Marwolaethau cartrefi gofal 'ddwywaith yn uwch na llynedd'

Ffynhonnell y llun, @mmowat1

Disgrifiad o'r llun, Cafodd pawb yng Nghartref Gofal Claremont House yng Nghasnewydd brawf Covid-19 fis yma
  • Awdur, Daniel Davies
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Roedd marwolaethau mewn cartrefi gofal y gwanwyn hwn bron ddwywaith yn uwch na llynedd, meddai'r rheoleiddiwr gofal.

Dywedodd Arolygiaeth Gofal Cymru fod mwy na 600 ohonyn nhw'n gysylltiedig 芒 coronafeirws.

Mae nifer y marwolaethau bellach wedi gostwng yn 么l i lefelau tebyg i 2018 a 2019.

Ond gydag achosion newydd Covid-19 yn dal i gael eu cadarnhau bob dydd, mae tonnau bellach yn "anochel" yn 么l Sanjiv Joshi, cyfarwyddwr cwmni Caron, sy'n berchen ar 14 cartref yn ne Cymru.

Mwy o brofion ac offer

Fe wnaeth y rhan fwyaf o gartrefi'r cwmni osgoi'r feirws, ond mewn un dywedodd Mr Joshi ei fod yn "ymledu fel t芒n".

"Yn y pen draw, rwy'n credu ein bod wedi cael 12 neu 13 o farwolaethau yn gysylltiedig 芒 Covid a marwolaethau eraill hefyd," meddai.

Y cwestiwn nawr yw sut i osgoi trychineb arall, yn enwedig wrth i weddill y gymdeithas baratoi ar gyfer llacio'r cyfyngiadau ar fywyd pob dydd.

Yn gynnar yn yr argyfwng roedd rhai cartrefi gofal yn ei chael hi'n anodd prynu offer amddiffynnol, ond nawr mae cyflenwadau rheolaidd yn cyrraedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod 40 miliwn o ddarnau o offer wedi'u dosbarthu am ddim.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Dangosodd profion nad oedd coronafeirws yn Claremont Court, er bod rhai preswylwyr wedi bod yn sal yn gynharach yn y pandemig

Mae'r gyfundrefn brofi wedi esblygu hefyd. Bythefnos yn 么l, cyhoeddwyd y byddai holl staff a thrigolion y cartref gofal yn cael eu swabio.

Ond a ddaeth hynny'n rhy hwyr?

Mae'r Comisiynydd Pobl H欧n, Helena Herklots, yn poeni y dylai fod wedi digwydd yn gynt oherwydd y risg bod pobl wedi trosglwyddo'r feirws hyd yn oed os nad oedd ganddyn nhw symptomau eu hunain.

"Rwy'n pryderu y bu oedi rhwng gwybod am drosglwyddo achosion heb symptomau a newid y polisi (profi)," meddai.

Yng nghartref gofal Claremont Court yng Nghasnewydd fe ddaeth swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda chymorth y fyddin, i brofi pawb yn ddiweddar.

Dangosodd fod y cartref yn rhydd o Covid-19, er bod rhai preswylwyr wedi bod yn s芒l yn gynnar yn y pandemig.

Ond fydd Covid-19 ddim yn diflannu meddai'r rheolwr, Mary Mowat.

"Mae'r staff yn hyderus," meddai. "Ond dim ond un eiliad ydyn ni i ffwrdd oddi wrth rywun yn dod ag ef i mewn i'r cartref."

Un o bryderon mwyaf cartrefi gofal oedd y byddai'r clefyd yn cyrraedd o ysbytai.

Mae rhai cartrefi wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru eu bod nhw wedi teimlo dan bwysau ym mis Mawrth i dderbyn cleifion oedd yn gadael ysbytai.

Dywedodd y Comisiynydd Pobl H欧n ei bod wedi clywed yr un cwynion.

Newidiadau i'r drefn

Ym mis Ebrill, newidiodd y polisi fel bod yn rhaid i bob claf sy'n gadael ysbyty brofi'n negyddol cyn dychwelyd i gartref gofal.

Ond fe fydd angen newidiadau pellach.

Mae cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg, er enghraifft, yn chwilio am gartref sydd heb ddioddef achosion o Covid-19 er mwyn ei ddefnyddio fel lle gall pobl aros ar 么l gadael yr ysbyty.

Maen nhw'n dweud y bydd yn darparu "lle diogel i bobl fregus sydd angen bod mewn cwarantin" am bythefnos ar 么l gadael yr ysbyty.

Bydd angen ail brawf negyddol arnyn nhw cyn gadael a dychwelyd i'w cartrefi gofal.

Ond yn 么l rhai bydd angen mwy o help ar gartrefi gofal i gydymffurfio 芒 chanllawiau sy'n dweud bod rhaid ynysu preswylwyr gyda coronafeirws.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae Cartref Preswyl Parkside House ym Mhenarth yn dweud eu bod wedi cadw'r feirws draw

Mae Justin Otto-Jones, sy'n rhedeg cartref gofal Parkside House ym Mhenarth, yn dweud mai "ymdrech wych staff" sydd wedi cadw'r firws i ffwrdd.

Ond os yw'n taro, dylid bod safle arbennig ar gael i anfon preswylwyr s芒l a'u cadw ar wah芒n o weddill y cartref, meddai -- yn enwedig pobl sydd 芒 dementia.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ceisio cefnogi darparwyr gofal cymdeithasol o'r dechrau, ond yn 么l Mr Joshi does dim digon o ymgynghori wedi bod.

Er enghraifft, dydyn nhw heb dderbyn arweiniad ar beth i'w wneud os oes rhaid i staff aros gartref dan y gyfundrefn newydd i olrhain achosion o'r clefyd.

Ychwanegodd Mr Joshi fod rhai cartrefi wedi gorfod aros yn hir cyn cael eu cyfran o 拢40m mewn cyllid brys a addawyd gan Lywodraeth Cymru.

'Ddim n么l i normal eto'

Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd canllawiau newydd ar gyfer staff mewn cartrefi gofal sydd heb ddangos symptomau yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir, ac mae disgwyl i weinidogion gyhoeddi mwy o arian yn fuan.

"Rydyn ni'n parhau i ddysgu mwy am coronafeirws gyda phob wythnos sy'n mynd heibio," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

"Drwy gydol y pandemig, rydym wedi bod yn glir ynghylch pwysigrwydd cael ein harwain gan y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf.

"Cyn gynted ag y newidiodd y cyngor gwyddonol i ddweud bod budd i brofion eang mewn cartrefi gofal, fe wnaethon ni weithredu'n gyflym."

Ond yn y dyfodol, ni ddylai polis茂au gael eu llywio gan wyddoniaeth yn unig, meddai Ms Herklots, ac mae angen clywed mwy gan breswylwyr cartrefi gofal a'u staff.

Fe wnaeth llawer o gartrefi, gan gynnwys Claremont House, gloi eu drysau yn gynnar i amddiffyn preswylwyr bregus.

Mae'r cyfyngiadau ar fywyd bob dydd yn dechrau cael eu llacio y tu allan, ond nid oes gan gartrefi gofal unrhyw syniad pryd y byddant yn gallu dod yn 么l i normal, meddai Ms Mowat.

"Dwi ddim yn si诺r a fyddwn ni'n croesawu perthnasau i'r cartref yn llawn am weddill y flwyddyn, a dweud y gwir," meddai.