UCAC: 'Cynlluniau ailagor yn peri gormod o risg'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae ysgolion Cymru wedi bod ynghau ers 20 Mawrth

Mae'r gweinidog addysg Kirsty Williams yn wynebu galwadau pellach i ollwng ei chynlluniau i ailagor ysgolion ar gyfer bob blwyddyn ar ddiwedd y mis.

Daw galwad diweddaraf undeb athrawon UCAC ar y diwrnod pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU na fyddai holl ddisgyblion cynradd Lloegr yn dychwelyd i'r ysgol cyn gwyliau'r haf wedi'r cwbl.

Mewn llythyr at y gweinidog addysg mae UCAC yn dweud fod y cynlluniau presennol yn peri gormod o risg i aelodau staff, gan alw am gau'r ysgolion tan fis Medi.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fyddai'r newidiadau yn Lloegr yn effeithio ar y penderfyniad yng Nghymru.

Mae'r rhan fwyaf o undebau athrawon wedi bod yn feirniadol o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ailagor ysgolion i bob blwyddyn am gyfnodau cyfyngedig yn ystod yr wythnos.

Ddydd Iau fe wnaeth cynrychiolwyr athrawon 芒 swyddogion Llywodraeth Cymru gynnal rhagor o drafodaethau.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Kirsty Williams hefyd wedi dweud bydd y tymor yn cael ei ymestyn wythnos tan 27 Gorffennaf

Cyn y cyfarfod, ysgrifennodd UCAC at Ms Williams yn dweud bod gofyn i ysgolion baratoi i blant ddychwelyd "heb wybod pa drefniadau fydd ar waith i sicrhau eu diogelwch".

Agor ym mis Medi "fyddai'r opsiwn doethaf" meddai UCAC, ond gallai caniat谩u i flynyddoedd 6, 10 a 12 ddychwelyd cyn yr haf "fod yn ymarferol".

"O dan yr amgylchiadau presennol, mae'r ystyriaethau ymarferol, logistaidd sy'n gysylltiedig 芒 cheisio rhoi cyfle i bob disgybl ddychwelyd i'r ysgol cyn yr haf yn arswydus" meddai.

"Cred UCAC fod y risgiau y mae'r llywodraeth yn gofyn i weithlu'r ysgolion eu cymryd yn annerbyniol o uchel."

Galwodd am sicrwydd ar ystod o bwyntiau, gan gynnwys cyflenwi offer amddiffynnol personol a phrofion coronafeirws ar gyfer disgyblion a staff.

Roedd llywodraeth y DU wedi bwriadu i bob disgybl cynradd yn Lloegr dreulio pedair wythnos yn yr ysgol cyn gwyliau'r haf.

Nawr maen nhw'n credu na fydd hynny'n ymarferol ac yn lle hynny mae yna "hyblygrwydd" i ysgolion ynghylch derbyn disgyblion ai peidio.

Dim effaith

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fyddai'r newid polisi yn Lloegr yn effeithio ar y cynlluniau yma.

Ychwanegodd na fyddai ganddyn nhw unrhyw beth i ychwanegu at ddatganiad Kirsty Williams yr wythnos ddiwethaf, ac fe gadarnhaodd y byddai canllawiau i ysgolion ac awdurdodau addysg lleol yn cael eu cyhoeddi ddydd Mercher.