Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

'Angen ymgyrch i amddiffyn safonau bwyd'

  • Cyhoeddwyd
Gwartheg

Mae 'na alwadau am ymgyrch gyhoeddusrwydd gref er mwyn gwarchod amaethwyr Cymru a safonau bwyd, wrth i Lywodraeth Prydain gynnal trafodaethau masnach yn sgil Brexit.

Mae nifer fawr o ffermwyr yn gandryll wedi i welliant gael ei drechu yn Nhŷ'r Cyffredin a fyddai wedi sicrhau fod mewnforion yn cydymffurfio â'r un safonau ar gyfer ffermwyr Cymru a'r Deyrnas Unedig.

Nod y gwelliant oedd amddiffyn ffermwyr Prydain rhag mewnforion rhad na chânt eu cynhyrchu i'r un safonau. Dywedodd llawer o ASau fod safonau bwyd a fewnforiwyd yn fater i'r bil masnach, sydd newydd ddechrau ei daith drwy'r senedd.

Roedd Llywodraeth y DU wedi addo cadw cynhyrchion fel cyw iâr wedi'i glorineiddio a chig eidion sy'n cael ei fwydo gan hormonau rhag cael ei fewnforio a'i werthu mewn archfarchnadoedd ym Mhrydain.

Ond ddydd Iau 4 Mehefin fe wnaeth Downing Street wrthod cadarnhau'r addewid cynharach hwnnw.

Nawr mae ffermwyr yng Nghymru'n fwyfwy rhwystredig nad oes ymgyrch proffil uchel yng Nghymru i dynnu sylw at yr angen i amddiffyn safonau bwyd y DU mewn bargeinion masnach yn y dyfodol ar ôl Brexit gyda'r Unol Daleithiau a chenhedloedd eraill.

Mae ymgyrch yn Lloegr dan arweiniad undeb yr NFU, wedi derbyn cefnogaeth proffil uchel gan y cogydd amlwg, Jamie Oliver.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Wyn Evans eisiau i'r undebau ymgyrchu ar y cyd yn erbyn y cynlluniau i lacio safonau ar y cig sy'n cael ei fewnforio

Mae Wyn Evans yn ffermio yn Bryn Iwan yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd: "Oddi ar helynt y BSE yn y '90au a chlwy'r traed a'r genau yn 2001 'yn ni wedi gorfod glynu wrth reolau eitha' caled i gynhyrchu bwyd yn y wlad hon - sy'n golygu bo' ni'n cynhyrchu'r bwyd gore yn y byd, y bwyd glana', y gore i'r amgylchedd. A nawr mae'n nhw'n tanseilio hynna i gyd wrth dderbyn cig o wledydd eraill sy' ddim hanner cystal â'n bwyd ni."

"Rhaid i ni gydymffurfio â rheoliadau llym. Mae pob anifail yn cael ei olrhain nôl i fan geni, ma' pob symudiad yn cael ei roi ar y pasbort, ac os oes mwy na ryw dri neu bedwar symudiad ar y pasbort dyw rhai cwmnie cig ddim mo'yn yr anifeiliaid yna".

Byddai'r gwelliant i'r mesur wedi amddiffyn cynhyrchwyr a defnyddwyr Cymru yn ôl Mr Evans, sy'n poeni y bydd teuluoedd yn prynu bwyd rhatach yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.

Mae'n galw am chwarae teg, ac mae'n arbennig o siomedig bod ei AS ei hun, Simon Hart wedi pleidleisio yn erbyn y gwelliant.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Simon Hart

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Simon Hart

Dywedodd Mr Evans ei fod yn credu bod angen rhoi gwybod i'r cyhoedd ar frys am y goblygiadau iddyn nhw ac i'r gymuned ffermio.

"Ma'r undebe yn 'neud eu gwaith. Sai'n gweud bod ishe iddyn nhw uno, ond cyd-weithio. Se'r undebe a Mudiad y Ffermwyr Ifanc yn dod at ei gilydd a phawb yn lobïo eu ASau a gweinidogion y llywodraeth - dyna lle ni'n colli mas.

"Mae eisie i ni... nid addysgu'r cyhoedd, ond angen dweud wrthyn nhw am nad y'n nhw ddim yn gwbod be sy'n digwydd. Ma' eisie i ni fynd mas 'na a dangos iddyn nhw be' sy'n mynd mlan y tu ôl i ddrysau caeëdig yn Llundain. Mae'n hala dyn yn grac.

"Cofiwch beth ddigwyddodd gyda BSE a chlwy'r traed a'r genau a beth sy'n digwydd nawr gyda Covid-19. Mor rhwydd ma' afiechyd yn gallu dod mewn i'r wlad hyn a meddyliwch be sy' bwysica' - ai iechyd chi'ch hunen neu arian?"

Undebau 'wedi eu synnu'

Mae'r mesur nawr yn symud i DÅ·'r Arglwyddi ar gyfer ail ddarlleniad.

Dywedodd Rhys Llywelyn o Hybu Cig Cymru: "Beth sy' yn peri gofid mawr i ni yw nad oes unrhyw gynnyrch yn cael mynediad i farchnad y Deyrnas Gyfunol sy'n cael ei gynhyrchu i safonau is na'n cynnyrch ni.

"Ry'n ni yng Nghymru yn cynhyrchu i rai o'r safonau uchaf yn y byd, o ran iechyd a lles a'r amgylchedd, ac ry'n ni am sicrhau fod unrhyw gystadleuaeth ry'n ni yn ei wynebu yn cystadlu'n deg ac yn gaeth i'r un safonau "

Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, mae eu haelodau wedi eu syfrdanu bod ymgais i geisio gwarchod ffermwyr a'r cyhoedd rhag bwydydd sydd wedi eu cynhyrchu i safon is, wedi ei rwystro.

Mae Undeb NFU Cymru, yn pwysleisio eu bod yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Prydain i sefydlu Comisiwn ar fasnach, bwyd a Safonau Ffermio a fyddai'n sicrhau fod unrhyw fewnforion yn cydymffurfio â'r un safonau yma.

Mae'r ddau undeb yn dweud eu bod yn ceisio sicrhau y bydd y gwelliannau yn cael cefnogaeth yn NhÅ·'r Arglwyddi wrth i'r mesur amaeth gael ei drafod yno nesa.

Mae Llywodraeth Cymru'n pwysleisio na all y bargenion newydd hyn greu sefyllfa annheg a thaw ei phrif flaenoriaeth yw sicrhau bod Llywodraeth Prydain yn deall ac yn ystyried barn cynhyrchwyr Cymru.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth San Steffan, maen nhw wedi ei gwneud hi'n gwbwl glir yn ystod eu holl drafodaethau, yn cynnwys y rhai gydag America, na fyddan nhw'n gwneud unrhyw beth i beryglu safonau uchel ym Mhrydain.

Ychwanegodd y byddai ffermwyr o'r DU wastad yn medru cystadlu mewn unrhyw gytundeb a gaiff ei arwyddo.