Atal triniaeth iechyd meddwl i rai yn y gogledd

  • Awdur, Catrin Haf Jones
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae triniaeth rhai cleifion iechyd meddwl yng ngogledd Cymru wedi cael ei atal ar ei hanner yn sgil coronafeirws, yn 么l llythyr sydd wedi dod i law 麻豆官网首页入口 Cymru.

Yn 么l y llythyr, a yrrwyd gan un o dimau iechyd meddwl lleol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, fe fydd y cleifion hynny yn wynebu gorfod gwneud cais o'r newydd am driniaeth unwaith i'r sefyllfa bresennol newid.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cydnabod cynnwys y llythyr, gan ddweud eu bod wedi gwneud y "penderfyniad anodd" i atal triniaeth rhai pobl yn ystod y pandemig, ond y byddan nhw'n "adolygu" achosion cleifion sydd wedi eu heffeithio yn ddiweddar.

Mae AS Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn dweud bod y penderfyniad i ddod 芒'r driniaeth i ben "oherwydd problemau capasiti" yn "amlwg yn annerbyniol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'r penderfyniad yma'n "unol 芒'n canllawiau ni" a bod y bwrdd iechyd "wedi'n sicrhau ni y byddan nhw'n cysylltu'n fuan gyda'r holl gleifion dan sylw".

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Yn 么l y llythyr, sydd wedi ei gyfeirio at feddyg teulu o fewn y bwrdd iechyd, fe fydd y driniaeth i gleifion Gwasanaeth Gofal Iechyd Meddwl Sylfaenol yn dod i ben, "ac rydyn ni wedi cynghori cleifion, unwaith fydd y cyfyngiadau presennol yn cael eu codi, i drafod cael eu hail gyfeirio at ein gwasanaeth gan eu meddyg teulu".

Wrth esbonio'r rhesymeg dros y penderfyniad, aeth y llythyr ymlaen i ddweud eu bod wedi derbyn "cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i atal pob clinig oni bai eu bod nhw'n rai brys oherwydd sefyllfa bresennol y coronafeirws" ac "nad ydyn ni yn gallu cynnig unrhyw apwyntiadau pellach ar hyn o bryd".

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud nad ydyn nhw wedi rhoi'r cyfarwyddyd yma i fyrddau iechyd Cymru.

"Rydym yn ymwybodol o ohebiaeth yn rhyddhau cleifion o'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol yng ngogledd Cymru yn ystod y pandemig," meddai'r llywodraeth.

"Er iddynt gael manylion ar gyfer cysylltu 芒 gwasanaethau argyfwng, nid yw hyn yn unol 芒'n canllaw.

"Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn hanfodol yn ystod y pandemig.

"Er y gallai'r ffordd y maent yn cael eu darparu newid oherwydd y cyfyngiadau cyfredol, rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd gynnal gwasanaethau."

Disgrifiad o'r llun, Mae Rhun ap Iorwerth yn pryderu am yr oedi mewn darpariaeth i gleifion iechyd meddwl yn y gogledd

Yn 么l llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mr ap Iorwerth, mae rhyddhau claf sydd wrthi'n derbyn cefnogaeth iechyd meddwl, oherwydd problemau capasiti, "yn amlwg yn annerbyniol".

"Mae'n bryderus iawn mai'r cyfarwyddyd i ddoctoriaid nawr yw i yrru cleifion bregus a phroblemau iechyd meddwl i gefn y ciw," meddai.

"Rydyn ni eisoes yn gwybod bod problemau ar gynnydd oherwydd problemau corfforol sy'n mynd heb ddiagnosis a heb eu trin yn sgil y creisis yma.

"Mae'r un peth yn wir am iechyd meddwl. Mae angen i'r llywodraeth edrych ar ffyrdd o wella'r gwasanaeth, yn hytrach na rhyddhau cleifion bregus sydd angen help."

Mae prif swyddog Cyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru yn dweud bod y sefyllfa yn "bryderus iawn".

Yn 么l Geoff Ryall-Harvey, does "dim rheswm pam y dylai cleifion sydd eisoes a phroblemau iechyd meddwl gael eu triniaeth wedi ei atal yn llwyr".

"Mae angen cefnogaeth broffesiynol ar gleifion mwy nag erioed ar hyn o bryd," meddai.

"Rydyn ni wedi clywed gan feddygon teulu lleol bod nifer y cleifion sy'n dod atyn nhw gyda phroblemau iechyd meddwl yn cynyddu ac, ar 么l Covid-19, gallai hynny fod yn broblem fawr wrth i gleifion tymor hir ei chael hi'n anodd derbyn triniaeth tra bod y rhestrau aros yn mynd yn hirach ac yn hirach."

'Wedi ailgyflwyno'r gwasanaeth sylfaenol'

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod wedi rhyddhau rhai cleifion o'u gofal.

"Fel rhan o newid dros dro yn y ffordd rydyn ni yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl yn ystod pandemig Covid-19, fe wnaethon ni'r penderfyniad anodd o ryddhau rhai pobol o'n Gwasanaethau Gofal Iechyd Meddwl Sylfaenol," meddai'r llefarydd.

"Roedd hwn yn un o nifer o benderfyniadau a wnaed er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu parhau i gefnogi'r cleifion mwyaf bregus.

"Nawr bod gyda ni ddealltwriaeth well o effaith Covid-19 rydyn ni wedi ailgyflwyno Gwasanaethau Gofal Iechyd Meddwl Sylfaenol er mwyn derbyn cyfeiriadau tu hwnt i achosion brys.

"Fe fyddwn ni hefyd yn adolygu pob claf sydd wedi cael eu rhyddhau o'r system yn ddiweddar.

"Rydyn ni'n cydnabod pa mor ansicr ydy hyn i bobl sydd wedi defnyddio ein gwasanaethau ac fe fydden ni'n hoffi diolch iddyn nhw am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni fynd i'r afael a'r her ddigynsail hon."