麻豆官网首页入口

Cefnogwyr Cymru yn galw am help i gael ad-daliadau teithio Euro 2020

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe AllenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Cymru yn gorfod aros blwyddyn cyn cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Ewrop

Mae cefnogwyr p锚l-droed Cymru sydd yn cael trafferth sicrhau ad-daliadau am gostau teithio wedi galw am gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Cyn y cafodd Euro 2020 ei ohirio am flwyddyn oherwydd y pandemig coronafeirws, roedd miloedd wedi talu er mwyn teithio i wylio'r gemau yn Baku, Azerbaijan ac yn Rhufain ym mis Mehefin.

Mae rhai wedi llwyddo i gael eu harian yn 么l neu dalebau gan eu cwmn茂au hedfan ond mae eraill yn parhau i gael trafferth.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mei Emrys

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mei Emrys

Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio'r sefyllfa fel un "digynsail."

Meddai llefarydd: "Ry ni'n gobeithio y bydd yr holl deithwyr sydd wedi cael eu heffeithio, gan gynnwys cefnogwyr oedd yn edrych ymlaen i wylio Cymru yn Euro 2020, yn gallu cael ad-daliadau."

Gwariodd teulu Angharad Walters o Lynrhedynog yn Rhondda Cynon Taf, 拢2,500 ar drefniadau teithio.

Roedd ei rhieni wedi bwriadu teithio gyda'i mab 16 oed Louis i Baku er mwyn dathlu diwedd ei arholiadau TGAU cyn i'r holl deulu gwrdd yn Rhufain cyn y g锚m yn erbyn Yr Eidal yno.

Ffynhonnell y llun, Angharad Walters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y teulu Walters wedi bod yn edrych ymlaen at gael dilyn Cymru yn ystod yr haf

Mae'r teithiau awyr wedi cael eu canslo ond mae Mrs Walters yn meddwl bydd hi'n amser maith cyn y bydd yn cael ad-daliad.

"Mae hi wedi creu straen", meddai, "ac i bobl sydd ddim fel arfer yn bwcio teithiau awyr neu'n gwneud trefniadau teithio ar ben eu hunain, gallai ddychmygu bod hyn am greu gofid iddyn nhw."

"Does neb wedi dod aton ni a dweud 'dyma gyswllt i chi os ydych mo'yn help."

Mae'n credu y bydd pobl y wynebu amgylchiadau "nad oes ganddyn nhw unrhyw glem sut cawn nhw eu harian yn 么l."

Anawsterau gyda chwmniau hedfan

Roedd Rhys Williams, peiriannydd cemegol o Blaina ym Mlaenau Gwent, fod i deithio gyda ffrind i Baku ar gyfer y gemau yn erbyn Twrci a'r Swistir.

Roedden nhw wedi gwario 拢600 yr un ar y teithiau awyr ac ar hyn o bryd mae dau o'r teithiau dal yn mynd yn eu blaen.

Ffynhonnell y llun, Rhys Williams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Rhys Williams ymysg y miloedd o gefnogwyr a deithiodd i Ffrainc ar gyfer Euro 2016

Mae Mr Williams wedi ysgrifennu at ei aelod lleol yn y Senedd, Alun Davies, sydd wedi gofyn i Brif Weinidog Cymru os allai ymyrryd.

"Da ni'n gwybod na fydd yr Euros yn cael eu cynnal. Yr hyn 'da ni angen yw'r Llywodraeth i helpu pobl i fynd i'r afael 芒'r anawsterau maen nhw'n cael hefo cwmn茂au awyr gwahanol," meddai.

"Mae gan y llywodraeth gyfle i weithredu, nid yn unig yn nhermau'r gyfraith ond fel catalydd, i drafod gyda gweinidogion mewn mannau eraill ac i drafod gyda'r cwmn茂au awyr.

"Mae pawb eisiau bod yn gefnogol i'r t卯m cenedlaethol, 'da ni i gyd eisiau gweld nhw yn gwneud yn dda. A dwi'n meddwl bod hynny yn golygu cymryd gofal o'r cefnogwyr hefyd."