麻豆官网首页入口

Galw am leihau pellter cymdeithasol ar fysiau

  • Cyhoeddwyd
Un o fysuiau Llew Jones CoachesFfynhonnell y llun, Llew Jones Coaches

Mae angen i Lywodraeth Cymru leihau'r pellter ymbellhau cymdeithasol o ddau i un medr ar fysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus os yw cwmn茂au annibynnol am barhau.

Dyna yw barn cyfarwyddwr Llew Jones Coaches yn Llanrwst, Steven Jones.

Mae'r gweinidog dros drafnidiaeth yng Nghymru, Ken Skates, wedi crybwyll y gallai teithwyr orfod archebu sedd o flaen llaw ar drafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, nod y syniad yw osgoi trenau a bysiau llawn, tebyg i'r hyn a welwyd yn Llundain pan gafodd y rheolau eu llacio yno.

Daeth cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU brynhawn Iau y bydd rhaid i bobl wisgo mygydau os yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr ar 么l 15 Mehefin.

Wrth siarad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru fe ddywedodd Mr Skates y byddai gwasanaethau yn parhau i weithredu ar gapasati "lot llai" er mwyn diogelu teithwyr.

Parhau mae'r cyngor gan y llywodraeth i bobl beidio 芒 theithio oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol.

Dan y syniadau sy'n cael eu hystyried fe all gweithwyr allweddol a phobl ag anableddau hefyd gael eu blaenoriaethu wrth archebu tocynnau ar-lein.

Ond yn 么l cyfarwyddwr Llew Jones Coaches yn Llanrwst, Steven Jones, dydy'r cynlluniau ddim mor addas yng ngogledd Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Steven Jones fod y rheolau yn anodd i'w dilyn mewn llefydd fwy prysur

Dywedodd Mr Jones fod y syniad yn "dda mewn pentrefi lleol" ond nid yw'n bosib iddo weithio mewn "ardaloedd prysurach fel Dyffryn Conwy" wrth ystyried y nifer o fysiau sydd ar gael, a'u maint.

Ychwanegodd y gallai'r drefn newydd fod yn "anodd i bobl h欧n" ddeall.

"Yr effaith mwyaf ydy'r nifer o bobl allwn ni gario ar fysiau," meddai. "Mae o lawr ar fys, 50 o seddi a r诺an 'da ni ond yn cario ryw 12 o bobl arno.

"'Da ni am orfod chwilio am gymorth o rywle neu bydd rhaid i'r pellter newid o ddau fedr i un fel mae'r WHO [World Health Organisation] yn dweud a byddai rhaid i bawb wisgo masgiau."

Ychwanegodd Mr Jones fod y pandemig wedi cael ergyd ariannol fawr ar y cwmni ond eu bod yn sefydlog ar hyn o bryd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gweithiwr yn glanhau bws cwmni Llew Jones

Gostyngiad o 95%

Mae trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y wlad wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y defnyddwyr.

Yn 么l Trafnidiaeth Cymru maen nhw wedi gweld gostyngiad o 95%, ac wrth ddilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol dim ond 10% o'r capasiti sy'n weddill ar eu trenau o gymharu 芒'r sefyllfa cyn y pandemig.

Yn 么l Mr Skates mae'r Llywodraeth wrthi yn trafod gyda chwmn茂au trafnidiaeth am sut mae diogelu teithwyr orau dros y misoedd i ddod.

Yng Nghasnewydd mae'r cynllun 'fflecsi' sy'n galluogi i deithwyr archebu sedd sydd dau fedr i ffwrdd o bawb arall bellach wedi dechrau am gyfnod arbrofi.

Os yn llwyddiannus y gred yw y gall Trafnidiaeth Cymru fabwysiadu cynllun o'r fath a'i ehangu i'w gwasanaethau.