Angen cefnogaeth 'tebyg i filwyr' ar weithwyr iechyd

Disgrifiad o'r fideo, Mae Help for Heroes wedi rhannu eu cynllun gofal meddwl gyda'r gwasanaeth iechyd
  • Awdur, Geraint Thomas
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Rhaid sicrhau bod cefnogaeth ar gael ar gyfer gweithwyr iechyd sy'n debyg i'r hyn sydd ar gael ar gyfer milwyr yn dilyn brwydr, yn 么l elusen sy'n rhoi cymorth i aelodau'r lluoedd arfog.

Yn 么l Help for Heroes, mae staff y gwasanaeth iechyd yn wynebu heriau meddyliol tebyg i bobol o gefndir milwrol wrth ddelio 芒'r pandemig coronafeirws.

Mae hynny'n cynnwys gweithio o dan amgylchiadau heriol, gwisgo offer amddiffynnol, rhoi eu hunain mewn perygl, bod i ffwrdd o'u teuluoedd a cholli cydweithwyr.

Ers dechrau'r pandemig, mae dros 100 o staff iechyd a gweithwyr gofal wedi marw ar 么l cael eu heintio a'r feirws yn y Deyrnas Unedig.

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Dr Bethan Gibson fe allai'r cyfnod nesaf fod hyd yn oed yn fwy heriol i staff iechyd

"Y PPE o'dd 'di achosi'r fwyaf o rwystrau i fod yn onest," meddai Dr Bethan Gibson, sy'n ymgynghorydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant ac yn ddirprwy bennaeth y rhaglen hyfforddi ar gyfer gofal dwys yng Nghymru.

"Hefyd o'dd y cleifion o'n i'n edrych ar 么l yn ifancach na beth ni fel arfer yn trin, ac ma' hwnna yn dod 芒 pethau bach yn agos i adref.

"Fel arfer mae teuluoedd yn dod mewn, ond ni'n teimlo fel bod ni a staff ni yn cymryd lle'r teulu yn ystod end of life ac ma' hwnna 'di cael effaith ar rai o'r staff.

"Dwi'n meddwl nawr ydy'r amser anoddaf. Pan 'naeth y pandemig ddod doedd dim lot o rybudd ac o'dd pawb 'di mynd mewn i overdrive ac adrenaline i drio newid y ffordd ni'n gweithio.

"O'dd cleifion i gyd yn dod mewn, o'dd rhaid i bawb weithio mewn t卯m a gweithio'n galed. Ond nawr ni mewn lull phase, s'dim cymaint o gleifion ond ma' dal ambell i glaf."

Dysgu gwersi o faes y gad

Mae canllaw hunan ofal, gafodd ei lunio'n wreiddiol gan Help for Heroes ar gyfer milwyr oedd wedi bod trwy brofiad trawmatig neu wedi'u hanafu, bellach ar gael yn gyhoeddus ar y we er mwyn cefnogi gweithwyr iechyd.

Mae'r ddogfen yn canolbwyntio ar gymorth meddyliol, emosiynol a chorfforol.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Tim Penney o elusen Help for Heroes fod ymyrraeth gynnar yn allweddol wrth fynd i'r afael 芒 phrofiadau trawmatig

Yn 么l Tim Penney, sy'n nyrs cyswllt clinigol cyn-filwyr gyda'r elusen, mae arbenigedd ym maes gofal iechyd meddwl wedi cael ei ddatblygu dros gyfnod hir.

"Os edrychwch chi ar gyfnod, er enghraifft, yn Afghanistan yn Camp Bastion gyda'r milwyr ar lawr gwlad yno, esblygodd y driniaeth, y cwnsela a'r lles iechyd meddwl dros nifer o flynyddoedd," meddai.

Ar 么l gwasanaethu yn Kosovo, Irac, Afghanistan a Rwanda, mae gan Mr Penney brofiad o ddarparu cefnogaeth feddygol i filwyr ar faes y gad.

"Un o'r pethau rydyn ni wedi'i ddysgu o'r fyddin yw yr hiraf y byddwch chi'n aros, y gwaethaf fydd hi yn y tymor hir," meddai.

"Rhaid mynd i'r afael 芒 phroblemau iechyd fel hyn cyn gynted 芒 phosib.

"Sylwon ni fod yr heriau roedd gweithwyr hanfodol yn wynebu o fewn y gwasanaeth iechyd ac o fewn cartrefi gofal yn debyg iawn i'r rhwystredigaethau a'r anawsterau enfawr y mae llawer o'n cyn-filwyr wedi gorfod ymdopi 芒 hwy.

"Ro'n ni'n meddwl byddai rhannu'r sgiliau a'r wybodaeth hon yn fuddiol iawn."

Mae'r canllaw ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Disgrifiad o'r llun, Mae Matthew Gravelle yn wyneb, a llais, cyfarwydd ar y 麻豆官网首页入口 ac S4C ar raglenni fel Un Bore Mercher, Y Gwyll a Doctor Who

Yr actor Matthew Gravelle, sydd wedi serennu mewn rhaglenni gan gynnwys Un Bore Mercher, Broadchurch a The Snow Spider sy'n lleisio rhan o'r adnodd sy'n cynnig ymarferion anadlu.

"Dyma'r tro cyntaf i'r peth yma fod ar gael yn y Gymraeg," meddai.

"Mae hwnna'n hollbwysig i fi achos sut wyt ti'n gallu ymlacio os nad wyt ti'n gallu clywed y llais yn dy iaith dy hun?

"O'n i'n really falch i gael cyfle i 'neud rhywbeth yn ystod y cyfnod yma oherwydd does dim lot fi yn gallu neud yn gorfforol.

"Felly os fi'n gallu rhoi fy llais ar rywbeth sy'n gallu helpu, ma' hwnna'n ffantastig."

Rhannu arbenigedd

Mae'r fyddin wedi bod yn rhoi cymorth i'r gwasanaeth iechyd mewn ffyrdd eraill hefyd yn ystod y pandemig.

Am y tro cyntaf ers 300 mlynedd, mae Bataliwn y Cymry Brenhinol wedi gwasanaethu'r gymuned leol, a hynny drwy yrru ambiwlansys, dad-heintio'r cerbydau, dosbarthu offer diogelwch personol o Faes Awyr Caerdydd, a rhoi cymorth ar safleoedd profi.

Disgrifiad o'r llun, Is-gorporal Carwyn Evans o Fataliwn y Cymry Brenhinol

Mae'r Is-gorporal Carwyn Evans, rhan o gwmni Siencyn yn y gatrawd, yn dweud ei fod yn "falch" o allu helpu.

Mae'n ychwanegu bod gofal iechyd meddwl o fewn y fyddin yn flaenoriaeth bellach.

"Ers i fi fod mewn, fi wedi sylwi bod e'n beth sy'n cael ei wthio lot mwy," meddai.

"Hyd yn oed reit ar y dechrau pan gaethon ni ein mobilisio i helpu gyda Covid, y peth cyntaf o'dd rhaid i ni 'neud oedd 'neud training o ran iechyd meddwl."

Mae'r Is-gorporal Evans yn dweud bod cael y cyfle i rannu'r arbenigedd yn y maes yn fuddiol.

"Ma' beth mae'r fyddin yn 'neud ar hyn o bryd yn dda, felly os maen nhw'n gallu transferrio hwnna hefyd i helpu pobl yn yr NHS sy'n mynd trwy situation pretty galed ar hyn o bryd wedyn ie, good thing."