Theatrau'n colli 拢1.4m yr wythnos yn sgil pandemig

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae 2020 yn flwyddyn heriol i sefydliadau fel Theatr Clwyd
  • Awdur, Alun Rhys
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae theatrau Cymru yn dweud fod y cyfyngiadau yn sgil y coronafeirws eisoes wedi achosi colledion o filiynau o bunnoedd - a does dim argoel pryd y byd modd iddyn nhw ailagor.

Dywed Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) fod yr holl sefydliadau sy'n cael eu cefnogi ganddyn nhw yn colli cyfanswm o tua 拢1.4m yr wythnos, a'r ofn ydy y bydd theatrau ymysg y sefydliadau olaf i allu ailagor.

Mae CCC eisoes wedi clustnodi 拢7m i ddigolledu cwmn茂au ac unigolion sydd wedi dioddef yn sgil y gwaharddiadau, ond mae'n amlwg y bydd angen llawer rhagor o arian.

Yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, er enghraifft, mae mwyafrif y perfformiadau rhwng hyn a diwedd y flwyddyn eisoes wedi eu canslo ac mae dros 70% o'r staff ar 'furlough'.

A'r pryder ydy y bydd y drefn honno yn dod i ben ymhell cyn y bydd modd i'r ganolfan ailagor.

Disgrifiad o'r llun, Gwennan Mair: Y theatr angen cymorth gan y ddwy lywodraeth

Mae Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug eisoes wedi colli 拢1m o drosiant, ac yn 么l y Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol, Gwennan Mair, mae'n gyfnod hynod o heriol.

"Ar hyn o bryd dwi'n meddwl bod ni angen cyngor a chymorth gan y llywodraeth yma yng Nghymru ac ym Mhrydain," meddai.

"Dwi'n meddwl ei bod yn saff i ddeud na allwn ni agor y theatr yn yr un ffordd heb y gofal a'r cymorth yna.

"Mae yna ffyrdd y gallen ni agor y theatr yn greadigol drwy ddefnyddio llefydd y tu allan o bosib, ond o ran ein prif sioeau ni ar ein prif lwyfannau ni, dwi'n meddwl fod hynny'n stori wahanol."

Haws i theatrau cymunedol?

Bu rhaid i Theatr Bara Caws ganslo eu teithiau hefyd. Ar hyn o bryd mae'r cwmni, sy'n cyflogi pum aelod o staff, yn llwyddo i ymdopi'n ariannol, ond mae meddwl am ffyrdd o ailddechrau perfformio yn her enfawr.

Dywed y Gyfarwyddwarig Artistig, Betsan Llwyd y bydd ail-ddechrau teithio yn broblem fawr.

"Mae'n mynd i fod yn anodd o ran pellter cymdeithasol o ran y gynulleidfa ac o ran y criw ar y llwyfan a'r criw technegol," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Gall natur sioeau cymunedol Theatr Bara Caws roi'r hyder i'r gynulleidfa eistedd 芒'i gilydd, medd Betsan Llwyd

"Mae rhai yn s么n efallai y bydd cwmn茂au theatr cymunedol yn gallu dod allan o hyn fymryn yn haws, oherwydd pan ydan ni yn mynd i neuadd gymuned er enghraifft, fel arfer cynulleidfa gymunedol iawn sy'n dod i'n gweld ni a fydd pawb yn nabod ei gilydd.

"Mae yna dybiaeth efallai y bydd hynny yn fwy derbyniol gan y gynulleidfa, y byddan nhw yn teimlo yn fwy hyderus i eistedd gyda chymdogion yn hytrach na mynd i leoliad mwy ffurfiol.

"Fedrwn ni wneud dim byd nes cawn ni wybod be fydd y gofynion hefo'r llacio cymdeithasol.

"Fydd hi'n amhosib mynd yn 么l i sut oedd petha' oni bai bydd yna vaccine."

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru eu bod yn trafod y sefyllfa ariannol hefo Llywodraeth Cymru.

Bydd angen cyllid ychwanegol i gynnal y sefydliadau yn y tymor hir, meddai llefarydd, a heb y gefnogaeth honno, mae'n bosib na fydd rhai lleoliadau yn gallu ailagor.