麻豆官网首页入口

'Profi, olrhain, diogelu': System newydd wedi dechrau

  • Cyhoeddwyd
Mae system fonitro Cymru yn dechrau ddydd Llun

Mae system 'Profi, olrhain, diogelu' Cymru wedi dechrau ddydd Llun.

Bydd unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad agos 芒 phobl sydd wedi cael prawf positif am coronafeirws yn cael cais i hunan-ynysu am 14 diwrnod.

Mae systemau tebyg eisoes ar waith yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Daw'r system i rym wrth i gyfyngiadau cymdeithasol Llywodraeth Cymru gael eu llacio i ganiat谩u i bobl gwrdd ag eraill o du allan i'w cartref am y tro cyntaf ers dechrau'r argyfwng.

Yn 么l y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, mae'n falch "i gymryd dewisiadau yn unol 芒'r cyngor gwyddonol".

O dan y rheolau newydd, gall pobl o ddau gartref gwahanol gwrdd tu allan, ond bydd rhaid iddyn nhw aros o fewn eu hardal leol.

Pum milltir yw'r cyfyngiad cyffredinol o ran pellter, a bydd rhaid aros dau fetr ar wah芒n.

"Rwy'n gobeithio bod pobl Cymru yn deall bod hyn yngl欧n 芒 sut allwn ni gadw Cymru'n ddiogel," meddai Mr Gething wrth 麻豆官网首页入口 Cymru.

Mae 600 o staff wedi cael eu recriwtio i weithio ar y system 'Profi, olrhain, diogelu' yng Nghymru, a bydd angen 1,000 i gyd, wrth i'r cynllun ehangu.

Bydd modd i unrhyw un sydd 芒 symptomau'r feirws wneud cais am brawf yn eu cartref neu wneud apwyntiad mewn canolfan profi drwy ffenest y car.

Cafodd gwefan ei lansio ar y penwythnos er mwyn i unrhyw un yng Nghymru sydd 芒 symptomau wneud apwyntiad.

Mae modd i labordai brofi hyd at 9,000 o brofion y dydd yng Nghymru erbyn hyn.

Mae Mr Gething wedi dweud bod y system olrhain yn gwbl allweddol i gadw pobl yn ddiogel ac er mwyn i'r llywodraeth baratoi i lacio'r cyfyngiadau ymhellach.

"Erbyn y cyfnod adolygu nesaf, bydd rhagor o dystiolaeth gennym ni yngl欧n 芒 beth fyddwn ni'n gallu ei wneud, a bydd hynny yn rhoi mwy o hyder yngl欧n 芒 chyflwyno newidiadau pellach," meddai.

"Ry'n ni wedi cael cyngor clir gan ein gwyddonwyr. Maen nhw eisiau i'r system 'Profi, olrhain a diogelu' fod yn gadarn, cyn i newidiadau pellgyrhaeddol pellach ddigwydd i'r system. Dyna'r agwedd ry'n ni'n ei chymryd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hyd yn hyn mae 600 o staff wedi'u recriwtio i gynnal y profion

Mae rhai byrddau iechyd wedi bod yn treialu'r system dros yr wythnosau diwethaf.

Mae disgwyl y bydd angen cymaint 芒 20,000 o brofion y dydd yng Nghymru fel rhan o system brofi ledled y DU.

Y disgwyl yw y bydd mwy o bwysau ar y system yn yr hydref a'r gaeaf pan fydd mwy o bobl yn debyg o gael symptomau posib.

Ychwanegodd prif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall bod y system brofi yn rhan o "set o fesurau sydd eu hangen".

"Mae'n bwysig iawn bod ymdrechion o hyd ar lawr gwlad - er enghraifft, yr angen i gadw glendid da yn ein hysbytai a'n cartrefi gofal."