麻豆官网首页入口

Yr Urdd, Carwyn James a g锚m olaf Barry John

  • Cyhoeddwyd
carwyn barry

Yn 1972 fe roedd Yr Urdd yn dathlu ei 50 mlwyddiant. I nodi'r achlysur arbennig yma fe benderfynodd y mudiad gynnal digwyddiad yng Nghaerdydd.

G锚m rygbi oedd y digwyddiad, ac hwnnw rhwng t卯m Barry John, y maswr chwedlonol a th卯m Carwyn James, cyn-hyfforddwr Llanelli a'r Llewod.

Roedd y g锚m yn un hynod arwyddocaol, gan i Barry John ddatgan ei fod yn ymddeol o chwarae naw diwrnod yn ddiweddarach. Mae rhaglen arbennig yn cael ei .

Roedd 22 o Lewod a oedd ar y daith lwyddiannus i Seland Newydd yn wynebu ei gilydd yn y g锚m. Yn bartner i Barry John yn yr haneri oedd Gareth Edwards, ac hefyd yn y t卯m oedd enwau adnabyddus eraill fel Gerald Davies, Delme Thomas a Dai Morris.

Yn nh卯m Carwyn James roedd Derek Quinnell a John Dawes, yn ogystal 芒 Phil Bennett, olynydd Barry John yng nghrys enwog rhif 10 Cymru.

Un oedd yn allweddol i drefnu'r achlysur, ac oedd yno yng nghanol y cyfan ar y diwrnod oedd cyn-newyddiadurwr chwaraeon y 麻豆官网首页入口, John Evans:

"Roedd Urdd Gobaith Cymru'n dathlu hanner can mlwyddiant, felly roedd yn achos i longyfarch a dathlu i nhw, ac hefyd i garfan Carwyn James oedd wedi mynd mas i Seland Newydd yn gwisgo crysa'r Llewod ac ennill y gyfres yno am y tro cyntaf erioed.

Disgrifiad,

John Evans yn cyflwyno y rhaglen wreiddiol

"Felly gan falle cysylltu'r ddau ddigwyddiad o bwys yma a fydde modd cael rhyw fath o achlysur, efallai g锚m, ac dyna ddigwyddodd. Aethon ni at Carwyn James a Barry John, y ddau o Gefneithin, a'r ddau yn frwdfrydig iawn am y penderfyniad. Ar 么l hynny wedyn, roedd angen cysylltu 芒'r Llewod o Gymru, a chael s锚l bendith pawb a phopeth.

"Cafwyd caniat芒d gan Glwb Rygbi Caerdydd hefyd i gynnal y g锚m ar Barc yr Arfau.

"Aethon ni ati i argraffu yr holl docynnau 'ma, teimlo byddw rhwng 12,000-18,000 eisie dod i wylio'r g锚m. Ond wir i chi, o fewn pythefnos roedd y tocynnau i gyd wedi eu gwerthu. Beth yn y byd mawr allwn ni wneud wedyn? Roedd y llwyddiant wedi dod cyn i'r g锚m gael ei chwarae.

Disgrifiad,

Carwyn James yn canmol safon y chwarae

"Felly dyma'n pwyllgor ni, un bach ond gweithgar gyda llaw, yn meddwl a fyddai Undeb Rygbi Cymru yn ystyried gadael ni gynnal y g锚m ar y Maes Cenedlaethol drws nesa' i Barc yr Arfau, gan ei bod yn dal miloedd yn fwy.

"Dyma ni'n cysylltu 芒 WH Clement, prif gyfarwyddwr Undeb Rygbi Cymru, ac egluro popeth iddo fe. 'Iawn, 'na i gael sylw holl aelodau'r Undeb'. A dyna a fu, cnoi ewinedd am wythnos neu ddwy."

Roedd John a'r trefnwyr eraill yn gwybod y byddai newid lleoliad y g锚m i'r Stadiwm Cenedlaethol yn newid yr achlysur yn llwyr, gan olygu llawer mwy o arian yn mynd i gronfeydd yr Urdd.

Disgrifiad,

Barry John yn gwrthymosod lawr yr asgell

"Daeth galwad wedyn i swyddfeydd yr Undeb, a WH Clement yn dweud wrtha i 'premission is granted - the Urdd is such a worthy cause, there was not one desented voice'. Felly roedd caniatad, llosgwyd y tocynnau gwreiddiol i gyd ac argraffwyd tocynnau newydd, 35,000 ohonynt.

"Gwerthwyd pob tocyn, gyda'r g锚m yn cael ei chwarae ar noson fwyn yng Ngaerdydd ar ganol yr wythnos ar ddiwedd Ebrill. Roedd rhai yn dweud bod 40,000 yno ar y noson.

"Roedd yna gostau wrth gwrs, g锚m amatur oedd hon, doedd neb yn cael eu talu fel y cyfryw. Roedd Carwyn yn gwahodd gw欧r o Iwerddon, Alban, Lloegr, ac wrth gwrs felly roedd 'na gostau.

"Ond fe wnaethpwyd elw o 拢15,000 i'r Urdd, a 48 o flynyddoedd yn 么l fe roedd hynny'n arian sylweddol.

"Wnaeth ddim un o Lewod Carwyn wrthod caniatad, fe ddwedon nhw i gyd 'hwre' fawr. Ac wrth gwrs doedd y cefnogwr rygbi cyffredin heb gael y cyfle i longyfarch gw欧r Carwyn am eu llwyddiant yn Seland Newydd."

Disgrifiad,

Enillodd t卯m Barry John ar y diwrnod, 33-28

"Dywedodd y cyfarwyddwr wrtha i, Onllwyn Brace, cyn-chwaraewr Cymru ei hun, 'does ddim eisiau ti gymhlethu dy hunan efo rhyw symudiadau mawr. 'Na gyd ti fod i wneud nawr yw unwaith mae'r b锚l yn nwylo rhywun dwed 'dyma John Spencer rhif 12', fel bod cyfle wedyn i bawb weld y chwaraewyr achos dyma yr unig dro y bydde'r holl s锚r yma i gyd yn chwarae ar yr un cae."

Carwyn James oedd yr ail lais yn y blwch sylwebu y diwrnod hwnnw, gan gynnig sylwadau craff hyfforddwr.

"Cawson ni g锚m i'w chofio," meddai John. "Barry John, wel o'n i'n gwybod bod e wir yn ystyried rhoi'r gore i chwarae - roedd e'n dipyn o sioc i mi, fel llawer o gefnogwyr.

"Fe ddisgleiriodd Barry yn y g锚m, ac fe sgoriodd y cais cyntaf. 16-16 oedd hi ar yr egwyl, ond wedyn aeth t卯m Carwyn a'r Llewod ar y blaen o rhyw 28-26.

"Gyda thair munud i fynd, bylchu, ochrgamu, gwych... sgorio'r cais. Pwy? Neb llai na Barry John. G锚m olaf Barry oedd hon, a chais olaf Barry oedd hon hefyd."

Hefyd o ddiddordeb: