麻豆官网首页入口

450 o staff gwesty'r Celtic Manor i golli eu gwaith

  • Cyhoeddwyd
Celtic Manor ResortFfynhonnell y llun, Gareth James/Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan westy pum seren Celtic Manor Resort 400 o ystafelloedd i westeion

Mae dyfodol 450 o swyddi mewn gwesty adnabyddus ar gyrion Casnewydd dan fygythiad, wrth i effaith pandemig y coronafeirws effeithio ar y diwydiant lletygarwch.

Clywodd gweithwyr yng ngwesty'r Celtic Manor y newyddion fod bron i hanner holl swyddi'r gweithlu o 995 dan fygythiad mewn cyfarfod ddydd Iau.

Biliwnydd cyntaf Cymru, Syr Terry Matthews sydd yn berchen ar y safle, oedd yn leoliad i bencampwriaeth golff y Ryder Cup yn 2010 a chynhadledd NATO yn 2014.

Y feirws yn 'cael effaith gatastroffig'

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd cwmni The Celtic Collection, sydd yn berchen ar westy'r Celtic Manor a chanolfan gynadledda gyfagos, fod y pandemig "yn parhau i gael effaith gatastroffig ar yr economi fyd-eang, ein cenedl a'r diwydiannau teithio, twristiaeth a lletygarwch am fisoedd lawer i ddod."

O achos hyn roedd yn rhaid i'r cwmni newid ei ffurf a'i faint ac nid oedd y "model ariannol presennol yn gynaliadwy gyda gostyngiad sylweddol mewn archebion a refeniw."

Dywedodd The Celtic Collection ei fod yn "difaru gorfod cymryd cam fel hyn mewn ymateb i effaith difrifol economaidd pandemig Covid-19" ac roedd y cwmni "yn deall yr effaith sylweddol y byddai hyn yn ei gael ar fywoliaeth aelodau'r t卯m sydd wedi eu heffeithio a'u teuluoedd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyn arlywydd yr UDA, Barack Obama yn cyfarfod cyn brif weinidog Cymru Carwyn Jones yng nghynhadledd NATO yn y Celtic Manor yn 2014

Mae safle 2000 acer y Celtic Manor yn cynnwys y gwesty ei hun sydd gyda 400 o ystafelloedd, ac mae gwesty arall 154 ystafell wrthi yn cael ei adeiladu gerllaw wrth gyffordd Coldra o'r M4 hefyd.

Fe agorodd canolfan gynadledda ryngwladol 拢83m ar y safle y llynedd, oedd yn fenter ar y cyd rhwng y perchnogion a Llywodraeth Cymru.

Gyda lle i 5,000 o gynadleddwyr, fe gafodd y fenter 拢22.5m o arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, ac fe ddaeth enwogion yn cynnwys Arnold Schwarzenegger i'r agoriad swyddogol ym mis Medi 2019.

Mae portffolio'r Celtic Manor yn cynnwys tri cwrs golff, nifer o fwytai, dau sba, tafarn a meithrinfa.

Fe brynodd Mr Matthews y safle yn 1980.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd cwrs golff newydd ei adeiladu ar y safle ar gyfer cystadleuaeth golff y Ryder Cup yn 2010