Datgelu cynlluniau ailagor busnesau canol Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cynlluniau'n cynnwys systemau cerdded un-ffordd yng nghanol y ddinas

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cynlluniau i ailagor canol y ddinas yn ddiogel i'r cyhoedd pan fydd y cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio.

Mae'r trefniadau'n cynnwys systemau cerdded unffordd, ardaloedd ciwio penodedig tu allan i siopau ac "ardaloedd gorlifo" tu allan i fwytai, caffis a bariau.

Bydd mannau croesawu'n rhoi gwybodaeth i siopwyr, gweithwyr ac ymwelwyr, a bydd yna "sgw芒r cyhoeddus 'newydd'" ar diroedd Castell Caerdydd ar gyfer busnesau lleol sydd methu gwasanaethu'u cwsmeriaid oherwydd y rheolau pellter cymdeithasol.

"Mae'r cynlluniau hyn yn dechrau amlinellu i ryw raddau sut y gall bywyd ailddechrau a sut y gall Caerdydd ffynnu er gwaethaf COVID-19," meddai arweinydd y cyngor sir, Huw Thomas.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd

Disgrifiad o'r llun, Dyma sut allai'r system gerdded un-ffordd edrych ar Heol Eglwys Fair

Mae'r cyngor wedi datblygu'r cynlluniau gyda chwmni Arup, sy'n arbenigo ar ail-ddylunio dinasoedd.

Mae yna drafodaeth ynghylch datblygu ap fel bod pobl yn gallu archebu bwyd gan fusnesau yn ardal y sgw芒r cyhoeddus ar dir y castell, fyddai wedyn yn trefnu i'w cludo atyn nhw.

Awydd i ailgyflwyno cerddoriaeth fyw

Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod y cyngor yn dal "yn gweithio drwy fanylion y cynlluniau hyn gyda busnesau, trigolion a chynghorwyr lleol".

"Rwy'n benderfynol y bydd ein dinas yn ailagor mewn ffordd a fydd yn gwneud popeth sy'n bosib i ddiogelu miloedd o swyddi, ac mewn ffordd sydd ar yr un pryd yn groesawgar ac yn hyderus ynghylch dyfodol Caerdydd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Tafwyl

Disgrifiad o'r llun, Bydd g诺yl Tafwyl yn cael ei chynnal yn ddigidol o Gastell Caerdydd eleni

"Rwy' hefyd yn awyddus ein bod yn gweithio gyda'r bwrdd cerddoriaeth i ddod 芒 cherddoriaeth fyw yn 么l i'r ddinas cyn gynted ag y gallwn.

"Byddwn yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio mannau cyhoeddus i greu lleoedd diogel ar gyfer digwyddiadau lle gall pobl fwynhau cerddoriaeth ac adloniant ar y stryd mewn amgylchedd diogel a chroesawgar."