麻豆官网首页入口

Cyhoeddi dyddiadau newydd gemau Euro 2020 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Wayne Hennessey a Gareth BaleFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Wayne Hennessey a Gareth Bale yn aelodau o garfan Cymru yn Euro 2016

Mae Uefa wedi cadarnhau bydd y 12 lleoliad ar gyfer Euro 2020 yn cael eu defnyddio pan fydd y gystadleuaeth yn cael ei gynnal yn ystod haf 2021.

Mae'n golygu y bydd Cymru yn chwarae eu dwy g锚m gyntaf, yn erbyn Y Swistir ar 12 Mehefin a Twrci bedair niwrnod yn ddiweddarach, ym mhrifddinas Azerbaijan, Baku.

Bydd t卯m Ryan Giggs yn wynebu'r Eidal yn Rhufain ar 20 Mehefin.

Fe fydd tocynnau yn parhau i fod yn ddilys ar gyfer y twrnament y flwyddyn nesaf.

Mae gan ddeiliad tocynnau gyfle i ddychwelyd eu tocynnau os nad ydynt am fynychu'r gemau a derbyn ad-daliad.

Mae pedwar o glybiau Uwchgynghrair Cymru wedi cael gwybod beth fydd fformat cystadlaethau Cynghrair y Pencampwyr a Chynghrair Europa y tymor nesaf.

Bydd gemau rhagbrofol yn ddwy gystadleuaeth yn cael eu cynnal dros un cymal yn unig.

Cei Conna fydd cynrychiolwyr Cymru yng Nghynghrair y Pencampwyr gyda'r Seintiau Newydd, Y Bala a'r Barri yn cystadlu yng Nghynghrair Europa gyda'r bwriad i'r gemau gael eu cynnal ym mis Awst.