麻豆官网首页入口

Pryderon am farwolaethau diabetig Covid-19

  • Cyhoeddwyd
MonitorFfynhonnell y llun, AFP

Mae bron i un ymhob chwech o'r rheini sydd wedi marw gyda coronafeirws yng Nghymru hefyd wedi bod yn byw gyda diabetes, yn 么l tystiolaeth Swyddfa Ystadegau yr ONS.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod hynny'n bryder, ond yn dweud hefyd na ddylid gor-ddehongli'r ffigyrau.

Roedd gan lawer o'r rheini fu farw gyflyrau eraill hefyd yn ogystal 芒 diabetes.

Dydy hi ddim yn gyfnod hawdd er hynny, i'r bobol sy'n byw 芒'r cyflwr ac yn gorfod cadw golwg arno o ddydd i ddydd.

Pryderon - a chadw pellter

Un o'r rheini ydy'r actor Dafydd Emyr. Mae'n dal i fedru mynd allan ac ymarfer corff, ond mae cadw pellter yn rhywbeth pwysig iawn meddai.

"Ar un lefel dwi'n ystyried fy hun yn lwcus. Ar 么l dweud hynny, dydy'r ystadegau o'r holl farwolaethau Covid ddim yn gadarnhaol i'r un diabetic.

"Mae yn fy nychryn i...dwi'n trio cadw trefn ar y diabetes ma...ar gyfartaledd mae fy lefela i yn berffaith, ond 'dan ni'm yn gwybod be mae'r clefyd yn ei wneud i'n horganau mewnol ni... mae diabetes yn un o'r clefydau gwaetha sy'n effeithio ar bob un bron a bod o'r organau, felly mae o yn dychryn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr actor Dafydd Emyr, sy'n byw gyda chyflwr diabetes math 1

Ym misoedd Mawrth ac Ebrill, roedd 249 o bobl oedd wedi marw 芒'r coronafeirws yng Nghymru hefyd yn ddiabetig. Roedd hynny bron yn 16% o'r cyfanswm. Mae ffigyrau mwy diweddar yn Lloegr yn awgrymu bod y ganran yn uwch eto yno.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod angen cymryd gofal wrth ddehongli'r ffigyrau hynny. Roedd gan y rhan fwyaf o'r bobol fu farw gyda Covid-19 gyflyrau eraill, a dim ond yn achos 42 o'r 249 y cafodd diabetes ei gofnodi fel y prif gyflwr.

Fe all amodau byw hefyd fod yn ffactor perthnasol, yn ogystal 芒 hanes iechyd y claf.

Rhwng 1 Mawrth a 11 Mai roedd 23,804 o farwolaethau Covid-19 yn Lloegr - gyda 7,466 o'r rhain yn gleifion oedd yn dioddef o ddiabetes math 2.

O'r cyfanswm, 365 o bobl oedd yn dioddef gyda diabetes math 1, ac yn ddibynnol ar inswlin o ddydd i ddydd. Roedd gan nifer fawr o'r rhai fu farw gyflyrau iechyd eraill hefyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Nia Hughes - meddyg teulu ym Mangor

"'Dan ni'n gwybod bod cleifion sydd efo clefyd siwgr efo risg uwch o ddatblygu cymhlethodau gwaeth efo Covid-19," meddai Dr Nia Hughes, sy'n feddyg teulu ym Mangor.

"Oherwydd hynny mae'n bwysig trio cadw rheolaeth gorau fedran ni o'r cyflwr. Mae na dipyn o betha fedrith y cleifion wneud eu hunain, gan gynnwys bwyta deiet iach a chytbwys, yn ogystal 芒 gwneud ymarfer corff rheolaidd.

"Mae gwefan Diabetes UK efo lot o adnoddau addysgiadol ar gyfer cleifion ac mae modd sb卯o ar hwnnw i weld oes na unrhyw gyngor pellach fedrith y claf gael, ac wrth gwrs mae'r meddygon teulu yn awyddus iawn i gydweithio efo cleifion i weld be fedrith gael ei wneud i gael rheolaeth gorau gallwn ni o'r cyflwr felly mae modd cysylltu efo'r meddyg teulu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ag yntau'n actor, does dim sicrwydd pryd y bydd modd i Dafydd Emyr ailafael yn ei waith, o gofio y byddai'n rhaid cadw pellter, yn fwy na thebyg, wrth wneud hynny. Ond mae'n gwneud ei orau i beidio a digalonni.

"Mae'r holl betha yna fel rhyw gwmwl mawr du yn hongian uwchben rhywun drwy'r amser. Ond wedi deud hynny dwi'n trio gweld yr ochor bositif i bethau...mi ddaw na, yr ystrydeb, haul ar fryn.

"Byr yw hyn ac ni barh芒 ..... sgwennish i hynny ar ddiwedd rhyw englyn, a dwi yn credu hynny."