Nifer sy'n hawlio budd-daliadau wedi dyblu

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn ymwneud 芒 diffyg gwaith yng Nghymru wedi dyblu o'i gymharu 芒'r un cyfnod y llynedd.

Roedd 118,600 yn hawlio'r budd-dal yng nghanol Mai sef 6.2% o'r unigolion rhwng 16 a 64 oed.

Serch hynny mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos gostyngiad bychan yn lefel diweithdra Cymru rhwng Chwefror ac Ebrill - o 3.2% i 3%, o'i gymharu 芒 3.9% ledled y DU.

Dyma'r ffigyrau cyntaf sy'n cynnwys mis llawn cyntaf cyfnod clo'r argyfwng coronafeirws.

Roedd diweithdra'n parhau i ostwng ar ddechrau'r chwarter dan sylw, ond roedd hynny cyn i'r cyfyngiadau frathu - sefyllfa sydd wedi achosi'r gostyngiad mwyaf ar gofnod yn nifer y swyddi posib sydd ar gael.

Mae'r amcangyfrifon cynnar yn adlewyrchu tua chwech wythnos o'r cyfnod clo, pan gafodd bron i naw miliwn o bobl y DU eu rhoi ar gynllun absenoldeb ffyrlo Llywodraeth San Steffan.

Bydd gwir effaith y sefyllfa ar lefelau cyflogaeth ddim yn amlwg tan ddaw'r cynllun hwnnw i ben ym mis Hydref, yn 么l economegwyr.

Roedd 47,000 o bobl heb waith yng Nghymru rhwng Chwefror ac Ebrill 2020 - 4,000 yn llai na rhwng Tachwedd ac Ionawr, a 22,000 yn llai na rhwng Chwefror ac Ebrill 2019.

Ond mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod 15,000 yn llai o bobl yn cael eu cyflogi yng Nghymru, o'i gymharu 芒'r un cyfnod y llynedd.

Casnewydd oedd yr awdurdod lleol gyda'r gyfradd uchaf yn hawlio budd-daliadau - 7.5% - gyda Merthyr Tudful yn ail agos.

Llai o oriau gwaith

Arwydd arall o effaith y cyfnod clo yw bod nifer yr oriau y mae pobl yn eu gweithio wedi gostwng 8.9% rhwng Chwefror ac Ebrill - y gostyngiad mwyaf ers 1971.

Mae'r nifer oedd yn hawlio budd-daliadau diweithdra yng Nghymru rhwng Mawrth a Mai wedi cynyddu 108% yng Nghymru, a 126% ledled y DU.

Mae'r ystadegau hefyd yn dangos y gostyngiad mwyaf ar gofnod yn nifer y bobl hunan-gyflogedig sy'n gweithio.

Dadansoddiad Gohebydd Economeg 麻豆官网首页入口 Cymru, Sarah Dickins

Wrth wybod am effaith coronafeirws ar yr economi, bydd clywed fod diweithdra wedi gostwng ychydig yng Nghymru yn peri syndod a gall ffigyrau hawlio budd-daliadau heddiw ymddangos yn anghyson.

Wrth wneud synnwyr o'r ystadegau mae darlun cliriach yn dod i'r amlwg. Mae'r ffigyrau diweithdra sydd newydd eu cyhoeddi yn berthnasol i'r tri mis rhwng Chwefror ac Ebrill - ac roedd cyfyngiadau'r pandemig ond mewn grym yn ystod hanner y cyfnod hwnnw. Ond mae'r ystadegau'n dangos faint o bobl oedd yn hawlio budd-daliadau diweithdra ar ddiwrnod penodol - 14 Mai 2020 - ac mae'r cynnydd yn hynny o beth yn sylweddol iawn.

Bydd y ffigyrau sy'n cael eu cyhoeddi fis nesaf yn adlewyrchu'n well yr hyn sydd wedi digwydd yn y gweithle. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu fod cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU wedi cadw miliynau o bobl mewn gwaith, gan gyflawni ei nod. Bydd yn rhaid aros sawl mis yn rhagor cyn y cawn wybod effaith gyflawn y pandemig ar swyddi yng Nghymru.

Mae'r Athro Dylan Jones Evans o Brifysgol De Cymru yn cytuno nad yw "sioc" economaidd y pandemig "wedi hitio'r ystadegau eto."

"Fis nesa', wrth edrych yn 么l ar Ebrill a Mai, dyna pryd fydd y dirwasgiad yn dechrau dangos a mwy o bobl yn colli swyddi," meddai wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru.

"Mae economi Cymru yn llawer mwy dibynnol o'i gymharu 芒 Lloegr ar sectorau sydd wedi cael eu taro yn galetach nag unrhyw sector arall, fel twristiaeth, lletygarwch a manwerthu.

"Mae'r busnesau yn y sectorau hyn wedi bod yn galw am ddangos llwybr clir i osgoi dirwasgiad dwfn yn y sectorau hyn. Mae'n rhaid cael amser i baratoi i ailagor busnesau yn ddiogel."

Ychwanegodd ei fod am weld llywodraethau Cymru a'r DU yn "canolbwyntio ar y sectorau sydd wedi eu taro waethaf."

"Mae 95% o fusnesau cyllidol a phroffesiynol yn agored, dim ond 25% o fusnesau yn y sector dwristiaeth sydd wedi medru parhau," meddai. "Rydan ni'n gwybod bod yna ddirwasgiad ar y ffordd a'r math o sectorau a phobl ifanc yn benodol sy'n gweithio yn y sectorau hyn, felly mae'n rhaid gwneud yn si诺r nad ydyn ni'n colli'r talent yna a bod yna help ar gael."