麻豆官网首页入口

Covid-19: Y siwrne hir i wella

  • Cyhoeddwyd
Sara EdwardsFfynhonnell y llun, Sara Edwards
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sara'n gwneud ymarferion i'w helpu i wella

Mae'r mwyafrif sy'n dal y coronafeirws yn gwella gydag amser ond mae 'na rai sy'n dal i deimlo effeithiau'r feirws fisoedd ar 么l ei ddal. Mae doctoriaid hefyd yn bryderus am yr effeithiau hir-dymor ar y meddwl a'r corff.

Mae Sara Edwards o Eglwyswrw, Sir Benfro yn gweithio fel rheolwr i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghaerdydd. O redeg hanner marathons a byw bywyd '100 milltir yr awr' mae Sara wedi bod yn s芒l gyda'r coronafeirws ers dros naw wythnos ac yn rhannu ei stori gyda Cymru Fyw am ei thaith hir i wella.

Mae'r coronafeirws neu COVID-19 wedi cael effaith ar bob un o'n bywydau, p'un ai ydym wedi dal y feirws ai peidio.

Dw i'n 26, yn ffit ac yn iach, ond eto i gyd mae dal y feirws wedi cael effaith aruthrol arna'i. Dw i'n dioddef ychydig o asthma a nifer o alergeddau bwyd difrifol; ond dim cyflyrau meddygol eraill. Felly dwi'n gofyn, pam fi?

Ar 么l dal Covid-19 dros ddeufis yn 么l, dwi'n teimlo mod i wedi bod ar rollercoaster o afiechyd, blinder llwyr a phob math o emosiynau.

Er mod i ddim wedi bod digon s芒l i fod yn yr ysbyty, mae 'mhrofiad i o'r feirws hyd yma wedi teimlo'n hir ac yn frawychus dros ben gyda fy symptomau'n amrywio ac yn newid bob dydd.

Wrth feddwl yn 么l i'r dyddiau pan ddaeth hi'n amlwg fod y feirws yn fygythiad mawr i'n gwlad, roedd hi'n amlwg mai'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas (dros 70 oed, neu'r rhai 芒 chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes ac ati) oedd mwya' mewn perygl o ddiodde'n ddifrifol o Covid-19.

Fel menyw ffit ac iach yn fy ugeiniau, do'n i ddim yn teimlo'n arbennig o bryderus am ddal y feirws.

Felly ym mis Ebrill, pan ddechreuais gael pen tost a phoenau yn fy nghoesau a fy nghefn, wnes i anwybyddu'r symptomau gan feddwl taw blinder o weithio oriau hir o'n nhw neu o bosib dos ysgafn o'r feirws fyddai'n diflannu ar 么l ychydig o orffwys.

Roedd rhai o fy nghydweithwyr yn y GIG wedi bod yn s芒l gyda'r feirws. Felly roedd yn gwneud synnwyr i fi a phawb yn y t欧 hunan-ynysu ac i fi gael fy mhrofi.

Ffynhonnell y llun, Sara Edwards
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sara ar ei ffordd i'w gwaith yn ysbyty maes Stadiwm Principality cyn dal Covid-19

Daeth canlyniad y prawf yn 么l yn negyddol, oedd yn gwneud synnwyr o ystyried taw dim ond symptomau annelwig oedd gen i.

Prawf positif

Ond dros y pump i saith diwrnod nesaf, gwaethygodd y poenau. Datblygodd y boen mwya' erchyll yn fy nghluniau, fy mhengliniau a choesau. Wedyn dechreuais i gael chest tyn a pheswch sych ac o'n i'n deffro bob bore gyda phen tost gwael.

Erbyn hyn o'n i'n cwestiynu canlyniad y prawf Covid-19 - ac yn dilyn swab pellach, ffeindiais i mas mod i yn Covid-positif.

O'r pwynt hwnnw ymlaen, dechreuais i deimlo'n waeth. Roedd y prinder anadl yn gwaethygu a fy nheulu'n sylwi mod i methu ffurfio brawddeg heb gymryd anadl siarp rhwng geiriau. O'n i'n methu dal fy anadl wrth wneud unrhyw beth mwy na cherdded.

Cerdded i fyny'r grisiau .. brwsio fy ngwallt .. penlinio lawr i wisgo p芒r o sanau ... - roedd popeth yn teimlo fel tasg. Blinder fel dim dw i erioed wedi'i brofi o'r blaen.

Ac mae'r cyferbyniad, o'i gymharu 芒 fy arfer o wneud ymarfer corff neu redeg pedwar neu bum gwaith yr wythnos, wedi fy ngadael yn teimlo'n hollol anobeithiol.

Ffynhonnell y llun, Sara Edwards

Un bore, tair wythnos wedi'r diagnosis, dihunais gyda mhen i'n curo fel pe bawn i wedi yfed cwpl o boteli o win coch y noson cynt, fy nghalon yn rasio a fy chest a fy nghefn yn dynn iawn - ac o'n i'n gwybod fod angen i mi ofyn am help.

Cefais fy anfon i'r Uned Asesu Meddygol yn fy ysbyty agosaf. O'n i'n cyflwyno nifer o symptomau, gan gynnwys tachycardia (cyfradd curiad y galon uchel), lefel yr ocsigen yn y gwaed yn amrywio a phoen ac铆wt yn y frest a'r cefn.

Mae'n debyg fod y symptomau yn arwyddion parhaol o'r coronafeirws a ches i fy anfon adref.

Ond dydd ar 么l dydd, mae'r blinder ofnadwy yn parhau. Mae fel deffro i chwarae g锚m lucky dip bob bore. Beth fydd hi heddiw - pen myglyd? poen cefn gwael? breuddwydion rhyfedd? trafferth anadlu? twymyn? llygaid tost?

Rai dyddiau, dwi'n teimlo'n fwy optimistaidd, ac yn gwneud ymdrechion bach i geisio teimlo'n normal eto - cerddediad byr, gwneud cinio, bach o arddio - ond mae hyn bron o hyd yn arwain at deimlo'n ofnadwy drannoeth.

Pan fyddwch yn gwglo 'amseroedd gwella covid', ar gyfer pobl sy' heb fod yn yr ysbyty, mae'n dweud ei fod yn gyfnod o tua phythefnos.

Dw i heb fod yn yr ysbyty, ac eto dwi'n dal i deimlo'n s芒l; yn cwestiynu pam dw i heb wella o fewn pythefnos. I rywun sy'n arfer byw bron i 100 milltir yr awr, mae'r cyferbyniad wedi bod yn sioc.

Teimlo'n ynysig

Dyma'r mwyaf unig dw i wedi teimlo yn fy mywyd.

Mae peidio ag adnabod unrhyw un na gallu uniaethu 芒 rhywun sy'n mynd trwy'r un peth wedi fy ngadael yn teimlo'n ynysig. Mae'r rhai o'm cwmpas wedi helpu fi i ymdopi.

Ffrindiau, teulu, cydweithwyr - pobl yn camu i mewn yn dawel, gan atgoffa fi nad ydw i ar fy mhen fy hun a 'bydd hyn hefyd yn pasio'.

Ffynhonnell y llun, Sara Edwards

I eraill sy'n profi rhywbeth tebyg i fi tra'n gwella, dyw hi ddim yn anghyffredin i gael symptomau sy'n parhau am wythnosau.

Nid 'feirws yn unig' yw Covid-19 - mae'n bwysig bod pobl yn deall y gall ei 么l-effeithiau fod yn sylweddol. Dw i'n parhau i wella, ac yn gwneud cynnydd bach bob dydd tuag at deimlo'n well. Ond dwi'n cydnabod y gallai gymryd ychydig o amser.

Am y tro, dw i'n mynd i eistedd yn 么l, a cheisio meddwl am y cyfnod hwn yn gadarnhaol - cyfnod o orffwys ac ymlacio i gael gwella'n iawn.

Cyhoeddwyd fersiwn o stori Sara yn wreiddiol mewn

Hefyd o ddiddordeb