Airbus: 'Cyfran sylweddol' o 1,700 swydd i fynd ym Mrychdyn

Disgrifiad o'r fideo, Ymateb yr arbenigwr ar awyrofod, Mike Watson, a rhai o bobl tref Yr Wyddgrug i'r newydd

Mae Gweinidog yr Economi Cymru wedi dweud ei fod yn disgwyl y bydd "cyfran sylweddol" o'r 1,700 o swyddi Airbus fydd yn cael eu colli yn y DU yn mynd yn Sir y Fflint.

Daeth cadarnhad gan y cwmni nos Fawrth eu bod yn bwriadu colli 15,000 o swyddi drwy Ewrop wrth geisio delio gydag effaith yr argyfwng coronafeirws.

Mae'r safle ym Mrychdyn yn cynhyrchu adenydd ar gyfer awyrennau'r cwmni ac yn cyflogi 6,000 o weithwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bu gweithwyr yn ffatri Airbus ym Mrychdyn yn gweithio i gynhyrchu awyryddion (ventilators) yn ystod y pandemig

Mae disgwyl i 1,700 o swyddi gael eu colli yn y DU, a hynny yn bennaf yn safleoedd y cwmni ym Mrychdyn a Filton ger Bryste.

Wrth siarad yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru ddydd Mercher, dywedodd Ken Skates ei fod yn derbyn fod y cwmni'n "cynllunio ar gyfer colli cyfran sylweddol o'r rheiny ym Mrychdyn".

"Mae'n amlwg beth sydd wedi achosi hyn - mae'r pandemig Covid-19 wedi cael effaith sydyn a thrychinebus ar y diwydiant awyr ac awyrofod ar draws y byd," meddai.

Dywedodd hefyd ei bod hi'n "hollol hanfodol" fod Canghellor Llywodraeth y DU, Rishi Sunak yn cynnig cymorth i'r diwydiant.

Ychwanegodd y byddai'n cynnal uwch-gynhadledd yn y gogledd yn yr wythnosau nesaf er mwyn asesu dyfodol hir dymor y safle.

Bydd hyn, meddai, yn helpu'r llywodraeth i baratoi sectorau fel awyrofod, moduro a gwneud nwyddau ar gyfer y cyfnod "ar 么l Covid, ar 么l Brexit a gyda'r nod o fod yn garbon niwtral".

Disgrifiad o'r llun, Ken Skates: Neb wedi rhagweld effaith ddinistriol coronafeirws ar y sector awyrofod

Gofynnwyd i Mr Skates am ba gyfleoedd fyddai ar gael i bobl ifanc a oedd yn gobeithio am yrfa ar y safle ym Mrychdyn yn y dyfodol ac i'r rhai sy'n ymgymryd 芒 phrentisiaethau yno.

Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar ymestyn hyfforddiant prentisiaid a'u bod y gobeithio canfod ffordd o gefnogi'r rhai oedd i fod i ddechrau eleni, meddai.

Dywedodd y "byddwn yn buddsoddi yn eich dyfodol, byddwn yn buddsoddi yn ffatri Airbus... a byddwn yn darparu rhagolygon disglair ar gyfer y ffatri a'ch dyfodol hefyd".

"Nid dyma ddechrau'r diwedd i Airbus ym Mrychdyn," meddai.

Galw ar Lywodraeth y DU i weithredu

Dywedodd Mr Skates hefyd ei bod hi'n "hollol hanfodol" fod Rishi Sunak a Llywodraeth y DU yn cynnig cymorth i'r diwydiant.

Fe gyfeiriodd at esiamplau o wledydd fel Ffrainc ble mae'r llywodraeth eisoes wedi cynnig cymorth ariannol i'r sector.

Awgrymodd rai camau allai helpu'r diwydiant awyr, gan gynnwys dileu'r Dreth Teithwyr Awyr dros dro, ac annog cwmn茂au i wneud eu gwaith cynnal a chadw yma yn y DU.

"Mae angen i ni symud yn sydyn a gyda'n gilydd - ar draws ffiniau daearyddol a gwleidyddol - i warchod y sector, bywoliaeth pobl sy'n gweithio ynddo, a'r cymunedau sy'n dibynnu ar y diwydiant awyrofod," meddai.

Ychwanegodd y gallai'r llywodraeth hefyd leihau'r wythnos waith, o bosib i bedwar diwrnod - syniad sydd wedi cael ei awgrymu er mwyn hybu'r economi yn dilyn Covid-19.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ychwanegodd Mr Skates fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud "buddsoddiad anhygoel" ar y safle ym Mrychdyn a'r sector yn ehangach

Brynhawn Mercher cafodd Boris Johnson ei holi yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog am y swyddi fydd yn mynd yn Airbus.

Dywedodd AS Llafur De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty nad oedd pobl eisiau clywed "sloganau", ond yn hytrach gweld Llywodraeth y DU yn gweithredu.

Ychwanegodd fod swyddi eraill yng Nghymru hefyd yn y fantol gan gynnwys rhai gyda British Airways, GE, a Rolls Royce.

Mewn ymateb dywedodd Mr Johnson fod "cynllun buddsoddi gwerth 拢600bn" i gael ac y byddai'n sicrhau "swyddi, swyddi, swyddi".