麻豆官网首页入口

'Cefnogwch y trefi sy'n dioddef fwyaf achos Covid-19'

  • Cyhoeddwyd
RhylFfynhonnell y llun, Getty Images

Dylid sefydlu 'cronfa adfywio cymunedau' gwerth 拢250m i gefnogi'r trefi yng Nghymru sydd wedi'u taro galetaf gan y pandemig, yn 么l y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd arweinydd gr诺p y blaid yn Senedd Cymru y byddai'r cynllun yn helpu i fynd i'r afael ag "argyfwng economaidd cyhoeddus".

Honnodd Paul Davies y byddai'r gronfa'n caniat谩u i ardrethi busnes gael eu dileu ar gyfer rhai busnesau yn y cymunedau sydd wedi dioddef fwyaf.

Ychwanegodd fod yr arian eisoes ar gael i dalu am y cynllun, ond cwestiynu hynny wnaeth Llafur Cymru.

Daw cyhoeddiad polisi'r Ceidwadwyr ar 么l i adroddiad diweddar awgrymu bod nifer o drefi Cymreig ymhlith y rhai mwyaf bregus i effeithiau economaidd y pandemig ar draws Cymru a Lloegr.

O dan gynlluniau'r blaid byddai cronfa o 拢250m yn cael ei sefydlu ar gyfer tymor nesaf Senedd Cymru i gefnogi'r cymunedau yr effeithir arnynt waethaf.

Dywed y Ceidwadwyr y byddai hynny'n ei gwneud hi'n bosibl i sefydlu parthau lle na fyddai'n rhaid i unrhyw fusnesau dalu cyfraddau busnes am dair blynedd.

Tu hwnt i'r parthau busnes penodol hyn, mae'r blaid am weld trethi busnes yn cael eu diddymu i unrhyw fusnes sydd gyda gwerth ardrethol o hyd at 拢15,000.

Ar hyn o bryd mae busnesau sydd 芒 gwerth ardrethol o lai na 拢6,000 wedi'u heithrio rhag talu cyfraddau ac mae'r swm sy'n daladwy'n amrywio ar gyfer y rhai sy'n werth rhwng 拢6,000 a 拢12,000.

"Rydyn ni'n mynd trwy nid yn unig argyfwng iechyd cyhoeddus ond rydyn ni hefyd yn mynd trwy argyfwng economaidd cyhoeddus," meddai Mr Davies wrth raglen Politics Wales y 麻豆官网首页入口.

"A dyna pam ei bod yn gwbl hanfodol nawr wrth inni ddod allan o'r pandemig hwn ein bod yn cefnogi'r cymunedau a fydd yn cael eu taro galetaf gan y pandemig."

Dywedodd Mr Davies y byddai'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes yn "cefnogi'r busnesau presennol hynny yn y cymunedau, ond hefyd yn denu busnesau newydd".

Honnodd fod digon o arian yng nghoffrau Llywodraeth Cymru i dalu am y cynllun o ganlyniad i wariant Llywodraeth y DU ar y pandemig yn Lloegr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru nad oedd hynny'n gywir.

Ychwanegodd: "Ymddengys nad yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn deall bod yna gyfyngiadau llym ar yr arian y gallwn ei gario ymlaen o un flwyddyn i'r llall.

"Mae busnesau bach ag eiddo sydd 芒 gwerth ardrethol o lai na 拢12,000 eisoes yn cael rhyddhad ardrethi busnes.

"Er y byddai ymestyn hyn ymhellach yn ddymunol, byddem ond yn gallu ystyried gwneud hynny pe bai'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn darparu setliad ariannol sy'n sylweddol fwy hael."

Mae cynllun Plaid Cymru ar gyfer adfywio'r economi'n cynnwys gwarantu swydd i bob person ifanc 18-24 oed sydd yn ddi-waith a sefydlu "cronfa adnewyddu" i "drawsnewid sectorau y nodwyd eu bod yn cael eu taro galetaf gan Covid-19".

Politics Wales, 麻豆官网首页入口1, 10:15 ddydd Sul ac yna ar I-Player