麻豆官网首页入口

Covid: Arolwg i ystyried r么l newydd i ysbytai maes

  • Cyhoeddwyd
Staff uned gofal dwys Ysbyty Athrofaol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae unedau brys wedi bod yn trin llai o gleifion ers dechrau'r pandemig

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd arolwg yn cael ei wneud i weld a oes modd defnyddio'r ysbytai maes newydd ar gyfer gwneud triniaethau arferol ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

Wrth son am yr arolwg yng nghynhadledd ddyddiol y wasg dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ei bod hefyd yn "hynod bwysig nad yw pobl yn osgoi triniaeth brys - mae'r gwasanaeth iechyd yno i helpu pawb," meddai.

Dywedodd fod triniaethau dyddiol mewn adrannau brys yn un rhan o dair yr hyn oeddynt cyn y pandemig.

Fe fydd y gweinidog iechyd yn cyhoeddi mwy o fanylion am yr arolwg yn y Senedd ddydd Mercher.

Eisoes mae byrddau iechyd yng Nghymru wedi bod yn edrych ar sut y gallan nhw ailddechrau llawdriniaethau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw, a gwasanaethau canser.

Fe gafodd llawdriniaethau nad oedd yn rhai brys eu canslo yng Nghymru ym mis Mawrth, er mwyn caniat谩u i'r gwasanaeth iechyd fynd i'r afael a Covid-19.

Bwriad Mr Gething oedd amlinellu sut bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn ceisio dychwelyd i drefn fwy arferol - yn debycach i'r hyn oedd yn bodoli cyn y pandemig.

Ffynhonnell y llun, LLYWODRAETH CYMRU
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Mr Gething yn cyhoeddi mwy o fanylion am yr arolwg yn y Senedd dydd Mercher

Mae yna 19 o ysbytai maes yng Nghymru.

Bydd yr arolwg yn edrych ar ddefnyddio capasiti ychwanegol, gan gynnwys yr ysbytai maes, led led Cymru.

Yn 么l Mr Gething, mae niferoedd y cleifion sy'n cael triniaeth neu yn gwella ar 么l corofnafeirws yng Nghymru yn gyfystyr 芒'r nifer fyddai'n cael eu trin mewn tri ysbyty cyffredinol.