Sai'n darllen lot. 'Nath e' gymryd fi rhwbeth fel tair blynedd i ddechre darllen Less Than Zero ar 么l i ffrind fi, Rhys, rhoi menthyg e' i fi. Nes i fwynhau hwnna, ma'n dywyll a hollol dead-pan. Cofio mwynhau The Killing Joke pan o'n i'n iau - stori antur bizarre am ddyn yn dilyn j么c i lle gafodd e' ei greu.

Hoff film - 'swn i'n hoffi dweud rhywbeth dwys neu rhyw glasur, ond ma'r nifer o weithie dwi wedi gwylio This Is The End gyda'r rhan fwya' o Breichiau Hir yn siarad drosto'i hun. Comedi trashy Americanaidd lle ma'r actorion useless i gyd yn actio fel eu hunain mewn apocalyps.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Paul Rudd. Mewn bydysawd arall, ma' fi a fe'n dod ymlaen yn rili dda ond dyw e' pallu credu hwnna yn y realaeth yma. Classic Rudders!

Ffynhonnell y llun, Jon Kopaloff
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mewn byd arall mae Steffan yn ffrindiau gorau gyda'r actor Hollywood Paul Rudd

Beth yw dy hoff g芒n?

Ma' gyda fi playlist o Spotify o'r holl ganeuon sydd wedi bod yn hoff g芒n i fi ar ryw bwynt. Ma' na 222 o ganeuon arno fe ar hyn o bryd - 'sai'n jocan.

Ar hyn o bryd, Bobby gan (Sandy) Alex G yw e'. Dydd A Nos gan Hyll odd e' am bach. A ma' Adam Gnade & Be Softly newydd ryddhau Everything Will Change Always a fi'n meddwl fydd hwnna'n cymryd drosodd mewn bach. Ma'r dair c芒n yma yn drist gyda theimlad o nostalja yn trochi nhw. Dyna yw kryptonite fi mewn caneuon fi'n meddwl.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf - Rhywbeth rili posh i 'neud lan am y prif gwrs.

Prif gwrs - Big Tasty o McDonald's.

Pwdin - Swiss roll lemon curd ma' nghariad i, Morganne, yn neud o scratch (hyd yn oed y lemon curd).

O archif Ateb y Galw:

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Pan o'n i tuan naw oed, 'nath Mam a Dad ddweud wrtho fi mai peli o gaws mawr mewn c诺yr coch (fel Babybels) odd y peli coch ar wifrau trydan rhwng peilons yn Ffrainc. O'n i'n meddwl bod e'n syniad rili da ac yn ddifyr a nes i ddod 芒 fe lan fel trivia pan o'n i'n tua 16 neu 17 cyn sylwi pa mor gullible o'n i wedi bod. (Wedi dysgu mai marker balls yw nhw a does dim byd diddorol amdanyn nhw.)

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Os fydd hi'n ddiwrnod braf, fforsio fy nhad i roi barbeciw masif ymlaen, gwahoddiad agored i bawb a fi sy'n gyfrifol am y playlist. Os fydd hi'n bwrw glaw, mae'n si诺r jyst aros mewn a pwdu.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Gofodwr ar ddiwrnod off yn y gofod.

Ffynhonnell y llun, Breichiau Hir
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Steffan yn aelod o'r band o Gaerdydd, Breichiau Hir

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Katie Hall

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw