麻豆官网首页入口

Cynnydd mawr yn y nifer sy'n hawlio Credyd Cynhwysol

  • Cyhoeddwyd
Canolfan waith

Mae'r nifer o bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru wedi codi'n aruthrol ers dechrau'r argyfwng coronafeirws, yn 么l ffigyrau newydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Rhwng 1 Mawrth a 12 Mai, gwnaeth 122,160 o bobl gais newydd i hawlio Credyd Cynhwysol.

Dyma'r ffigyrau swyddogol diweddaraf i effaith coronafeirws ar y system fudd-daliadau.

Mae'r ceisiadau newydd yn effeithio ar 95,000 o gartrefi yng Nghymru.

Y diwrnod prysuraf i'r Canolfannau Gwaith oedd 27 Mawrth pan wnaeth 4,860 o bobl gais am y bydd-dal.