麻豆官网首页入口

Cadw dau fetr yn 'amhosib' i driniaethau harddwch

  • Cyhoeddwyd
Julie Broster
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Julie Howatson Broster am orfod addasu eu busnes a gwneud newidiadau ond dyw hynny ddim yn "beth drwg chwaith" meddai

Mae derbyn triniaethau harddwch mwy neu lai yn dasg amhosib heb dorri'r gyfraith o ymbellhau cymdeithasol, medd rhai yn y diwydiant.

Gyda nifer o salonau a siopau harddwch bellach wedi cau ers sawl wythnos mae un perchennog yn mynnu mai "hwn yw'r cyfnod i baratoi".

Yn 么l Julie Howatson Broster, o Salon Visage yn Ninbych, bydd sicrhau hylendid manwl a defnyddio cyfarpar diogelwch yn rhan o'r broses newydd.

Dim canllawiau penodol

Beth bynnag fo'r driniaeth, mae'n debyg bydd y sector yn edrych yn gwbl wahanol.

Does dim canllawiau penodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y sector harddwch a thrin gwallt, ond mae disgwyl i'r busnesau ddilyn cyfreithiau ymbellhau cymdeithasol.

Ers agor ei busnes dros 20 mlynedd yn 么l mae Julie Howatson Broster wedi goresgyn dau ddirwasgiad a newidiadau i'r farchnad.

Disgrifiad,

'Amhosib 'neud harddwch heb gyffwrdd cyrff pobl'

Yr her ddiweddar ydi ymateb i'r pandemig ryngwladol, her mae hi wedi ei thaclo gydag ysbryd positif.

"O ran ein gwaith ni, harddwch, 'da ni'n gweithio yn agos iawn at bobl", meddai.

"Mae'n amhosib gwneud harddwch heb 'twtchio' pobl. Felly ar hyn o bryd ni fydd un o'r rhai olaf i fynd yn 么l."

Newidiadau gweledol

Ar lawr y salon mae 'na newidiadau amlwg.

Erbyn hyn mae offer hylendid wedi ei osod wrth y brif fynedfa a bydd gofyn i gwsmeriaid un ai aros yn eu ceir tan fod y gweithiwr yn barod amdanynt neu mae 'na arhosfan newydd yn yr awyr agored.

"Dwi 'di bod yn edrych ar y w锚 ar y gofal iechyd a'r saniteiddio", meddai Ms Broster.

"Mi fydd yr offerynnau metel gorfod cael eu rhoi mewn disinfectant ac wedyn fydd na bocsys efo popeth glan yno.

"Unwaith iddo gael ei ddefnyddio gan glient fydd o'n mynd mewn i'r barberside ac mewn i focs fydd yn dweud eu bod nhw wedi eu disinfectio.

"Popeth arall - once used- y PPE, bydd hwnna gorfod mynd i'r bin, ffeils manicure yn mynd syth i'r bin hefyd."

"Mae 'na lot i feddwl am ond dwi'm yn meddwl bod o'n beth drwg chwaith."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn sgil y pandemig mae Catrin Jones, sy'n torri gwallt, yn bwriadu gofyn i'w chleientiaid ddod i'w chartref hi

Nid un safle parhaol yw swyddfa pawb yn y maes. Ar draws Cymru mae miloedd yn y sector yn defnyddio tai eu cwsmeriaid i wneud eu triniaethau harddwch. Ond mae'n debygol fydd hynny'n gorfod newid am gyfnod.

Mae Catrin Jones o Ddinbych yn un o rheini sydd wedi arfer teithio o d欧 i d欧 yn torri gwalltiau a bellach yn ystyried trefn newydd.

"Fyddai'n gofyn i'r cwsmer os ydy nhw eisiau dod ata' i gan fydd gennai stafell [yn y t欧].

"Fyddai'n gallu controlio pwy sy'n mynd a dod.

Y gost yn boen meddwl

"Fyddai'n gallu sanatisio popeth ar 么l i'r cwsmer fynd a fydd nhw'n cael lliain a gown newydd rhwng pob cwsmer."

Mae Julie Howatson Broster wedi rhoi cynlluniau yn eu lle i wneud rhai triniaethau tu allan. Ond mae hyn yn gostus meddai.

"Dyma mae lot yn poeni amdano ydi'r gost - dwi'n gobeithio bydd cwmn茂au ddim yn codi prisiau", meddai.

"Dwi'n gweld rhai yn gostwng nhw r诺an ac iechyd ydi'r peth pennaf wrth gwrs."